Dygnwch a dyfalbarhad er mwyn llwyddo ym myd chwaraeon: Maddie Davies yn cyrraedd rownd derfynol gwobrau Aspiration Awards NCFE

Mae Maddie Davies, myfyrwraig chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Against All Odds gwobrau Aspiration Awards 2025 NCFE.
Mae Pencampwraig Trampolinio Ysgolion Prydain 2024, sydd ar hyn o bryd yn safle rhif un yng Nghymru ac ym Mhrydain, wedi creu argraff ar ei thiwtoriaid gyda’i phenderfyniad i lwyddo ar ôl wynebu heriau personol iawn.
Mae gan Maddie orsymudedd yn ei phengliniau a’i phigyrnau, sy’n achosi i’w phen-gliniau a’i chluniau droi tuag i mewn ac i’w phigyrnau ildio. Mae ganddi hefyd spondylolysis, sy’n crymu rhywfaint ac yn effeithio’n sylweddol ar ei gallu corfforol. Mae pob glaniad yn straen aruthrol ar ei chorff ac mae’n arwain at gyfnodau hirach i wella, anafiadau cyson, a phoen parhaus.
Cafodd ddamwain yn ddiweddar, gan lanio ar ei gwddf a chael ei chludo ar frys i’r ysbyty mewn stretsier wedi’i becynnu dan wactod a blociau pen i amddiffyn ei gwddf a’i hasgwrn cefn. Achosodd y ddamwain hon iddi dorri asgwrn yn ei chefn, a chafodd gyngor i gael llawdriniaeth ac yna chwe wythnos i wella.
Ond nid oedd hynny yn rhan o gynllun Maddie ac nid oedd yn cyd-fynd â’i huchelgais o gadw ei theitl fel Pencampwraig Trampolinio Ysgolion Prydain am y degfed flwyddyn yn olynol ac i ennill lle yn nhîm Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Grwpiau Oedran y Byd 2025.
Yn lle llawdriniaeth, a fyddai heb os wedi nodi diwedd ei gyrfa chwaraeon, dewisodd ymgymryd â ffisiotherapi dwys ar ei chefn.
Yn sgil ei hymrwymiad i’w champ a’i haddysg, dychwelodd i’r coleg gwta bythefnos yn ddiweddarach a dechreuodd ymarferion ysgafn ar ôl tair wythnos yn unig. Yna, ar ôl chwe wythnos dechreuodd weithio ei ffordd yn ôl i lefel elît a sicrhau ei theitl fel Pencampwraig Ysgolion Prydain am y degfed tro.

Mae ei chyflyrau wedi golygu ei bod wedi gorfod addasu i ddysgu mewn ffyrdd sy’n gweithio orau iddi hi, gan ofyn am ffocws a gwytnwch aruthrol.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd Maddie floc tebyg o ffisio dwys mewn ymgais i atal ei thraed rhag troi tuag i mewn, ond yn anffodus, nid oedd yn llwyddiant felly mae’n bosib y bydd angen llawdriniaeth arni yn y blynyddoedd sydd i ddod, ond dim hyd nes iddi gwblhau ei gyrfa ym myd chwaraeon.
Mae Maddie yn astudio cwrs lefel tri NCFE mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ac yn cael ei chefnogi gan Raglen Perfformiwr Elitaidd y coleg sy’n cael ei rhedeg gan Rob Kirk i gefnogi’r rhai sy’n astudio unrhyw gwrs yn y coleg, i barhau i ragori ym myd chwaraeon wrth gyflawni eu gallu academaidd.
Mae gan Maddie allu rhyfeddol i ddelio â’r boen a achosir gan yr heriau corfforol hyn, gan ganiatáu iddi gyrraedd y brig.
Ochr yn ochr â hyn, mae hi wedi datblygu strategaethau ymdopi effeithiol i reoli ei hawtistiaeth ac ennill proffil rhagoriaeth yn ei diploma lefel tri y llynedd. Mae hi ar y trywydd iawn i ragori eleni, gan raddio gyda rhagoriaeth yn ei diploma lefel tri estynedig.
Mae ei chyflyrau wedi golygu ei bod wedi gorfod addasu i ddysgu mewn ffyrdd sy’n gweithio orau iddi hi, gan ofyn am ffocws a gwytnwch aruthrol.
Mae hi wedi cael cynnig amodol i astudio gradd mewn gwyddoniaeth barafeddygol, er mwyn dilyn gyrfa fel parafeddyg gofal critigol, a hefyd wedi sicrhau ei lle yn nhîm Cymru, a bydd yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau rhagbrofol rhyngwladol ledled y byd.
Meddai Kim Nicholas, pennaeth adran yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r penderfyniad rhyfeddol hwn yn adlewyrchu ymroddiad di-ildio Maddie i gyflawni ei nodau.
“Mae’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni, ar y trampolîn ac oddi arno, yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy’n wynebu gofid.
“Mae ei phrofiad yn ein hatgoffa, gyda’r meddylfryd iawn, nad oes unrhyw rwystr yn rhy fawr i’w oresgyn.”
Ychwanegodd Rob Kirk, tiwtor Maddie a darlithydd gwyddorau chwaraeon, sydd hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Educator of the Year NCFE: “Mae Maddie yn unigolyn gwydn sy’n canolbwyntio ar ei nod, ac felly’n arddangos nodweddion pencampwraig go iawn.
“Rwy’n gwybod y bydd Maddie yn llwyddo yn ei gyrfa fel parafeddyg gofal critigol ac y bydd yn cyflawni ei huchelgais i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Grwpiau Oedran y Byd.”