Skip page header and navigation
Hephzibah in the workshop

Trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Hephzibah yn creu gwaith sy’n dathlu harddwch treftadaeth Cymru, deunyddiau naturiol, a botaneg frodorol.” Deborah Elsaesser, Darlithydd Dodrefn.  

Mae Hephzibah Huggins yn fyfyrwraig dylunio dodrefn ysbrydoledig a chreadigol sy’n gwau ei hangerdd dros natur leol a’r Gymraeg i’w gwaith.

Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan flodau ac anifeiliaid o Gymru gyda hen abatai ac adeiladau diwydiannol yn chwarae eu rhan ochr yn ochr â Lili’r Wyddfa (Lloydia serotina), blodyn sydd ond yn tyfu yn ardal Eryri. 

A tool box she made for her jewellery tools with a flower motif on the front

Mae hi hefyd yn defnyddio brethyn wedi’i wehyddu a llifynnau cartref o blanhigion sy’n tyfu yng ngardd llifynnau naturiol yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol ar gyfer ei gwaith clustogwaith, gan greu lliwiau cochion dwfn trwy ddefnyddio Rubia tinctorum, a elwir hefyd yn blanhigyn y cochwraidd gwyllt. “Rwy’n cymryd diddordeb arbennig pan fydd cynefinoedd yn cael eu hadfer a phethau byw a oedd wedi diflannu yn dod yn ôl yn fyw,” meddai Hephzibah. “Fe wnes i froetsh enamel yn yr ysgol gelf sy’n portreadu’r corryn rafft. Maen nhw’n byw ar ddail y lili sy’n tyfu ar Gamlas Castell-nedd erbyn hyn, ar ôl iddi gael ei glanhau.”

Cymraeg yw iaith gyntaf Hephzibah ac er bod y cwrs yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, Cymraeg yw’r iaith y mae’n ei defnyddio yn ei gwaith a’i llyfrau braslunio ac mae hi bob amser yn cyflwyno gwaith ac yn derbyn adborth ysgrifenedig yn Gymraeg. 

Ymunodd â’r cwrs gyda’r nod o greu blychau hardd i werthu ei gemwaith cartref ac fe ddysgodd y sgiliau hyn ar gwrs gradd gemwaith a serameg yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. Mae graddfa’r gwaith yn wahanol ond mae hi’n dysgu am bren a gorffeniadau pren, gosod colfachau, torri â laser a thorri gwahanol uniadau. 

Three legged stool with red dyed upholstery on top (round)

Ychwanegodd Hephzibah: “Rwy’n peintio motiffau ar y dodrefn fel y blodau prin iawn sydd ond yn tyfu yn ardal Eryri. Mae hyn yn tynnu sylw at eu prinder ac yn destun trafod i unrhyw un sy’n gweld fy ngwaith. Mae’r hen abatai hefyd yn nodwedd yn fy ngwaith ac fe wnes i argaenwaith o Abaty Talyllychau ar ben bwrdd.

“Yn ddiweddar rydw i wedi cymryd diddordeb mewn clustogwaith. Fe wnes i glustogi stôl â brethyn wedi’i wehyddu yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol gan lifo’r brethyn yn goch gan ddefnyddio gwreiddiau planhigyn o’r enw’r cochwraidd gwyllt, sy’n tyfu yng ngardd lifynnau naturiol yr amgueddfa wlân. Cefais help gan Susan Martin, sy’n gofalu am yr ardd, ac ar gyfer fy narn nesaf rwy’n gobeithio defnyddio dail glaslys i lifo’r brethyn mewn lliw indigo. Mae’n dipyn mwy o her na lliwio’n goch ond rwy’n un sy’n mwynhau her a gweld fy syniadau’n dod yn fyw.”

Hephzibah with Susan Martin from National Wool Museum
Susan Martin

Yr hyn sy’n gwneud Hephzibah yn berson hyd yn oed yn fwy arbennig yw bod ganddi fath prin o ganser y gwaed. Mae hi wedi cael sawl triniaeth cemotherapi a thrallwysiadau gwaed gydag ymweliadau di-ri â’r ysbyty, a hynny am o leiaf pythefnos ar y tro. “Mae’r coleg wedi bod yn hynod o dda ac wedi gofalu amdanaf,” meddai. “Rwy’n cael estyniadau i gyflwyno fy ngwaith ac mae fy athrawes wedi rhoi cadair sydd â chefn cyfforddus i mi pan fyddaf yn blino. Alla i ddim cerdded am gyfnodau hir ond pan rydyn ni’n mynd am dro, mae’r athrawon yn gwneud yn siŵr fy mod i’n gallu gwneud yr un peth â phawb arall. Enghraifft o hyn oedd llogi cadair olwyn ar gyfer y traeth pan aethon ni i draeth Poppit.”

