Canolfan Academi Sgiliau Gwyrdd
Y Bwâu: Ail-ddelweddu Adeilad Hanesyddol ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy
Mae cartws o’r 19eg Ganrif ar gampws y Gelli Aur Coleg Sir Gâr wedi cael ei drawsnewid yn hwb hyfforddi o’r radd flaenaf ar gyfer yr Academi Sgiliau Gwyrdd, gan gynnal cyrsiau cynaliadwyedd amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, a sgiliau adeiladu carbon-isel.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) drwy Gyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o raglen Sgiliau 24 y coleg, mae’r ailddatblygiad arloesol hwn nid yn unig yn darparu cyfleuster addysgu sy’n arwain y sector ond mae hefyd yn diogelu darn pwysig o dreftadaeth leol — gan ddangos bod adeiladau traddodiadol yn gallu chwarae rôl allweddol yn nhaith Cymru i sero net.
Mae adeilad y Bwâu yn gweithredu fel model addysgu byw, lle gall dysgwyr, cyflogwyr, a grwpiau cymunedol brofi technolegau cynaliadwy ar waith — gan arsylwi ar sut mae systemau’n rhyngweithio a sut y caiff egwyddorion cynllunio carbon-isel eu cymhwyso mewn cyd-destunau byd go iawn.
Wedi’i chynllunio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cymwysterau ôl-osod, ynni adnewyddadwy, a chymwysterau rheoli ynni, mae’r ganolfan hefyd yn gweithredu fel hwb arddangos ar gyfer gweithgynhyrchwyr, awdurdodau lleol, a phartneriaethau diwydiant.
Trwy gyfuno arloesi, addysg a threftadaeth, mae adeilad newydd yr Academi Sgiliau Gwyrdd yn sefyll yn enghraifft bwerus o’r modd y gall y gorffennol a’r dyfodol ddod ynghyd i adeiladu Cymru fwy cynaliadwy.
Perfformiad yr Adeilad
Mae perfformiad yr adeilad yn dangos beth y gellir ei gyflawni drwy ôl-osod dwys a chynllunio cynaliadwy:
- Gradd EPC: A+
- Allyriadau Carbon Blynyddol: –5.65 kg CO₂ i bob m² (net-carbon-negatif)
- Cymhariaeth: Byddai adeilad tebyg, heb ei adnewyddu, fel arfer yn allyrru degau i gannoedd o gilogramau o CO₂ i bob m² y flwyddyn.
Golyga hyn fod yr Academi Sgiliau Gwyrdd yn cynhyrchu mwy o ynni na’r hynny mae’n ei ddefnyddio — cyflawniad nodedig ar gyfer adeilad cerrig hanesyddol.
Model Addysgu Byw
Mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd yn llawer mwy nag ystafell ddosbarth — mae’n enghraifft weithredol o gynllunio cynaliadwy.
Gall dysgwyr sy’n astudio ôl-osod, ynni adnewyddadwy, a rheolaeth ynni arsylwi a dadansoddi data go iawn o’r systemau sydd yn eu lle. Gall cyflogwyr a phartneriaid diwydiant ddefnyddio’r lle ar gyfer arddangosiadau, DPP, ac arloesi ar y cyd.
Mae’r prosiect yn ymgorffori’r egwyddor: “Adeiladu’n aerdyn, gwyntyllu’n gywir.” / “Build tight, ventilate right.” Mae’n tystio i’r modd y mae addysg, treftadaeth, a chynaladwyedd yn gallu dod ynghyd i greu newid mesuradwy, ystyrlon.
Ariannu a Chydnabyddiaethau
This project was funded by the UK Shared Prosperity Fund through Carmarthenshire County Council, as part of the Skills 24 programme.
Technolegau a Thechnegau
-
Tair arae Ffotofoltaidd (PV) — dwy yn wynebu’r de ac un yn wynebu’r gogledd — yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar gyfer yr adeilad. Wedi’u cyfuno, maen nhw’n bwydo system storio batri 10 kW a Dargyfeiriwr Dŵr Poeth Ynni Clyfar sy’n dargyfeirio ynni gormodol yn awtomatig i dwymo dŵr, gan sicrhau na chaiff unrhyw ynni ei wastraffu.
