Skip page header and navigation
Lisa standing up with the Coleg Cenedlaethol branding in the back holding her award

Mae’r wobr Coleg Cymraeg Cenedlaethol hon yn cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ymhlith dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd llai ffurfiol. 

Fe wnaeth Lisa Evans, sy’n ddarlithydd mewn gofal plant ar gampws Aberystwyth, ennill Gwobr Cynllun Gwreiddio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gyfoethogi profiad y dysgwr neu’r prentis sydd, meddai, yn anrhydedd fawr.


Mae wedi bod yn anrhydedd fawr i ennill Gwobr Cynllun Gwreiddio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gyfoethogi profiad y dysgwr neu’r prentis. 

Rwy’n falch iawn bod fy ngwaith i gynyddu’r defnydd o‘r Gymraeg yn cael ei gydnabod yn y coleg ac yn ehangach, yn enwedig ym maes gofal plant - sef fy mhrif bwnc - ac eleni hefyd ym meysydd gofal anifeiliaid, busnes ac astudiaethau galwedigaethol.

Dechreuodd fy nhaith ar ôl gadael yr ysgol, yn astudio gofal plant lefel tri ar gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion. Cefais gyfleoedd i gwblhau pob darn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg, derbyniais i gefnogaeth gan diwtoriaid drwy’r Gymraeg, ac yn ogystal gwnes i gyflawni profiadau gwaith mewn lleoliadau Cymraeg, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Ar ôl dwy flynedd o astudio gofal plant, symudais ymlaen i wneud gradd BA mewn addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant: statws ymarferydd blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant am dair blynedd. Eto, cefais y cyfle i wneud fy holl waith trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod yr amser hwn, roeddwn i hefyd yn gweithio mewn meithrinfa leol yn Aberystwyth, yn edrych ar ôl plant i fyny at 12 oed, y clwb ar ôl ysgol a’r clwb gwyliau. Roedd hyn yn brofiad gwerthfawr i hyrwyddo dwyieithrwydd, ac arhosais i yno i weithio am flwyddyn ar ôl cwblhau fy ngradd, gan roi theori ar waith yn ymarferol.

Yn dilyn hynny, penderfynais i gwblhau cwrs TAR er mwyn dod yn athrawes ysgol gynradd. Unwaith eto, roedd holl agweddau’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, a chefais fy rhoi mewn ysgol iaith Gymraeg, a oedd yn brofiad da.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwnnw dychwelais i Goleg Ceredigion i addysgu ac asesu yn fy maes arbenigol - gofal plant lefel dau a thri. Yna des i’n diwtor cwrs lefel un, yn codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg trwy annog dysgwyr i gwblhau eu gwaith drwy’r iaith neu’n ddwyieithog. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf hefyd wedi cwblhau modiwl gradd meistr ar sut y gallwn ni gynyddu’r iaith Gymraeg/dwyieithrwydd ar gyfer y dysgwyr ac yn eu dosbarthiadau. Mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd wedi chwarae rhan allweddol yn fy nhaith hyd yma, drwy’r cyfleoedd mae’r iaith wedi rhoi i mi i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. Yn ogystal rwyf wedi datblygu fy hyder a’m Cymraeg fy hun drwy’r astudiaeth hon.

Meddai Helen Griffith, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd: “Mae Lisa wrth ei bodd gyda phob peth Cymreig ac mae ei brwdfrydedd yn ysbrydoli dysgwyr ar draws Coleg Ceredigion. 

“Mae hi’n cadw’r Gymraeg fel iaith y dosbarth o’r wers gyntaf oll gyda phob grŵp, fel bod pawb yn cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith yn naturiol o’r dechrau.

“Does dim stop arni’r tu allan i’r dosbarth chwaith - ymwelodd hi â Barcelona ar raglen cyfnewid dysgu ryngwladol, drwy gyllid Taith, lle y bu’n trefnu sesiwn iaith Gymraeg ar gyfer pobl leol, gan ledaenu’r iaith y tu hwnt i Gymru. 

“Mae Lisa hefyd wedi cwblhau uned MA Sgiliaith, ac wedi dod â’r holl brofiadau yn ôl i’r coleg, gan roi hwb i hyder pawb i ddefnyddio mwy o’u sgiliau Cymraeg.”

Lisa's photo of her holding her award with some Welsh text on the image saying winner

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau