Skip page header and navigation
a model's hair showing hair up with a green sparkly accessory

Mae myfyrwyr trin gwallt yng Ngholeg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth yn y coleg a oedd yn ymestyn eu dychymyg wrth iddynt gystadlu yn erbyn ei gilydd ar thema’r parti.

Roedd y prosiect yn cynnwys cyfuniad o wisgoedd, colur a sgiliau trin gwallt o fewn tri grŵp o fyfyrwyr, o lefel un i lefel tri, a oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Mae’n gystadleuaeth heriol gyda myfyrwyr lefel un, sydd wrthi’n paratoi i orffen eu blwyddyn gyntaf o astudio, yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr lefel dau a thri a fydd yn barod ar gyfer y diwydiant pan fyddant yn gorffen yn y coleg eleni.

Ond mae cael hwyl a mwynhau’r profiad wrth ddysgu yn bwysig iawn yng Ngholeg Ceredigion. 

Wedi’i drefnu gan y darlithydd Jane Clarke Evans, cafodd y myfyrwyr gyfle i greu unrhyw beth yr oeddent ei eisiau cyn belled â’u bod yn cadw at y thema, sef ‘parti’. Roedd hyn hefyd yn cynnwys trin gwallt ar gyfer priodas gyda myfyrwyr yn defnyddio modelau ar y diwrnod ac yn creu byrddau naws wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

A model with head down, showing a parted/bun hairstyle and accessories

Cawsant gyfle hefyd i ymarfer yn ystod sesiynau yn y coleg a gartref, gan ddefnyddio modelau a blociau model.

Dywedodd Donna Bids-Williams, darlithydd trin gwallt yng Ngholeg Ceredigion: “Rydym yn annog gwella perfformiad, meithrin hunan-barch a chael hwyl yn y gystadleuaeth ryng-golegol hon.

“Fe wnaeth y myfyrwyr ymgysylltu’n dda iawn a chael cyfle i ddangos a gwella eu sgiliau.

“Hoffem ddiolch i Sharon, o salon Utopia yn Arberth am helpu gyda’r beirniadu ac i Kerrie, rheolwr Capital Hair and Beauty, am feirniadu’r gystadleuaeth ac am yr anrhegion gwych a roddwyd ganddynt fel gwobrau a bagiau nwyddau.

“Rhoddwyd bag o nwyddau’r diwydiant hefyd i bob myfyriwr a oedd yn cystadlu, a oedd yn beth caredig iawn.”

three heads of freshly created hairdressing
Three heads of impressive hair up styles

Rhannwch yr eitem newyddion hon