-
Mae Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer 6 kW yn tynnu gwres o’r aer i gyflenwi dŵr poeth a system wresogi danlawr. Mae’r system hon yn cymryd lle system wresogi draddodiadol tanwydd ffosil, gan leihau allyriadau’n sylweddol.
-
Caiff y gwres ei gludo drwy beipiau tanlawr wedi’u gosod ar goncrit calch dros sail o ewyn gwydr ailgylchedig. Mae’r system wedi’i rhannu i dri pharth (ystafell ddosbarth, gweithdy, a lobi), pob un yn cael ei reoli drwy system SMART Honeywell Evohome. Mae’r concrit calch a’r sail ewyn gwydr yn darparu inswleiddiad, cryfder, a’r gallu i anadlu — delfrydol ar gyfer adeiladau cerrig hanesyddol.
-
Mae’r concrit calch a’r ewyn gwydr ailgylchedig yn gadael i leithder symud yn naturiol, gan rwystro gwlybaniaeth a gwella inswleiddiad. Mae llawr linoliwm â haen rwyllog yn eu gwahanu yn cynnal athreiddedd anwedd, tra bod sgyrtin tyllog yn ategu cylchrediad aer.
Caiff waliau eu gorffennu â system Calsitherm a Diathonite — gan gyfuno deunyddiau sail-corc a chalsiwm silicad ar gyfer inswleiddiad, y gallu i anadlu, ac i wrthsefyll llwydni.
-
Mae deunydd inswleiddio gwlân defaid a ffibr coed, wedi’i gyfuno â haen atal anwedd, yn creu amlen adeiladu gynaliadwy, carbon-isel. Mae’r deunyddiau naturiol hyn yn rheoleiddio lleithder, darparu buddion acwstig, ac yn lleihau’r risg o anwedd.
-
Mae’r ystafell ddosbarth yn cynnwys system MVHR sy’n cyflenwi awyr iach wrth adennill gwres o aer sy’n mynd allan, gan wella ansawdd yr aer a lleihau gwastraffu ynni.
-
Cafodd y ffenestri bwaog gwreiddiol eu hadnewyddu a fframiau cyfansawdd gwydr triphlyg Velfac 200E eu gosod, gan gynnig perfformiad ynni neilltuol wrth ddiogelu cymeriad treftadol.
Yn lle’r to gwreiddiol rhoddwyd adeiledd ceibrau siswrn parod, a’i inswleiddio gan ddefnyddio’r un deunyddiau naturiol a gafwyd yn y waliau, a gorffen gan roi nenfwd plastr cywarch. -
Mae draen Ffrengig o ewyn gwydr ailgylchedig o amgylch y perimedr yn rhwystro lleithder rhag treiddio ac oerfel rhag pontio. Mae’r llawr uchel a’r fynedfa fwaog addasedig yn darparu gwell gwytnwch o ran gwrthsefyll llifogydd heb beryglu treftadaeth yr adeilad.
-
Mae’r holl oleuadau yn cael eu rheoli gan synhwyrydd ac yn ymateb i olau dydd, gan leihau’r defnydd o ynni wrth gynnal amodau dysgu ardderchog. Mae’r system reoli SMART yn galluogi monitro ac addasu systemau gwresogi a dŵr poeth o bell.
-
Yn ystod y gwaith adnewyddu, daethpwyd o hyd i slabiau mawr o lechi hanesyddol dan y llawr ac ailddefnyddiwyd llechi’r to ble roedd yn bosibl. Cafodd y slabiau llechi eu torri lawr a’u hailddefnyddio fel siliau ffenestri — gan gadw hanes yr adeilad ac ar yr un pryd lleihau gwastraff.
Dewch i Ymweld a Dysgu Mwy
Mae croeso i ymwelwyr, cyflogwyr, a phartneriaid cymunedol archwilio’r Academi Sgiliau Gwyrdd a gweld sut mae’r prosiect ôl-osod arloesol hwn yn cyfuno adeiladu traddodiadol â chynaladwyedd modern.