
Cwrs Nos Coginio Cartref
- Campws Pibwrlwyd
Ymunwch â’n cwrs coginio cartref yng Ngholeg Sir Gâr ac ewch â’ch sgiliau coginio i’r lefel nesaf. P’un a ydych yn gogydd cartref brwdfrydig iawn neu ond yn un sy’n dwlu ar fwyd, byddwch chi’n dysgu technegau arbenigol ac awgrymiadau sy’n arbed amser oddi wrth ben-cogydd proffesiynol. Dathlu’r goreuon o gynnyrch tymhorol a darganfod ychydig o gyfrinachau pen-cogydd ar hyd y ffordd.
Mae pob sesiwn yn archwilio cynhwysion ffres, tymhorol ac yn eich dysgu sut i goginio prydau fforddiadwy, llawn o flas i’ch teulu. Mae seigiau’n cynnwys pasta cartref, bourguignon cig eidion, risoto, samwn en croûte, cyw iâr wedi’i stwffio gyda chennin Cymreig cawslyd, focaccia garlleg, sawsiau, crystiau a mwy. Dysgwch sut i gael y gorau o’ch cynhwysion wrth feithrin eich sgiliau ymarferol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
£217
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs nos hwn yn agored i unrhyw un 16+ oed. Byddwch chi’n defnyddio offer cegin proffesiynol a chynhwysion, y cwbl wedi’u darparu. Dysgu sut i baratoi a choginio cig, dofednod, pysgod a phasta’n ddiogel gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Ffocysu ar hylendid bwyd a diogelwch trwy gydol yr amser. Ar ddiwedd pob sesiwn, byddwch chi’n mynd â’r seigiau blasus rydych chi wedi’u paratoi adref gyda chi.
Cewch eich asesu drwy arsylwi ymarferol ac adborth tiwtor yn ystod pob sesiwn. Ar gwblhau’n llwyddiannus byddwch yn derbyn tystysgrif.
Rhaid i chi fod yn 16 oed neu hŷn. Does dim angen cymwysterau academaidd. Cyflwynir rheolau iechyd a diogelwch a rhaid eu dilyn o’r sesiwn gyntaf.
Mae’r cwrs yn costio £217.00. Mae hyn yn cynnwys yr holl gynhwysion bwyd a staff cymorth. Bydd angen i chi ddod â ffedog â bib bob wythnos.