Skip page header and navigation
A bracelet hanging on the wall with other items blurred in the background

Mae graddedigion o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr wedi cael gwahoddiad i arddangos eu gwaith yn Oriel Stryd y Brenin.

Bob blwyddyn, bydd aelodau’r oriel sy’n artistiaid ymarferol, yn ymweld â’r ysgol gelf i weld arddangosfa flynyddol y graddedigion, lle bydd myfyrwyr yn arddangos eu prosiectau mawr terfynol.

Dewiswyd saith graddedig i arddangos eu gwaith sydd nawr i’w weld yn yr oriel tan Hydref 22.

Mae’r arddangosion, sy’n dwyn y teitl Sioe Graddedigion 2025, yn cynnwys amrywiaeth o waith; o emwaith dramatig wedi’u llunio gan ddefnyddio ffurfiau naturiol i ffotograffiaeth a cerameg.

A piece of porcelain with some marks on it lit up

Roedd Chelsea Reilly, un o’r graddedigion a ddewiswyd i arddangos, wedi treulio rhai wythnosau mewn prifysgol yn Llundain cyn hyn ond symudodd hi nôl, meddai, oherwydd ei bod yn elwa’n fawr o gael addysg gelfyddydol fwy lleol sy’n canolbwyntio ar nifer fechan o fyfyrwyr. “Yn Ffynnon Job, rydyn ni’n deulu mawr ond yn gampws bach lle mae pawb yn adnabod ei gilydd,” meddai. “Roedd fy nghynlluniau gyrfa gwreiddiol yn fwy seiliedig ar wyddoniaeth a doedden nhw ddim yn cynnwys celf o gwbl ond nawr rwyf o’r farn, os ydych yn ei fwynhau, fe fyddwch yn cael gwaith a does dim pwynt gwneud rhywbeth oni bai eich bod yn mwynhau ei wneud.”

Ar hyn o bryd mae Chelsea yn raddedig preswyl yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ac wrth edrych i’r dyfodol, mae hi’n bwriadu astudio gradd meistr mewn celfyddyd gain. 

Mae ei gwaith yn ffocysu o gwmpas ffurfiau brau o bwy ydyn ni ac mae’n defnyddio porslen oherwydd ei freuder yn ogystal â’i allu i fod yn gryf, solet ac amddiffynnol. 

A piece of jewellery made of seaweed lit up on the wall

Mae’r graddedig mewn gemwaith Deryn May, sy’n hanu o Sir Benfro, yn arddangos ei gwaith o’i chwrs gradd sy’n ymwneud a deunyddiau a lle. 

Mae hi’n defnyddio deunyddiau fel gwymon, gwlân a mwsogl yn ei gwaith lle mae hi wedi ymdrochi ei hun mewn arbrofi a phwytho. 

Daeth Deryn o gefndir yn gweithio ym maes lletygarwch a phenderfynodd ddilyn ei brwdfrydedd a mentro i addysg gelfyddydol pan roddwyd stop ar y diwydiant lletygarwch gan y pandemig. 

Bellach mae hi’n gweithio ar gomisiwn ar gyfer Span arts sy’n defnyddio celf ar gyfer newid cymdeithasol yng Nghymru wledig.

Meddai Deryn May: “Rwyf wrth fy modd yn cael fy newis i arddangos fy ngwaith a phleser pur yw cael arddangos gyda’r grŵp hyfryd hwn o bobl. Mae wir yn dangos yr amrywiaeth o waith sy’n dod allan o’r coleg.

“Mae’n hyfryd i gael cydnabyddiaeth gan Oriel Stryd y Brenin a’r cyffro am fy ngwaith. 

“Pam wnes i arddangos fy ngwaith gradd terfynol yn y coleg, roeddwn i’n nerfus ond yn bles bod y profiad wedi fy helpu i oresgyn fy ofn ac fe wnaeth hynny fy helpu yn yr arddangosfa hon. 

“Rydyn ni’n gwneud modiwl menter yn ein blwyddyn olaf ac mae hynny wedi fy helpu i ddysgu am ffotograffiaeth a hyrwyddo fy ngwaith a bod yn artist proffesiynol y tu hwnt i waliau’r coleg. 

“Roeddwn i’n dwlu ar fy amser yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae jest yn un teulu creadigol mawr. Mae cael eich amgylchynu gan bobl sy’n creu yn gyson yn cadw eich ffocws gyda phwyslais gwirioneddol arnoch yn bod pwy ydych chi  fel artist ac annog arbrofi cyson.”

Ychwanegodd Lesley Morris o Oriel Stryd y Brenin, sy’n oriel dan arweiniad artistiaid: “Pleser o’r mwyaf gennym yw cefnogi graddedigion newydd ar gychwyn cyntaf eu taith.

“Rydyn ni’n teimlo bod cefnogi artistiaid datblygol a thynnu sylw at ddoniau lleol yn rhan bwysig o’n gwaith.”

Mae Sioe Graddedigion 2025 yn arddangos ar hyn o bryd yn Oriel Stryd y Brenin yng nghanol y dref Caerfyrddin ac mae ar gael i’w gweld tan Hydref 22. Mae Oriel Stryd y Brenin ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, o 10am i 4.30pm.

A hanging textiles display from 2025 graduate show a range of soft tones, beiges and coral

Mae arddangoswyr graddedig yn cynnwys Amanda Savinelli (@savinelli_studio), Joy Franklin (joyfranklindesigns.org), Chelsea Reilly (chels_sculpture), Elinor Wyn Jones (@elinor_wyn), Deryn May (@derynrosecreative), Angela James @angelacaseyjames) a Jasmine Ogilvie (@jasmineogilvie.photo)

Pieces of ceramics with framed photography in the back
Photography work showing young children

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau