Skip page header and navigation
Two nurses with two students explaining their task

Bu myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch Coleg Sir Gâr yn gweithio gyda gweithwyr meddygol a deintyddol proffesiynol o’r GIG mewn gweithdai a drefnwyd gan Raglen Maes Meddygol y coleg. 

Daeth nyrsys o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd â blynyddoedd o brofiad o ymateb i drawma a gwaith mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, i siarad â myfyrwyr am lwybrau gyrfa o fewn y gwasanaeth wrth gyflwyno sesiwn ar ddangos empathi i gleifion.

Gosodwyd un grŵp o fyfyrwyr mewn amgylchedd realiti rhithwir lle cawsant brofiad o fod yn berson oedrannus yn ddibynnol ar gadair olwyn a chafodd grŵp arall brofiad lle trechwyd eu synhwyrau. Roedd hyn yn effeithio ar eu golwg, eu clyw, eu cydbwysedd a’u symudedd wrth iddynt gwblhau tasgau bob dydd. 

A dentist rep standing with two students wearing plastic aprons
A dentist holding a pair of training gums and teeth showing a student

Roedd y gweithdy deintyddiaeth yn edrych ar iechyd y dannedd a’r deintgig gyda sesiwn ymarferol ar gymryd argraffion deintyddol a thynnu dannedd. 

Mae’r Rhaglen Maes Meddygol, sy’n unigryw i Goleg Sir Gâr ac mewn partneriaeth â phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn cynnig profiadau ymarferol fel y sesiwn ragflas ‘Diwrnod ym Mywyd…’ hon ynghyd ag ymweliadau â phrifysgolion, pob un â’r nod o ehangu ymwybyddiaeth o’r gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector, megis awdioleg, biocemeg, ymarferydd adran lawdriniaeth (ODP) a geneteg. 

Dr Susan Ford, darlithydd cemeg yng Ngholeg Sir Gâr, sy’n arwain y fenter.  Meddai: “Rydym yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd â phosibl i’n myfyrwyr gael profiadau byd go iawn a fydd yn llunio llwybrau eu gyrfaoedd ac yn eu hysbrydoli i ailfeddwl.

“Mae nifer fawr o lwybrau yn y sector hwn y tu allan i’r gyrfaoedd traddodiadol sy’n dod i’r meddwl ac rydym am i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y sector hwn sydd ar dwf.”

A nurse in the foreground writing something on a clipboard with students working in the background
A student looking at the camera as she practices dentistry impressions

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau