Valspar Trade yn buddsoddi ym mhobl ddawnus y dyfodol gyda gweithdy a rhodd o £500
Bu myfyrwyr peintio ac addurno yng Ngholeg Sir Gâr yn cymryd rhan mewn gweithdy diwydiant gyda Valspar Trade ar gampws y coleg yn Rhydaman.
Dysgon nhw am amrywiol dechnegau peintio ac fe gawson nhw fewnwelediad i gynnyrch a chynhwysion paentiau Valspar Trade.
Bu cynrychiolwyr o’r cwmni yn eu tywys drwy weithdy ymarferol, gan brofi eu sgiliau torri mewn a’u sgiliau peintio mewn cystadleuaeth llawn hwyl ar ddiwedd y dydd.
Gan fuddsoddi yng ngweithwyr proffesiynol y dyfodol, gwnaeth y cwmni hefyd gyflwyno siec o £500 i’r grŵp a fydd o fudd sylweddol i’r adran.
Meddai Steve Keeley, darlithydd peintio ac addurno yng Ngholeg Sir Gâr: “Cysylltais i â Valspar Trade ar ôl eu gweld yn cynnal sesiwn debyg mewn coleg arall.
“Roeddwn i’n bles iawn eu bod wedi dod nôl ataf yn awyddus i ymweld â ni a gweithio gyda’n myfyrwyr.
“Ymgysylltodd y grŵp yn wirioneddol dda gyda’r sesiwn a mwynheuon nhw ddysgu mwy o fewnwelediadau a sgiliau diwydiant, a wnaeth ddilysu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn y coleg ar hyn o bryd.
“Dywedodd y myfyrwyr hefyd gymaint roedden nhw wedi hoffi teimlad a nodweddion gorchuddio’r paent. Mwynheuodd pawb y diwrnod yn fawr gan ddweud roedd y cynnwys yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn hwyl.
“O theori lliwiau i wydnwch y paent, i ba baentiau sy’n gweithio orau ar wahanol arwynebau, gwnaeth y diwrnod gwmpasu ystod lawn o sgiliau cymhwysol sydd eu hangen ar gyfer addurno proffesiynol.”