Myfyrwyr Safon Uwch yn gweithio gydag ysgol gelf y coleg i ‘wisgo merch ar draws y byd’

Fe wnaeth myfyrwyr Lefel UG mewn tecstilau Coleg Sir Gâr dreulio diwrnod yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg lle buon nhw’n cymryd rhan mewn gweithdy dan arweiniad graddedigion yn creu gwisgoedd i’w rhoddi i elusen.
Cymerodd rhyw wyth o fyfyrwyr ran yn y gweithdy a arweiniwyd gan raddedigion preswyl gradd ffasiwn yr ysgol gelf.
Cafodd y ffrogiau, a luniwyd o’r dechrau, eu gwneud ar gyfer yr elusen Dress a Girl Around the World sy’n anelu at ddarparu ffrogiau newydd a siorts i blant sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd megis Nigeria, Syria, Uganda a Chameroon.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi rhedeg ambell weithdy i gynorthwyo’r elusen ac maen nhw wedi addasu defnyddiau trymach i weddu i hinsoddau oerach ar gyfer plant mewn gwledydd fel yr Wcráin.
Bu myfyrwyr yn adeiladu ar eu sgiliau presennol ac yn dysgu am drosglymu, gwnïo pocedi, creu llinell gwddf elastig a rhwymyn bias.
Meddai Tammy Davies, graddedig preswyl mewn ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin: “Roedd yn wych i gyflwyno’r myfyrwyr i’n hadran ffasiwn a rhoi cipolwg iddynt i wneud dilledyn cyfan mewn diwrnod yn ogystal â gwybod bod plant sy’n byw mewn tlodi yn mynd i elwa ohonynt.”
Ychwanegodd Lowri Davies, darlithydd Safon Uwch sydd wedi’i lleoli ar gampws y coleg yn y Graig yn Llanelli: “Roedd hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd mewn math gwahanol o amgylchedd y coleg yn adran ffasiwn yr ysgol gelf.
“Fe wnaeth pob un weithio’n galed a mynd i’r afael yn go iawn â’r prosiect a gwnaeth y cymhelliant cadarnhaol o gefnogi elusen Dress a Girl Around the World y profiad yn ystyrlon.”
Meddai Yaz Mercan myfyrwraig Lefel UG Tecstilau: “Mwynheais i’r sesiwn yn fawr iawn, yn enwedig dysgu sut i wneud yr hemio. Dysgodd e fi sut i orffennu gwisg. Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi dysgu llawer oddi wrtho yn ogystal ag ennill sgiliau newydd drwyddo. Rwy’n credu bod hyn yn ased da i fy Safon Uwch.”
Ychwanegodd y fyfyrwraig Bethan Green: “Mwynheais i’r gweithdy hwn ac yn arbennig mwynheais i’r cyfle i roi cynnig ar wahanol fathau o beiriannau, yn enwedig y peiriant trosglymu.”
Dywedodd y fyfyrwraig UG tecstilau Chloe Prosser ei bod wedi mwynhau creu’r dilledyn a chreu rhywbeth ar gyfer achos da. Yn sicr, dysgais i fod pethau weithiau yn cymryd amynedd ac amser a fy mod yn methu cael popeth yn iawn ar unwaith bob tro,” meddai. “Rhoddodd gipolwg i mi ar y math o bethau maen nhw’n gwneud ar y cwrs ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. Roedd yn ddiddorol i weld yr holl beiriannau gwahanol a’r math o fannau lle maen nhw’n gweithio a gallu siarad â staff am wahanol agweddau ar ffasiwn sydd o ddiddordeb i mi.”



“Mwynheais i’r gweithdy hwn ac yn arbennig mwynheais i’r cyfle i roi cynnig ar wahanol fathau o beiriannau, yn enwedig y peiriant trosglymu.” Bethan Green, Myfyrwraig Lefel-A Tecstiliau