Ydych chi'n ystyried astudio cwrs Gofal Plant yng Ngholeg Ceredigion?
Dewch i gwrdd â'n darlithwyr a'n staff cyfeillgar a chefnogol, sy'n cydweithio er mwyn cynnig ystod eang o gyrsiau i'ch helpu i ragori yn eich gyrfa. Cymerwch gipolwg!
Dewch i gwrdd â’n darlithwyr a’n staff cyfeillgar a chefnogol, sy’n cydweithio er mwyn cynnig ystod eang o gyrsiau i’ch helpu i ragori yn eich gyrfa. Cymerwch gipolwg!
Anna James
“Fy nod pennaf yw bod yn fodel rôl sy’n ysbrydoli ac yn annog unigolion sydd mewn addysg i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial. Fy uchelgais yw cael effaith sylweddol ar fyd addysg, gan gymell cyd-addysgwyr i gefnogi, datblygu a chyfrannu at ddatblygiad y sector. I mi, grym addysg yw ei gallu i roi cyfle i bobl newid eu bywydau. Trwy arwain myfyrwyr yn eu hastudiaethau a chefnogi eu datblygiad personol, rydw i wedi gweld sut y gall dysgu agor y drws i lwybrau a gyrfaoedd newydd. Rydw i wrth fy modd yn gweld dysgwyr yn magu hyder, yn datblygu sgiliau newydd, ac yn llwyddo yn eu maes.”
Cefndir Anna: Mae Anna wedi gweithio yng Ngholeg Ceredigion ers 10 mlynedd a daeth yn Bennaeth Cwricwlwm y Diwydiannau Creadigol a Chymhwysol y llynedd. Mae Anna wedi addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau drwy gydol ei chyfnod yng Ngholeg Ceredigion ac wedi bod yn rhan o’r Tîm Addysgu a Dysgu. Cyn dod i weithio yn y coleg, roedd yn cael ei chyflogi gyda Ray Ceredigion, lle bu’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y sir.
Lisa Evans
“Fel cyn-fyfyrwraig a oedd yn teimlo’n nerfus ar y dechrau, rwy’n teimlo bod y cwrs yn helpu i feithrin hyder unigolion a hyder cymdeithasol. Mae’r cymhwyster yn caniatáu i chi archwilio arferion proffesiynol a llwybrau gyrfa amrywiol yn y sector gofal plant. Mae’n rhoi profiad ymarferol wrth gysylltu theori â chymhwysiad ymarferol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn weithwyr cymorth 1:1, yn ymarferwyr mewn meithrinfeydd, yn gynorthwywyr addysgu, neu wedi mynd i astudio ymhellach yn y brifysgol.”
Cefndir Lisa: Astudiodd Lisa gwrs gofal plant yng Ngholeg Ceredigion - yna aeth i ennill gradd mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a TAR yn y Blynyddoedd Sylfaen. Gweithiodd Lisa fel nyrs feithrin, ymarferydd mewn ysgol goedwig ac fel athrawes ysgol gynradd gan ennill profiad ymarferol gyda babanod, plant bach a phlant.
Lucy Davies
“Rwy’n credu bod y swydd fel darlithydd gofal plant wedi fy ngalluogi i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y persbectif a’r arferion sy’n newid yn barhaus yn y maes hwn ac rwy’n benderfynol o uwchsgilio fy hun a rhannu fy ngwybodaeth gyda’r dysgwyr. Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac fel gweithwyr gofal plant proffesiynol rydym yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ffurfio meddyliau ifanc. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod gan ein dysgwyr yr holl offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hunain a’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Cefndir Lucy: Bu Lucy’n gweithio fel athrawes ysgol gynradd am 25 mlynedd ac ymunodd â Choleg Ceredigion er mwyn newid ffocws.
Annwen Evans
“Yn ystod y 18 mlynedd diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd, gan eu cefnogi wrth iddynt feithrin sgiliau, hyder a gwybodaeth. Mae gweld myfyrwyr yn datblygu ac yn ffynnu, fel unigolion ac yn academaidd, yn un o’r agweddau sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i mi yn ystod fy ngyrfa. Mae eu gwylio yn symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn parhau i atgyfnerthu fy ymrwymiad i fyd addysg ac i gael dylanwad ystyrlon yn y maes. Mae’n fraint cael arwain dysgwyr wrth iddynt feithrin y sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth i lwyddo yn y maes allweddol hwn.
