Skip page header and navigation
Two young women looking at the camera holding up certificates.

Mae dau brentis sy’n gweithio i gwmni cyfreithwyr JCP Solicitors wedi cwblhau rhaglenni dysgu seiliedig ar waith paragyfreithiol o dan gynllun prentisiaeth Coleg Sir Gâr.

Bydd Carolina Galanti, o Gastell-nedd a Caralee Parry o Abertawe, yn datblygu eu gyrfaoedd cyfreithiol ac yn ymestyn eu hastudiaethau o gymhwyster prifysgol lefel tri i lefel pump fel rhan o’u prentisiaeth bresennol.

Gofynnwyd iddyn nhw rannu eu profiadau er mwyn helpu i ysbrydoli eraill i ymgymryd â rhaglen seiliedig ar waith sy’n canolbwyntio ar y gyfraith. 


Mae Carolina Galanti yn frwd iawn dros helpu eraill a rhannu ei gwybodaeth er mwyn cefnogi’r rhai sydd angen arweiniad cyfreithiol.

“Fy nod i yw parhau â’m hastudiaethau i ddod yn gyfreithwraig, gan helpu eraill a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy roi cymorth cyfreithiol hygyrch ac effeithiol,” meddai Carolina. “Rydw i’n teimlo bod y cwrs lefel tri wedi gwella fy nealltwriaeth o effaith y gyfraith ar fywyd bob dydd, gan ddyfnhau fy ngwerthfawrogiad o’i pherthnasedd a’i gymhwysiad.”

Mae Carolina yn cydbwyso swydd llawn amser, ymrwymiadau academaidd a bywyd personol ond mae hi wedi datblygu strategaethau sy’n caniatáu iddi ymdopi â’i chyfrifoldebau. “Rwy’n credu bod y gwaith caled a’r dyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed,” meddai. 

Mae hyn yn wir yn achos Caralee Parry hefyd, sy’n dweud mai un o’r sgiliau pwysicaf a ddatblygodd ar y brentisiaeth oedd dysgu rheoli ei llwyth gwaith, sydd wedi ei helpu i baratoi ar gyfer symud ymlaen i lefel pump. 

Daeth ambell i her i’w rhan hefyd er gwaethaf ei hymdrechion gyda’r gwaith. “Fodd bynnag, gydag anogaeth gan fy nhiwtoriaid, fy ymghorydd hyfforddi a fy nghydweithwyr, llwyddais i oresgyn yr heriau a llwyddo,” meddai. “Mae dod ar draws ambell rwystr yn gwbl normal, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n amyneddgar gyda chi’ch hun ac yn neilltuo digon o amser i astudio.”

Ei phrif nod ar gyfer lefel nesaf y cymhwyster yw parhau â’i thaith gyda CILEX, sef Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, corff statudol ar gyfer y sector gwasanaethau cyfreithiol. “Rwy’n gobeithio cymhwyso i fod yn rhan o dîm y llys gwarchod a meithrin gyrfa yn y maes hwnnw o wasanaethau cyfreithiol,” meddai. 

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau mewn Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae’r cyrsiau lefel tri a lefel pump yn cael eu cyflwyno ar gampws Bae Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Coleg Sir Gâr sy’n cyflwyno fframwaith y brentisiaeth lle mae gan bob prentis gynghorydd hyfforddi fel mentor i gynnig cefnogaeth, arweiniad a dilyniant.

Mae’r ddwy raglen yn rhaglenni rhan-amser ac yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd dysgwyr yn ymgymryd â chymhwyster proffesiynol CILEX fel rhan o’r brentisiaeth.

Cysylltwch â Lydia.david@colegsirgar.ac.uk am ragor o fanylion.

Rhannwch yr eitem newyddion hon