Noson yng nghwmni Brychan a Bwyty Maes y Parc: Taith goginiol i fyd wisgi Cymreig o’r radd flaenaf a chiniawa coeth (dim tocynnau ar ôl)

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld beth mae’r tîm wedi’i goginio gan ddefnyddio Wisgi Cymreig Brag Cymysg Brychan. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fwyta yn y bwyty o’r blaen ac rydym yn gwybod y cawn wledd. Ellen Wakelam, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol In the Welsh Wind
Mae bwyty hyfforddi gwobrwyedig Coleg Ceredigion, Bwyty Maes y Parc, yn gweithio gyda distyllfa gwobrwyedig Ceredigion, In the Welsh Wind, i gynnal noson o fwyd wedi’i grefftio’n gelfydd ac wedi’i ysbrydoli gan Brychan, wisgi brag cymysg Cymreig newydd sbon y ddistyllfa.
Bydd y noson, a gynhelir ym Mwyty Maes y Parc, yn arddangos talent myfyrwyr yr adran arlwyo dan arweiniad y darlithydd coleg a chrëwr bwydlenni Sam Everton, deiliad teitl Pen-cogydd Cenedlaethol Cymru 2024 a 2025.
Bydd hefyd yn gyfle i roi sylw i Brychan, wisgi brag cymysg Cymreig newydd y ddistyllfa a gafodd ei ryddhau ar 1 Hydref eleni. Caiff y gwesteion fwynhau coctel sy’n cynnwys wisgi Brychan wrth gyrraedd yn ogystal â gwirodydd eraill o’r ddistyllfa a fydd ar gael y tu ôl i’r bar.
Bydd Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Ddistyllfa, Ellen Wakelam, yn rhoi cyflwyniad byr ac yn ateb cwestiynau am In the Welsh Wind a’u taith i greu Brychan, a hefyd eu datblygiad o’r brag sengl Cymreig cyntaf 100% o’r grawn i’r gwydr.
Bydd bwydlen flasu pum cwrs yn cael ei gweini yn ystod y digwyddiad, sy’n cynnwys canapés tartennau bach gyda brithyll wedi’i halltu â wisgi a crème fraîche, cregyn bylchog wedi’u serio, fricassee llyrlys a chaprys gyda beuree blanc wisgi Brychan, brest cyw iâr wedi’i stwffio, fondant tatws, llysiau tymhorol a hufen wisgi Brychan a mwstard.
Bydd y fwydlen, a gynlluniwyd gan ein darlithydd a’r pen-cogydd Sam Everton mewn cydweithrediad â’n myfyrwyr, yn mynd â gwesteion ar daith o ddarganfod, gan ddathlu cynnyrch lleol gyda wisgi Brychan wrth ei wraidd y cyfan. Huw Morgan, Darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion

Meddai Huw Morgan, darlithydd arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda thîm In the Welsh Wind ar lansiad eu wisgi cymysg newydd.
“Bydd y fwydlen, a gynlluniwyd gan ein darlithydd a’r pen-cogydd Sam Everton mewn cydweithrediad â’n myfyrwyr, yn mynd â gwesteion ar daith o ddarganfod, gan ddathlu cynnyrch lleol gyda wisgi Brychan wrth ei wraidd y cyfan.
“Mae ein dysgwyr hefyd wedi mynd ati i greu detholiad o goctels arloesol, gan arddangos nid yn unig wisgi Brychan ond hefyd amrywiaeth o wirodydd eraill sydd gan In the Welsh Wind i’w cynnig.
“Mae’r noson arbennig hon yn gyfle amhrisiadwy i’n myfyrwyr gydweithio â phartneriaid lleol wrth sicrhau bod lansiad y cynnyrch Cymreig newydd rhagorol hwn yn cael ei ddathlu i’r eithaf. Ym Mwyty Maes y Parc, rydym yn falch o dynnu sylw at sgiliau, creadigrwydd a brwdfrydedd ein dysgwyr a’n staff mewn digwyddiad mor unigryw a chyffrous.”
Ychwanegodd Ellen Wakelam, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol In the Welsh Wind: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’r tîm ym Mwyty Maes y Parc yng Ngholeg Ceredigion ar y digwyddiad hwn i arddangos ein Wisgi brag Cymysg cyntaf.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r coleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnig ymweliadau astudio â’r ddistyllfa i fyfyrwyr lletygarwch lefel dau a thri, ac mae’r coleg wedi dewis arddangos ein cynnyrch mewn nifer o gystadlaethau proffil uchel yn ogystal ag yn bar yn y bwyty.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld beth mae’r tîm wedi’i goginio gan ddefnyddio Wisgi Cymreig Brag Cymysg Brychan. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fwyta yn y bwyty o’r blaen ac rydym yn gwybod y cawn wledd!”
Cynhelir y noson, a werthodd pob tocyn o fewn diwrnod i’w chyhoeddi, ddydd Mercher, 22 Hydref, ym Mwyty Maes y Parc sef bwyty hyfforddi Coleg Ceredigion sydd wedi’i leoli ar gampws y coleg yn Aberteifi.