Bauhaus ar daith: Myfyrwyr ysgol gelf yn dod â 'Pharti Metel' eiconig i garnifal Llanelli
Katie Fitzgerald-Williams yn Ysgol Gelf Caerfyrddin sy’n arwain y prosiect, meddai hi: “Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol a oedd yn dathlu popeth sy’n ymwneud â chelf a dylunio.
“Gwnaethon ni’r prosiect hwn yn friff byw mewn gwirionedd, felly rhoddodd rywbeth i fyfyrwyr weithio tuag ato yn ogystal â bod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol, tymhorol sydd wedi hen sefydlu.
“Rhoddwyd y dasg i fyfyrwyr i ddylunio a gwneud y gwisgoedd a’r propiau i lenwi fflôt carnifal, sy’n golygu bod yn rhaid i bopeth sy’n cael ei wneud fod yn gludadwy, ar raddfa fawr ac yn wydn.“
Hoffem ddiolch i’r cwmnïau trafnidiaeth sydd wedi benthyg lorïau a gyrwyr ar gyfer y noson yn ogystal â thîm arlwyo’r coleg sydd wedi rhoi llawer iawn o ffoil a deunydd tun i ni.”