Bu Hephzibah yn nofio dros Gymru ar un adeg ac mae ganddi fedal efydd Cymru mewn nofio; bu hefyd yn gweithio fel achubwr bywyd ac roedd hi’n ymarfer cyn dod i’r coleg bob dydd. Nid yw hi’n gallu nofio bellach ond mae hi’n dweud bod ei hiechyd yn gwella’n raddol.

Er gwaethaf y blinder a’r boen y mae Hephzibah yn aml yn eu dioddef, mae hi’n dal i ddefnyddio ei sesiynau rhydd i gymryd rhan yn y rhaglen gyfoethogi genedlaethol gyda thîm Byddwch yn Uchelgeisiol y coleg, sy’n helpu gyda chynllunio astudiaethau a pharatoi ar gyfer busnes. Mae hi hefyd yn dysgu Sbaeneg ac wedi cwblhau cwrs ‘creadigrwydd mewn busnes’. 

Dywed Hephzibah fod y cwrs dodrefn wedi cynnig rhywbeth cadarnhaol iddi yn ystod ei heriau iechyd ac mae wedi rhoi pwrpas iddi fynd i bob gwers lle mae hi’n gwneud ei marc unigryw yn y gweithdy. 

“Mae Hephzibah’s yn anhygoel ac mae ei stori’n dyst i bŵer penderfyniad. Mae hi’n ein hatgoffa nad yw hi fyth yn rhy hwyr i ymgymryd â heriau newydd a gyda dewrder a dyfalbarhad, gall unrhyw nod ddod yn realiti.” Kayleigh Brading, Cydlynydd Byddwch Actif 

Hephzibah cycling with her daughter Rachel
Hephzibah a'i merch Rachel yn y Duathlon
Hephzibah and her daughter Rachel at the Duathlon

Gan ddefnyddio gwydnwch ei meddylfryd chwaraeon, cystadlodd hefyd dros y coleg mewn deuathlon a drefnwyd gan Golegau Cymru. “Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn y gamp unwaith eto ac rwy’n edrych ymlaen at gwblhau pellter hirach y flwyddyn nesaf,” meddai. 

Meddai Kayleigh Brading, cydlynydd Byddwch Actif Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae Hephzibah yn berson anhygoel. Cysylltodd â mi am y tro cyntaf ym mis Mai y llynedd i ofyn a allai gymryd rhan yn neuathlon y coleg a gyda chefnogaeth Colegau Cymru, gwnaethom ambell i addasiad bach er mwyn iddi allu cymryd rhan.

“Dim ond dros y ffôn yr oeddem wedi cysylltu â’n gilydd cyn y digwyddiad, ond roedd cwrdd â hi wyneb yn wyneb yn brofiad arbennig. Roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf ei bod yn meddu ar gryfder tawel - y math sy’n ysbrydoli pawb o’i chwmpas.

“Mae ei stori’n dyst i bŵer penderfyniad ac mae Hephzibah yn ein hatgoffa nad yw hi fyth yn rhy hwyr i ymgymryd â heriau newydd a gyda dewrder a dyfalbarhad, gall unrhyw nod ddod yn realiti.”  

A table Hephzibah made with Talley Abbey on it

Ar ôl cwblhau ei chwrs fis Mehefin nesaf ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae Hephzibah yn awyddus i sefydlu busnes yn creu a gwerthu celf, cerameg, gemwaith a dodrefn o safon. 

Meddai Deborah Elsaesser, darlithydd dodrefn Coleg Ceredigion: “Trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Hephzibah yn creu gwaith sy’n dathlu harddwch treftadaeth Cymru, deunyddiau naturiol, a botaneg frodorol. 

“Mae pob prosiect yn helaeth, yn lliwgar ac wedi’i gyflwyno’n hyfryd bob amser. Hyd yn oed wrth wynebu heriau iechyd sylweddol, mae Hephzibah wedi parhau â’i hastudiaethau gyda phenderfyniad rhyfeddol ac roedden ni’n gallu ei chefnogi ar gwrs rhan-amser wedi’i deilwra. Mae cryfder a dyfalbarhad Hephzibah yn parhau i ysbrydoli pob un ohonom.”

A love spoon with floral and wildlife focus

Rhannwch yr eitem newyddion hon