Dysgwyr gofal plant yn archwilio diwylliant ac addysg yr Eidal ar ymweliad â Thysgani wedi’i ariannu gan Taith

Ym Mehefin 2025, fe wnaeth dau aelod o staff gofal plant – darlithydd Lucy Davies ac aseswr Janice Short – fynd gyda phum dysgwr ar ymweliad astudio â Montecatini yn rhanbarth Tysgani o’r Eidal.
Dros y pedwar diwrnod profodd y grŵp y diwylliant a’r golygfeydd hardd a’r lletygarwch, yn ogystal ag ymweld ag ysgol leol i arsylwi a chymharu’r arfer mewn darpariaeth gofal plant ac addysg.
Roedd yr ymweliad ysgol yn golygu ymweld ag ystafelloedd dosbarth mewn ysgol Gatholig a ariennir yn breifat yn y dref lle roedd y grŵp yn aros. Wrth iddynt gyrraedd fe wnaethon nhw gwrdd ag ymgynghorwyr addysg lleol a staff yr ysgol a chawsant eu tywys o gwmpas yr ysgol.
Roedd diddordeb gan y dysgwyr i weld natur sylfaenol, syml y dosbarthiadau a’r ffaith nad oedd yna fyrddau gwyn a thechnoleg arall. Roedd y dysgu’n canolbwyntio ar y plentyn i raddau helaeth ac roedd yr ardaloedd dysgu ar gyfer y plant ieuengaf yn efelychu amgylcheddau cartref heb lawer o adnoddau, gan annog y plant i ddefnyddio eu dychymyg a mabwysiadu dull dysgu sy’n cael ei arwain gan y plentyn.
Yn ystod yr ymweliad roedd y myfyrwyr wedi gallu ymweld â dinasoedd enwog Pisa a Florence a gweld golygfeydd fel Tŵr Gogwyddol Pisa, Pont Vecchio, marchnad fwyd Florence, sgwâr Piazza del Duomo a Chlochdy Giotto, a wnaeth iddynt werthfawrogi’r dreftadaeth, y gelfyddyd a’r diwylliant yn yr ardal hon.
Mae’r staff a myfyrwyr yn ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i’r adran gofal plant drwy wariant Taith.