
Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini bwyd a Diod
- Campws Aberystwyth
- Campws Aberteifi
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wella eu sgiliau coginio a’u hyder. Ymunwch â ni a sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.
Mae coginio proffesiynol a lletygarwch yn yrfa heriol ond gwerth chweil gyda phosibiliadau gyrfaol sy’n ymestyn cyn belled â gweithio mewn bwytai, gwestai, sbâu a hyd yn oed llongau gwyliau. Ble bynnag y gweinir bwyd o ansawdd, mae angen rhywun i’w greu a’i weini.
Mae’n borth i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol, gwasanaethau lletygarwch neu i mewn i gyflogaeth neu brentisiaeth.
Byddwch yn paratoi ystod o seigiau a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau cyllyll, a gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau coginio a thechnegau paratoi bwyd. Byddwch hefyd yn dysgu sut i baratoi a gweini diodydd i safon broffesiynol ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn amgylchedd gwasanaeth bwyd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’r holl ddysgwyr yn rhedeg y gwasanaeth ym Mwyty Maes y Parc neu Aberista, y bwytai hyfforddi ar y safle ar ein campysau yn Aberteifi ac Aberystwyth. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Byddwch yn datblygu sgiliau coginio a gweini bwyd wrth weithio gyda staff profiadol trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith.
Mae’r rhaglen coginio proffesiynol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr wella eu profiad a’u sgiliau mewn arlwyo wrth archwilio coginio trwy ystod o unedau seiliedig ar fwyd, o gig, pysgod a dofednod i bwdinau, crwst a chacennau.
Mae’r rhaglen gwasanaeth bwyd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am y diwydiant gwasanaeth bwyd trwy ddetholiad o unedau wedi’u teilwra at chef de range mewn sefydliad gwasanaeth bwyd o safon uchel, o ddatblygu gwybodaeth am win a diodydd i rywfaint o theatr bwrdd a rheoli derbynfa.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm, gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau’r gegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’r ystod eang o lwybrau posibl oddi fewn iddo.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y Diploma lefel tri mewn Coginio Proffesiynol a’r rhaglen Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol neu i gyflogaeth neu brentisiaeth.
Asesir yr unedau trwy arsylwi ar waith ymarferol yn ein bwytai hyfforddi ac arholiadau coginio ymarferol a osodir gan y corff dyfarnu. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr gwblhau cwestiynau gwybodaeth greiddiol yn llwyddiannus. Gall y cwestiynau hyn fod ar ffurf ysgrifenedig neu wedi’u recordio gan ddefnyddio llwyfannau cyfryngau, prosiectau, neu aseiniadau ysgrifenedig estynedig.
Cwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Bwyd a Diod ar lefel Deilyngdod neu uwch a phresenoldeb ar o leiaf 85%. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Bydd rhaid prynu iwnifform lawn sy’n cadw at reoliadau diogelwch bwyd a chod gwisg y coleg, gwerslyfr a set o gyllyll. Gellir prynu’r rhain trwy ein cyflenwr enwebedig, neu gellir derbyn iwnifform a chyfarpar a brynwyd yn flaenorol gyda chaniatâd tiwtor y cwrs.
Mae gwibdeithiau addysgol gartref a thramor hefyd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar y cwrs hwn. Gellir cynnig profiad gwaith heb unrhyw gost ychwanegol i’r dysgwr.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.