Cefndir Annwen: Enillodd Annwen radd yn y Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS ac mae ganddi brofiad mewn meithrinfeydd ddydd, gofalu am blant 0-4 oed a phlant hyd at 11 oed. Mae hi hefyd wedi dysgu lefelau 1, 2 a 3 mewn gofal plant.
Janice Short
“Mae’r cwrs yn llythrennol yn newid bywydau nifer o’r dysgwyr, ac mae’n fraint cael gweithio gyda nhw. Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, mae’r dysgwyr yn datblygu ac mae’n bleser ac yn fraint gweld eu hyder, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn gwella. Yn ogystal â gweld cynnydd y plant ifanc, fel aseswr, rwy’n gweld y dysgwyr yn gwneud cynnydd ym mhob maes, gan ddod yn rhan o dimau staff, grwpiau yn y coleg ac unigolion annibynnol. Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel cam i fynd ymlaen i gyrsiau pellach neu fel cymhwyster annibynnol er mwyn gweithio yn y sector gofal plant arbennig, lle nad oes dau ddiwrnod yr un peth.”
Cefndir Janice: Mae Janice wedi gweithio fel athrawes mewn ysgol gynradd, pennaeth, hyfforddwraig athrawon ac arolygydd ysgolion yng Nghymru a thramor. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y Blynyddoedd Cynnar.
Ruth Lewis
“Trwy gydol fy ngyrfa ym myd addysg, rydw i wedi gweld pwysigrwydd rôl cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr gofal plant mewn ysgolion ac mewn lleoliadau cyn-ysgol. Mae gwaith ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn allweddol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Mae’r addysg a’r gofal a gaiff plant yn effeithio nid yn unig ar eu cyrhaeddiad addysgol yn y dyfodol ond hefyd ar eu hiechyd a’u hapusrwydd yn y dyfodol. Mae’n fraint helpu i baratoi dysgwyr yng Ngholeg Ceredigion i gyflawni eu potensial a ffynnu yn y rôl hon.”
Cefndir Ruth: Mae Ruth wedi gweithio fel athrawes cyfnod sylfaen ac ar hyn o bryd hi yw arweinydd ADY y blynyddoedd cynnar yng Ngheredigion gan gefnogi plant dan 5 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Allison Davies
“I mi, mae addysg yn ymwneud â grymuso. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall y cymorth a’r arweiniad cywir drawsnewid bywydau, agor drysau i gyfleoedd newydd, a helpu unigolion i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae gweld dysgwyr yn magu hyder, yn cyflawni eu nodau a’u potensial yn rhoi tipyn o foddhad i mi. Yn yr un modd, rwy’n ymfalchïo mewn annog a chefnogi staff i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol.”
Cefndir Allison: Mae Allison wedi bod yn gweithio yng Ngholeg Ceredigion ers dros 20 mlynedd, ac mae hi wedi bod mewn swydd reoli ers 6 blynedd bellach. Cyn ymuno â Choleg Ceredigion, bu’n gweithio mewn uned anghenion ychwanegol yn y sir, gan ennill profiad gwerthfawr yn cefnogi unigolion ag anghenion amrywiol. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau gradd Meistr mewn Addysg ac Arweinyddiaeth, sydd wedi ehangu ei sgiliau arwain a’i gwybodaeth ymhellach.
Lucy Pearson
“Rwy’n gobeithio cefnogi ein dysgwyr i deimlo’n angerddol am weithio gyda phlant, er mwyn iddynt allu datblygu eu gwybodaeth a meithrin eu hyder i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ffynnu yn eu blynyddoedd cynnar.”
Cefndir Lucy: Yn ogystal â gweithio yng Ngholeg Ceredigion, mae Lucy’n parhau i weithio fel cynorthwyydd Helping Hands mewn meithrinfa ddydd, yn cefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ar sail un-i-un . Yn y gorffennol mae hi wedi gweithio gyda phlant yn amrywio o fabanod i 11 oed, mewn Ysgolion Cynradd, mewn meithrinfeydd ac mewn clybiau gwyliau a chlybiau ar ôl ysgol.