Skip page header and navigation
The worldskills and CITB logos

Mae ein cystadlaethau’n profi sgiliau dysgwyr yn erbyn safonau diwydiant byd-eang, gan ddarparu llwyfan pwysig i arddangos eu talentau.

Gyda chyflogwyr ledled y DU yn galw’n daer am sgiliau o ansawdd uchel, dyma gyfle gwych i gannoedd o ddysgwyr ddangos eu bod yn barod am waith. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu.” Ben Blackledge, CEO, WorldSkills. 

Mae myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi sicrhau eu lle mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau sgiliau diwydiant yn rowndiau terfynol cenedlaethol cystadlaethau nodedig WorldSkills y DU.   

Ar ôl dangos eu sgiliau rhagorol yn y rowndiau rhagbrofol, byddant nawr yn cystadlu yn erbyn y prentisiaid a’r dysgwyr gorau o bob cwr o’r DU yn y rowndiau terfynol cenedlaethol.  Am y tro cyntaf, bydd lleoliadau ledled De Cymru yn cynnal rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU a fydd yn digwydd rhwng 25 a 28 Tachwedd.   

Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion 11 o ddysgwyr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU a dau fyfyriwr gwaith saer ac asiedydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth SkillBuild – cangen adeiladu’r gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal ym Milton Keynes. 

Mae cystadlaethau WorldSkills y DU yn ymgorffori rhagoriaeth mewn dros 40 o sgiliau ac yn cefnogi dysgwyr a phrentisiaid i ddatblygu’r sgiliau technegol o’r radd flaenaf a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ffynnu a chyflogwyr dyfu. 

I gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ymarfer ar gyfer y rowndiau terfynol cenedlaethol, mae WorldSkills y DU yn darparu adnoddau a digwyddiadau meincnodi, trwy ei blatfform ar-lein, The Learning Lab. 

Meddai Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills y DU: “Llongyfarchiadau i bawb yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ar gyrraedd rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU.  Mae ein cystadlaethau’n profi sgiliau dysgwyr yn erbyn safonau diwydiant byd-eang, gan ddarparu llwyfan pwysig i arddangos eu talentau. Dros ddau ddiwrnod dwys o gystadlu byddant yn meithrin sgiliau a hyder gwerthfawr a fydd yn rhoi hwb i’w gyrfaoedd ac yn gwneud economi’r DU yn fwy cystadleuol. 

“Gyda chyflogwyr ledled y DU yn galw’n daer am sgiliau o ansawdd uchel, dyma gyfle gwych i gannoedd o ddysgwyr ddangos eu bod yn barod am waith. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu.”   

Mae’r myfyrwyr cyfrifyddu Gareth Lloyd a Brandon Ayres o gampws Pibwrlwyd yn cystadlu yn y categori Technegydd Cyfrifyddu.

Mae Elara Jones, Nia Whiteland a Nimet Kilic o gampws Aberteifi yn cystadlu yn y categori Ymarferydd Therapi Harddwch. 

Mae Ellis James o gampws Aberteifi yn cystadlu yng nghategori’r celfyddydau coginiol ac mae Taylor Wilkins o gampws y Graig yn cystadlu yn y categori Sgiliau Sylfaenol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Bydd Pippa Kimberley yn cynrychioli campws Aberteifi yn y categori trin gwallt, a Daniel Bonnell o gampws y Graig yn cystadlu yn y categori ynni adnewyddadwy.

Yn cystadlu yn y categori Gwasanaeth Bwyty mae Ruby Johnston ac Evan Adam o gampws Aberteifi ac yng nghystadleuaeth SkillBuild, mae Twm Jones yn cystadlu yn y categori gwaith saer a Guto Rogers yn y categori gwaith asiedydd.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau