Academi Sgiliau Gwyrdd wedi agor yn swyddogol i baratoi’r gweithlu ar gyfer dyfodol carbon isel

Rydym wedi gweithio gyda nifer o ddiwydiannau gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac rydym yn annog unigolion a busnesau i gysylltu â ni i weld sut y gallwn ni eu helpu.” Jemma Parsons, Pennaeth Academi Sgiliau Gwyrdd

Mae Coleg Sir Gâr wedi agor ei Academi Sgiliau Gwyrdd yn swyddogol ar gampws y Gelli Aur. Mae’r Academi yn anelu at roi’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a’r gweithlu er mwyn helpu i wthio’r newid i ddyfodol cynaliadwy a charbon isel.
Cyfleuster newydd sbon yw’r Academi Sgiliau Gwyrdd sy’n darparu hyfforddiant arbenigol ym maes ynni adnewyddadwy gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, rheoli ynni a charbon, ynni adnewyddadwy ac ôl-osod.
Ei nod yw chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â phrinder sgiliau a pharatoi’r gweithlu ar gyfer gyrfaoedd sy’n cefnogi gwydnwch amgylcheddol a thwf economaidd.
Mae hefyd yn un o ganolfannau’r Sefydliad Gweithwyr Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol (ISEP) sy’n statws a gydnabyddir yn fyd-eang.
Ariennir llawer o’r cyrsiau ar gyfer unigolion cymwys drwy Gyfrifon Dysgu Personol (PLA), cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU neu ReAct Plus.

Agorwyd y cyfleuster yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, 26 Medi 2025) gan Anne Davies, AS Caerfyrddin a’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.
Ariannwyd y gwaith adnewyddu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) ac mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd yn cynnig ystod o gyrsiau sy’n cynnwys addysgu ymarferol a damcaniaethol ar draws pob diwydiant, o osod technolegau adnewyddadwy a thrwyddedu peilotiaid dronau i asesu ynni.

Ymysg systemau eraill, mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd yn gartref i dair system ffotofoltaidd, gan gynnwys araeau sy’n wynebu’r de a’r gogledd, pob un wedi’i gysylltu â batri 10kW a dargyfeiriad dŵr poeth clyfar, sy’n golygu bod pob uned o drydan glân yn cael ei storio neu ei defnyddio, yn hytrach na chael ei gwastraffu. Pwmp gwres o’r aer 6kW sy’n gwresogi’r adeilad, ac mae’n bwydo system wresogi tanlawr sydd wedi’i gosod ar goncrit calch ac ewyn gwydr wedi’i ailgylchu ac sy’n ddelfrydol ar gyfer waliau cerrig hanesyddol ac mae mesurau atal llifogydd wedi’i gynnwys yn y dyluniad.
Meddai Jemma Parsons, Pennaeth Academi Sgiliau Gwyrdd Coleg Sir Gâr: “Rydym wrth ein bodd yn lansio ein cyfleuster newydd yn swyddogol a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect a’i agoriad swyddogol.
“Mae gan yr Academi Sgiliau Gwyrdd un weledigaeth glir: rhoi’r sgiliau i bobl ar gyfer swyddi dyfodol carbon isel.
“Rydym eisiau sicrhau bod gan Sir Gaerfyrddin, a Chymru, y gweithwyr proffesiynol medrus sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio, ôl-osod, rheoli ynni ac, yn y pen draw, sicrwydd ynni. Mae hyn yn ymwneud â rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau sy’n gwella eu gyrfaoedd ac sy’n hanfodol i’n hamgylchedd.
“Nid prosiect adnewyddu yn unig mo hwn. Mae’n ystafell ddosbarth fyw - enghraifft o waith adeiladu cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy ar waith. O baneli solar a storfeydd batri, i system wresogi tanlawr wedi’i bweru gan bwmp gwres, deunyddiau inswleiddio naturiol, systemau awyru modern, a mesurau gwrthsefyll llifogydd - mae popeth yma wedi’i gynllunio i addysgu yn ogystal â bod yn weithredol.
“Rydym wedi gweithio gyda nifer o ddiwydiannau gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac rydym yn annog unigolion a busnesau i gysylltu â ni i weld sut y gallwn ni eu helpu.”
