Llwyddiant Safon Uwch Neilltuol yng Ngholeg Sir Gâr
“Mae canlyniadau eleni yn brawf o ddawn a phenderfyniad ein dysgwyr, ac o arbenigedd ein staff. Mae’r cyflawniadau hyn yn mynd y tu hwnt i raddau – maen nhw’n cynrychioli pobl ifanc sy’n meddu ar y sgiliau i ffynnu yn eu camau nesaf, boed yn addysg uwch, prentisiaethau, neu ym myd gwaith.” Angharad Mansfield, Pennaeth Safon Uwch a Dysgu Gydol Oes
Mae Coleg Sir Gâr yn falch iawn i ddathlu cyflawniadau neilltuol ein dysgwyr yn arholiadau Safon Uwch eleni, gan atgyfnerthu ein cenhadaeth i siapio bywydau, cryfhau cymunedau, a ffynnu gyda’n gilydd.
Unwaith eto, mae ein dysgwyr wedi dangos ymroddiad, gwytnwch, ac uchelgais, gyda chanlyniadau sy’n adlewyrchu eu gwaith caled a hefyd cefnogaeth ddiwyro ein staff addysgu a chymorth eithriadol. Ar y cyfan, enillodd 32% raddau A* i A, enillodd 83% o’r dysgwyr raddau A*-C ac enillodd 99% raddau A*-E. Roedd perfformiadau pwnc nodedig yn cynnwys bioleg, mathemateg, mathemateg bellach, Cymraeg (ail iaith), seicoleg ac ymarfer corff.
“Mae canlyniadau eleni yn brawf o ddawn a phenderfyniad ein dysgwyr, ac o arbenigedd ein staff. Mae’r cyflawniadau hyn yn mynd y tu hwnt i raddau – maen nhw’n cynrychioli pobl ifanc sy’n meddu ar y sgiliau i ffynnu yn eu camau nesaf, boed yn addysg uwch, prentisiaethau, neu ym myd gwaith.” Angharad Mansfield, Pennaeth Safon Uwch a Dysgu Gydol Oes
Mae cyflawniadau Safon Uwch ein dysgwyr yn cyfrannu’n uniongyrchol at ffyniant economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Bydd llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion lleol, cenedlaethol a byd-eang arweiniol, tra bydd eraill yn mynd i’r afael â rolau allweddol mewn diwydiannau sy’n hanfodol i’n heconomi leol. Fel sefydliad angor, rydyn ni’n ymrwymedig i feithrin talent sydd o fudd Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Ochr yn ochr â’n cyflawniadau Safon Uwch, rydyn ni’r un mor falch o ganlyniadau neilltuol ein dysgwyr galwedigaethol, y mae eu sgiliau, eu creadigrwydd, a’u penderfyniad yn hanfodol i ddyfodol ein cymunedau a’n diwydiannau. O beirianneg ac adeiladu i iechyd a’r celfyddydau creadigol, mae’r dysgwyr hyn yn ein gadael gyda chymwysterau, profiad proffesiynol, a hyder i gael effaith uniongyrchol ar y gweithle neu i symud ymlaen i addysg uwch.
“Cyflawniadau ein dysgwyr yw’r arwydd cliriaf fod ein gweledigaeth strategol yn gweithio’n ymarferol. Byddwn ni’n parhau i arloesi, buddsoddi yn ein cymunedau, a darparu amgylchedd dysgu lle y gall pob unigolyn ffynnu.” Dr Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol
Rydyn ni’n llongyfarch ein holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau ac yn diolch i staff a theuluoedd am eu cefnogaeth wrth eu helpu i gyrraedd y cerrig milltir hyn.