Skip page header and navigation
The three girls pointing to the WorldSkills logo on their tops with a branded WorldSkills and Pearson background

Mae tair myfyrwraig arlwyo a lletygarwch o Goleg Ceredigion wedi cael eu dewis fel rhan o Garfan y DU ac o ganlyniad, bydd cyfle ganddynt i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Shanghai y flwyddyn nesaf. 

Dewisir y garfan drwy broses fanwl o’r rheiny a gymerodd ran yn flaenorol mewn cystadlaethau WorldSkills y DU ac sy’n meddu ar y gallu a’r hyfforddiant i symud ymlaen i lwyfan rhyngwladol.

Bydd Carfan y DU yn profi rhaglen hyfforddi ddwys 18-mis o hyd i benderfynu pwy fydd yn llwyddo i gyrraedd y garfan derfynol, i gynrychioli’r DU yn Shanghai. 

Byddan nhw’n ymuno â dros 80 o fyfyrwyr eraill o bob cwr o’r DU a fydd yn cystadlu mewn ystod o feysydd galwedigaethol a, gan gynrychioli colegau Cymru, maen nhw hefyd yn rhan o Dîm Cymru, sy’n ffurfio tua chwarter o Garfan y DU. 

Bydd Caitlin Meredith, sy’n astudio ar gampws Aberystwyth yn hyfforddi i gystadlu am le yn Nhîm y DU mewn Coginio Proffesiynol. Bydd Katy Law a Shannon Brown, sy’n astudio ar gampws Aberteifi yn cystadlu am le i gynrychioli’r categori Gwasanaethau Bwyty.

Roedd y coleg am wybod mwy am eu hymglymiad, eu dyheadau ar gyfer y dyfodol a’u hysbrydoliaeth i astudio arlwyo a lletygarwch, felly estynnwn wahoddiad i chi gwrdd â’n haelodau o Garfan y DU.

  • Cynrychioli Coleg Ceredigion a The Ship, Aberporth

    Mae hi’n astudio Diploma (lefel 2) mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol ym Mwyty Maes y Parc ar gampws Aberteifi.

    Shannon in her WorldSkills kit holding her medal

    Rwyf wedi bod â diddordeb brwd mewn coginio erioed a meddyliais y byddwn i’n hoffi gweithio mewn lletygarwch, felly ymunais â Choleg Ceredigion lle gwnes i ddarganfod bod gen i ddawn am wasanaeth bwyd.

    Yn fy marn i mae’r coleg yn rhoi cyfle i chi ymarfer technegau a’r llynedd, pan wnes i ddarganfod fy mod i drwodd i rownd derfynol genedlaethol WorldSkills ym Manceinion, trefnodd Huw Morgan fy nhiwtor hyfforddiant arbenigol i ni ym meysydd gwin, coctels a thechnegau ciniawa cain, yn ychwanegol i’n hyfforddiant arferol. Helpodd hyn lawer.

    Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes ac rwy’n teimlo’n gyffrous ac yn falch iawn ohonof fy hun am roi fy hun ymlaen a thu hwnt i’m cylch cysur.

    Beth bynnag fydd yn digwydd, gallaf ddweud roeddwn i’n un o’r tri chystadleuydd gorau yn y DU gyfan yn cynrychioli gwasanaethau bwyty yn fy ystod oedran.

    Ar lefel broffesiynol, rwyf wedi deall bod angen i mi roi 100% i fy hyfforddiant er mwyn cyrraedd y lefel uchaf. Mae’n anodd ac yn llawer o waith caled, ond mae’r drysau y gallai hyn agor i mi yn amhrisiadwy.

    Drwy’r coleg, rwyf wedi cael y profiad o weithio yng ngwesty’r Grove yn Arberth a byddaf hefyd yn mynd o gwmpas y DU i gael hyfforddiant pellach, wedi’i drefnu gan WorldSkills y DU. 

    Pan ddechreuais i yn y coleg ar y dechrau, roeddwn i’n swil ac yn dawel ond mae’r cystadlaethau hyn wedi gwneud i mi dyfu ac rwyf wedi datblygu ar lefel bersonol. Doeddwn i erioed wedi bod ar drên o’r blaen, ond nawr rwy’n teithio ar draws y wlad, yn dysgu sgiliau bywyd ac yn edrych ar ôl fy nyfodol fy hun. 

    Mae’r coleg wedi fy nghefnogi drwy fy nhaith gystadlu mewn llawer o ffyrdd. Mae fy nhiwtor Huw, wedi bod yn wych, gan wneud yn siŵr bod gen i’r holl gyfarpar roedd ei angen arna i er mwyn hyfforddi a chystadlu drwy gydol fy nhaith. Mae e mor gefnogol a chalonogol ac mae bob amser yn fy ngwthio i gyflawni rhagoriaeth. Mae’n rhoi o’i amser i fy hyfforddi ac mae’n gwneud yn siŵr fy mod yn barod ar gyfer y cam nesaf. Fedra i ddim diolch yn ddigonol iddo fe a’r coleg.

    Wrth edrych ymlaen, rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn hyfforddi’n galed fel rhan O Garfan y DU. Byddaf yn teithio ar draws y DU i fwy o wersylloedd hyfforddi i ennill mwy o brofiad er mwyn cael cyfle i gystadlu yn Shanghai. Hefyd byddaf yn hyfforddi bob wythnos ym Mwyty Maes y Parc y coleg. 

    O’r tair myfyrwraig o Goleg Ceredigion a ddewiswyd ar gyfer Carfan y DU, bydd un ohonom hefyd yn cynrychioli’r DU yn EuroSkills ym mis Medi.

  • Cynrychioli Coleg Ceredigion a Bwyty Medinas 

    Mae hi’n astudio Diploma (lefel 2) mewn Coginio Proffesiynol a Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol yn Aberista ar gampws Aberystwyth

    Caitlin in her WorldSkills kit pointing at the logo on her shirt

  • Katy Law, 20

    Cynrychioli Coleg Ceredigion a chaffi Crwst Cymru

    Cwblhaodd Katy gymhwyster Arlwyo (lefel 3) ym Mwyty Maes y Parc ar gampws Aberteifi ac mae bellach hyn gweithio’n llawn amser yn Crwst. Mae hi’n parhau i hyfforddi ar gyfer paratoadau WorldSkills y DU yn y coleg.

    Katy in her WorldSkills top pointing at the logo

    Wrth ddechrau ar fy nhaith, rwyf bob amser wedi mwynhau coginio a phobi, ond doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y diwydiant gwasanaeth. Felly ar ôl ychydig o wythnosau o ddechrau yn y coleg, sylweddolais fod gen i ddiddordeb brwd mewn siarad â chwsmeriaid a gwasanaethu pobl a gallai hon fod yr yrfa y gallwn i ragori ynddi.

    Fel rhan o’m taith gystadlu hyd yma, rwyf wedi bod yn dychwelyd i’r coleg i hyfforddi a datblygu ymhellach fy sgiliau mewn gwasanaethau blaen y tŷ. Fel rhan o hyn, mwynheais i’n fawr ddiwrnod o hyfforddi ym mwyty Baravin, lle bûm yn gweithio gyda chyn-fyfyriwr y coleg ar fy sgiliau cymysgu coctels.

    Mae wedi bod yn fraint enfawr i gymryd rhan yn y broses hyd yma a dydw i ddim bob amser wedi bod yn hyderus o’m galluoedd. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi cael gan fy nhiwtoriaid, ffrindiau a theulu wedi fy helpu i symud ymlaen  cyn belled ag wyf wedi gwneud yn ogystal â helpu rhoi hwb i fy hunanhyder. Mae gwybod fy mod wedi cyrraedd cyn belled â hyn oherwydd y gwaith rwyf wedi’i wneud yn deimlad gwych.

    Credaf fod y profiad cyfan hwn wedi fy helpu i fod yn ddigynnwrf dan bwysau ac yn fwy proffesiynol ynghylch sut rwy’n cyflwyno fy hun, sy’n anhygoel o bwysig wrth ddelio gyda sefyllfaoedd a phroblemau bywyd go iawn yn y gweithle. Hefyd rwyf wedi gwella fy sgiliau ymarferol gan gynnwys coginio.

    Fy nhiwtor Huw, sydd wedi bod yn gefn mwyaf i mi ac yntau yw’r rheswm bod gen i’r cymhelliant i barhau gyda chystadlaethau. Yn ystod fy nghystadleuaeth gyntaf erioed, ches i ddim medal, ac effeithiodd hyn ar fy hyder. Ond gydag anogaeth Huw a chred wirioneddol y gallwn i ei wneud, rwyf wedi mynd ymhellach na feddyliais i erioed oedd yn bosibl ac rwy’n fythol ddiolchgar.

    Wrth edrych i’r dyfodol, byddaf yn teithio i Ogledd Cymru bob mis i hyfforddi gyda’n rheolwr hyfforddi er mwyn datblygu fy sgiliau 

    Mae cystadlu yn EuroSkills a WorldSkills Asia hefyd yn bosibilrwydd sy’n profi bod hyn yn ymrwymiad enfawr ond mae’r profiad y byddaf yn ennill, ac rwyf eisoes wedi ennill, yn amhrisiadwy.

Rhannwch yr eitem newyddion hon