Athrawon dan hyfforddiant yn cael mewnwelediad i anghenion dysgu ychwanegol mewn coleg arbenigol
Bu myfyrwyr TAR yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dysgu proffesiynol wedi’u cynllunio i ddwysáu eu dealltwriaeth o addysg gynhwysol.
Fel rhan o’u datblygiad proffesiynol a pharatoad ar gyfer uned anghenion dysgu ychwanegol, mae athrawon dan hyfforddiant yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymweld â choleg arbenigol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae aelodau’r grŵp yn astudio naill ai TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) neu TBA (Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant) ar gampws Pibwrlwyd Coleg Sir Gâr.
Ynghyd â’u tiwtoriaid, aethant ar ymweliad â Choleg Elidyr, coleg yn Llanymddyfri sy’n benodol ar gyfer cefnogi dysgwyr ADY lle mae gan bob myfyriwr raglen therapiwtig wedi’i theilwra i’w anghenion.
Bu myfyrwyr TAR yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dysgu proffesiynol wedi’u cynllunio i ddwysáu eu dealltwriaeth o addysg gynhwysol.
Cafodd myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn gyntaf o hyfforddiant eu gwahodd i arsylwi sesiynau ar draws y coleg gan gynnwys gofal anifeiliaid, garddwriaeth, sgiliau cegin, crefft a ThGCh. Dangoswyd iddynt effaith therapi lleferydd, iaith a therapi galwedigaethol.
Meddai Nina Theodoulou-Evans, arweinydd y cwrs TAR ar gyfer blwyddyn un: “Fe wnaeth staff Coleg Elidyr rannu eu harbenigedd yn hael, gan gynnig esboniadau manwl am eu hymagweddau tuag at wahaniaethu, cyfathrebu, a chefnogaeth. Gwnaeth ein dysgwyr sylwadau ar ba mor groesawgar a threfnus oedd amgylchedd y coleg, a sut roedd pob agwedd ar fywyd bob dydd yno wedi’u cynllunio i hyrwyddo annibyniaeth, urddas, a thwf personol.
“Un o uchafbwyntiau’r ymweliad oedd arsylwi addysgu a dysgu ar waith. Gwnaeth gweld y gefnogaeth unigol, yr adnoddau addasedig, a’r pwyslais ar sgiliau bywyd helpu’r myfyrwyr TAR i wneud cysylltiadau clir rhwng theori ac ymarfer.
“Roedd hi’n hyfryd i weld Val Morse, un o’n graddedigion TAR ni ein hunain, bellach yn dysgu yng Ngholeg Elidyr, yn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eu hastudiaethau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau eu dysgwyr.”
Erbyn diwedd yr ymweliad, gadawodd y grŵp gyda dealltwriaeth gyfoethocach o sut mae darpariaeth ADY effeithiol yn edrych yn ymarferol.
Ychwanegodd Nina Theodoulou: “Hoffai’r tîm TAR ddiolch i staff a dysgwyr Coleg Elidyr am eu croeso cynnes ac am ddarparu’r fath brofiad dysgu proffesiynol ysbrydoledig.”