Skip page header and navigation
Ceirian - a selfie with her holding her score and with her imagery behind her (including traditional Welsh costume)

Mae myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod ar gyfer ei sgiliau golygu a ffotograffiaeth a ddefnyddiwyd mewn delwedd a grëwyd ganddi oedd yn cyfleu gwreiddiau coll traddodiad Cymreig. 

Enillodd Cerian MacRae y gystadleuaeth ar gyfer y ddelwedd liw orau wedi’i thrin yn ddigidol yn Eisteddfod eleni a chyflwynwyd ei gwobr iddi mewn noson wobrwyo yn Ysgol Bro Dinefwr. 

Hefyd cafodd ei gwaith ei arddangos yn yr Eisteddfod ym Margam. 

Mae hi wedi bod yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth ers iddi fod yn ei harddegau cynnar pan roddodd ffotograffydd gamera iddi i’w archwilio mewn digwyddiad awyr agored. Ers hynny, daeth hi o hyd i hen gamera digidol ei thad a dechreuodd hi dynnu portreadau teuluol ar gyfer ei harholiad TGAU mewn celf.

Penderfynodd Cerian gystadlu yn y gystadleuaeth ffotograff wedi’i addasu oherwydd gallai ddefnyddio unrhyw feddalwedd i addasu ffotograff gwreiddiol neu greu delwedd ddigidol newydd. “Ar gyfer y ddelwedd hon roeddwn i am ddangos gwreiddiau traddodiadau Cymru mewn ffordd symbolaidd gan ddefnyddio cennin Pedr,” meddai. “Tynnais i lun o fy nghyfnither ifanc mewn gwisg Gymreig draddodiadol o flaen wal gerrig a brics. Yna defnyddiais i Photoshop i’w golygu hi i mewn i fâs wydr fel petai’n gaeth, fel ffordd i ddweud ei bod yn cael ei hatal a’i rhoi yng nghefn ein meddyliau, i fynd yn angof Wedyn es i ati i olygu llun o gennin Pedr o flaen y fâs yn wynebu tuag at y camera i wneud i’r fâs edrych fel gwreiddiau’r blodau. Gorffennais i’r cwbl gan sicrhau ei fod yn edrych fel petai’r traddodiadau Cymreig, sydd wrth wraidd diwylliant Cymru yn cael eu hatal a’u rhoi heibio i gael eu hanghofio ymhen amser.” 

Ceirian's work which features a glass, traditional Welsh costume and daffodils

Gydag uchelgeisiau o fod yn ffotograffydd, dewisodd Cerian astudio’r pwnc ar lefel Safon Uwch lle mae hi’n dysgu iaith weledol newydd.

Ychwanegodd Simon Thomas, tiwtor cwrs ffotograffiaeth Coleg Sir Gâr: “Mae Cerian wedi gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i ddatblygu ei sgiliau technegol mewn Adobe Photoshop, gan fireinio ei thechnegau wrth lunio delweddau swrrealaidd cyfansawdd sydd yn aml yn aml-haenog. 

“Rwy’n falch iawn o’i datblygiad fel ffotograffydd creadigol sy’n defnyddio technoleg i safon uchel yn holl ganlyniadau ei phortffolio.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon