Skip page header and navigation
Nia, Welsh champion facilitating a Welsh language workshop for schools

Bu disgyblion o ysgolion uwchradd Llanelli yn cymryd rhan mewn gweithdai Cymraeg yng Ngholeg Sir Gâr er mwyn iddynt gael blas ar astudio Cymraeg ar lefel Safon Uwch. 

Trefnwyd y digwyddiad Hybu Cymraeg Safon Uwch gan diwtor y Gymraeg, Philippa Smith, a wnaeth wahodd y sefydliadau allanol Partneriaeth a Phrifysgol Abertawe i hwyluso rhai o’r gweithdai a’u ffrydio drwy ddolen fyw i Stephen Rule, a adwaenir hefyd fel Dr Cymraeg. 

Yr ysgolion a gymerodd ran oedd Bryngwyn, Coedcae, Sant Ioan Llwyd a Glan-y-Môr.

Cafodd y disgyblion gyfle i fynd i dair sesiwn wahanol. Cafodd un ohonynt ei rhedeg gan Dyfed Williams o sefydliad Partneriaeth lle roedd rhaid i ddisgyblion ddefnyddio eu Cymraeg i ateb cwestiynau a chwarae gemau er mwyn ffeindio’u ffordd allan o ystafell – cyfuniad o Escape Room a Task Master.

Gwnaeth Miriam Jones a Hannah Sams o’r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe hwyluso sesiwn ar farddoniaeth, sy’n rhan o’r cwrs Cymraeg Uwch Gyfrannol ac i gynnig blas o fywyd yn y brifysgol.

Staff a myfyrwyr Coleg Sir Gâr gyflwynodd y drydedd sesiwn, a oedd yn cynnwys rhannu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y coleg. Yn dilyn hynny cafwyd cwis ‘Chwalu’r Chwedlau’ (myth busting) a chynhaliwyd sesiwn o Gwestiynau Cyffredin am astudio Cymraeg Safon Uwch.

Bu’r Doctor Cymraeg, yn siarad yn fyw o Ysgol Maelor yn Wrecsam, yn sôn am ei brofiadau gyda’r iaith ac fe wnaeth gynnwys ambell ffaith ysgafn ddifyr am y Gymraeg.

Meddai darlithydd Coleg Sir Gâr Philippa Smith: “Diolch o galon i’r holl gyfranogwyr ac i’r ysgolion am gefnogi’r digwyddiad hwn.

“Mae Cymraeg Safon Uwch yn wahanol iawn i TGAU felly roedden ni am roi blas i ddisgyblion o astudio Cymraeg yn y coleg.”

Two pupils taking part in a Welsh workshop with one looking at the camera holding up some work
Three students helping out at the Welsh language workshop for schools
A facilitator in the Welsh language workshop
Pupils standing in a classroom working out a task

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau