Myfyrwyr Dechrau Newydd a Sylfaen yn cyrraedd uchelfannau newydd gyda gwobr Arian Dug Caeredin

Rwy’n credu bod cael cynllun a dull sy’n canolbwyntio ar y person, yn seiliedig ar alluoedd ac anghenion pawb, wedi gweithio’n dda i ni.”.” Tanya Knight, Tiwtor Dechrau Newydd a Sylfaen
Mae myfyrwyr Dechrau Newydd a Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr yn dathlu ennill eu gwobrau Dug Caeredin (DoE) ac am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, mae llawer ohonynt wedi dewis herio eu sgiliau ymhellach fyth ac wedi cwblhau’r wobr arian.
Gyda llif rheolaidd o wobrau efydd bob blwyddyn, derbyniodd y myfyrwyr yr her o wthio eu gwytnwch i’r cam nesaf ac o ganlyniad, mae tua 10 myfyriwr wedi cyflawni’r wobr arian a 25 wedi cyflawni’r wobr efydd.
Mae cyrsiau Dechrau Newydd a Sylfaen yn cynnig cefnogaeth ychwanegol a mentora i’r rheini sy’n ansicr ynglŷn â’u llwybr addysg neu sydd angen cefnogaeth i fynd i’r afael â’u heriau.
Fel rhan o adran wirfoddoli Gwobr Dug Caeredin, mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y wobr arian wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Fathom, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Treuliodd y rheini oedd yn cwblhau eu gwobrau efydd ddau ddiwrnod ac un noson ym Mharc Gwledig Pen-bre ac fe ymunodd y rheini oedd yn cymryd rhan yn y wobr arian â nhw. Fe wnaethon nhw gynnig mentora a chefnogaeth gan gymheiriaid a defnyddio’r gweithgaredd fel alldaith ymarfer ar gyfer Aberhonddu.
Bu myfyrwyr yn gwersylla ym Mannau Brycheiniog am dri diwrnod a dwy noson ar alldaith y wobr arian.
Meddai Tanya Knight, darlithydd Astudiaethau Sylfaen: “Drwy gymryd rhan yng nghynllun Dug Caeredin, mae myfyrwyr wedi newid eu safbwyntiau’n llwyr wrth iddyn nhw feithrin mwy o hyder, gweithio fel tîm ac ennill profiad.
“Rwy’n credu bod cael cynllun a dull sy’n canolbwyntio ar y person, yn seiliedig ar alluoedd ac anghenion pawb, wedi gweithio’n dda i ni.”



Ychwanegodd Steve Bird, darlithydd Dechrau Newydd a Sylfaen: “Roedd alldaith Arian Dug Caeredin 2025 y tu hwnt i fy nisgwyliadau.
“Gwelsom fyfyrwyr yn goresgyn eu cyfyngiadau personol, yn gweithio fel tîm, ac yn cael ymdeimlad o gyflawniad sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r dystysgrif.
“Aeth y grŵp ati i ymgymryd â’r her o gerdded Llwybr Taf o Aberhonddu i Ganolfan Parkwood boen yn law neu hindda.
“Bydd y pothelli’n diflannu, ond bydd yr atgofion a’r chwerthin yn aros.
“Rydych chi wedi profi i chi’ch hunain eich bod chi’n gryfach, yn ddewrach, ac yn fwy abl nag yr oeddech chi’n meddwl a gallwch chi gyflawni pethau anhygoel. Da iawn i’r tîm arian, roeddech chi’n wych.”
Meddai Kayleigh Brading, cydlynydd Lles Byddwch Actif: “Llongyfarchiadau mawr i’n tîm Gwobr Arian Dug Caeredin.
“Mae gwylio eich taith wedi bod yn anhygoel - o ennill y wobr efydd i fynd ymhellach ac ennill eich gwobr arian.
“Mae eich ymrwymiad, eich gwaith tîm, a’ch hyder cynyddol wedi bod yn amlwg iawn. Mae’r sgiliau rydych chi wedi’u datblygu a’r fenter rydych chi wedi’i dangos drwyddi draw wedi bod yn wych i’w gweld.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld sut rydych chi’n defnyddio popeth rydych chi wedi’i ddysgu ac yn ei gymhwyso i’ch bywydau bob dydd ac wrth fynd i’r afael â heriau yn y dyfodol. Da iawn, bawb.”