
Celfyddydau Creadigol Lefel 2
- Campws Aberystwyth
Os oes diddordeb gennych mewn celfyddydau perfformio, neu gelf a dylunio, yna mae’r cwrs celfyddydau creadigol hwn i chi.
Mae Pob peth creadigol (All things creative) ein cwrs Lefel 2 OCR Cambridge Technicals mewn Celfyddydau Perfformio a Chelf a Dylunio yn rhoi’r profiad ymarferol i chi i helpu datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth fydd yn eich paratoi ar gyfer mynd ymlaen i Gwrs Lefel 3 ac yna ymlaen i gyflogaeth o fewn y sector creadigol cystadleuol ac eang hwn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth i chi sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel tri. Bydd ein cwrs celfyddydau creadigol lefel dau yn eich tywys yn y sgiliau technegol i wneud i’ch gwaith sefyll allan a byddwn yn rhoi’r wybodaeth, yr ysbrydoliaeth ac yn bennaf oll yr hyder i chi i archwilio eich perfformiad a’ch syniadau artistig creadigol eich hun. Mae gennym ddull hyblyg, gyda ffocws ar wneud eich syniadau a’ch gwaith creadigol yn unigryw ac yn ganolbwyntiedig ar y diwydiant.
Byddwch yn edrych ar ystod o ddisgyblaethau mewn celfyddydau perfformio megis actio, canu a dawnsio gyda phwyslais cryf tuag at greu eich sgiliau a thechnegau perfformio eich hun.
Mae’r cwrs celf a dylunio’n cwmpasu ystod eang o sgiliau celf gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau i ddatblygu hyder a mynegiant creadigol, gyda phrosiectau ymarferol, ymweliadau ag orielau celf a chyfle i lunio portffolio ar gyfer symud ymlaen i astudio pellach.
Mae’r Cwrs Celfyddydau Creadigol Lefel 2 OCR Cambridge Technicals yn cynnwys pedair Uned mewn Celfyddydau Perfformio:
- Datblygu Sgiliau a Thechnegau Actio
- Arddangosfa Ddawns
- Y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
- Prosiect Perfformio
Tair Uned mewn Celf a Dylunio:
- Archwilio Gwaith Artistiaid a Dylunwyr
- Datblygu Syniadau mewn Ymateb i Friff
- Archwilio Hunanddelwedd
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd cyflawni’r cymwysterau hyn yn caniatáu i chi symud ymlaen i astudio cymwysterau galwedigaethol ar lefel tri, megis Diploma Estynedig lefel tri BTEC mewn Celfyddydau Perfformio, a Diploma Estynedig lefel tri BTEC mewn Celf a Dylunio.
Mae’r cyrsiau hyn yn paratoi dysgwyr yn benodol ar gyfer mynd i gyflogaeth neu brentisiaethau, neu symud i addysg uwch mewn prifysgolion neu ysgolion drama a chelf.
Asesir unedau yn fewnol.
Whilst there are no formal entry requirements, it is reasonable to assume that many learners will have achieved qualifications equivalent to level 2 and will have developed skills in planning and organization, critical thinking and problem-solving, creativity and innovation, and personal effectiveness to this level.
This qualification provides an opportunity to refine and develop these skills to a higher level. The qualification is not age-specific and, as such, provides opportunities for learners to extend their lifelong learning.
Bydd angen i bob ymgeisydd fynychu gweithdy a chyfweliad ac arddangos lefel gallu. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol