Y Coleg yn ennill gwobr aur y DU am ei raglen ddysgu broffesiynol AI
Yn hytrach na chynnig hyfforddiant technegol, mae’n gwahodd staff i archwilio sut y gall AI wella eu rolau presennol, lleihau llwyth gwaith, cefnogi creadigrwydd, a gwella canlyniadau a phrofiad dysgwyr. Bryony Evett-Hackfort
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ennill Gwobr Aur y DU yng ngwobrau Datblygu Arfer Rhagorol y Fforwm Datblygu Staff (SDF) am ei raglen datblygu staff AI, Gwella nid Disodli.
Rhaglen ddysgu ddigidol i staff yw AI - Gwella, nid Disodli sydd wedi’i chynllunio i feithrin hyder, chwilfrydedd ac eglurder ynghylch defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn addysg. Wedi’i datblygu mewn ymateb i ansicrwydd a diddordeb cynyddol mewn offer AI cynhyrchiol, mae’r rhaglen yn osgoi heip ac ofn, gan ganolbwyntio yn hytrach ar ddefnydd ymarferol, moesegol ac ystyriol.
Mae’r pecyn pedwar-modiwl, gellir ei wneud ar eich cyflymder eich hun, ar gael i staff addysgu a staff cymorth busnes hefyd, ac mae’n defnyddio enghreifftiau go iawn, promptiau adfyfyriol, a chynllunio syml er mwyn annog ymgysylltiad ystyrlon.
Yn hytrach na chynnig hyfforddiant technegol, mae’n gwahodd staff i archwilio sut y gall AI wella eu rolau presennol, lleihau llwyth gwaith, cefnogi creadigrwydd, a gwella canlyniadau a phrofiad dysgwyr.
Yr hyn sy’n gwneud i’r rhaglen hon sefyll allan yw ei thôn a’i bwriad. Mae’n creu lle ar gyfer twf a rheolaeth bersonol, cwestiynu, arbrofi, a sgyrsiau proffesiynol, nid atebion yn unig. Mae’n ailfframio AI fel offeryn ar gyfer twf, ac nid i gymryd lle gwybodaeth a mewnwelediad dynol. Ers ei lansio, mae’r rhaglen wedi cael ei chwblhau gan 123 o aelodau staff ac mae eisoes wedi dylanwadu ar arfer ar draws y coleg, o gynllunio cwricwlwm i brosesau gweinyddol.
Nid cwrs ar-lein yn unig mohono. Mae’n cynrychioli newid diwylliannol ehangach sy’n fodel o sut y gall addysg bellach arwain y ffordd wrth ddefnyddio offer digidol i rymuso pobl, cefnogi arloesedd, a llunio arfer sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
O arolwg coleg, dywedodd 89.2% o staff fod yr hyfforddiant wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gwaith bob dydd, felly cafodd yr hyfforddiant ei addasu a’i gyflwyno i fyfyrwyr, gyda bron i 1,700 yn ei gwblhau hyd yma.
Mae’r hyfforddiant wedi cael ei hyrwyddo gan gyrff sector cyhoeddus eraill hefyd, gyda thua 400 o staff y GIG yn ymgymryd â’r rhaglen.
Mae Bryony Evett Hackfort, cyfarwyddwr addysgu, dysgu ac addysg yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn arwain datblygiad strategol technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) cynhyrchiol ar gyfer myfyrwyr a staff. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Cymunedol Jisc 2025 ac yn gadeirydd y sefydliad elusennol, Informal AI Network UK.
Ei hathroniaeth graidd yw ‘gwella nid disodli’ ac fe wnaeth hi beilota’r rhaglen hyfforddiant i gael adborth gan staff cyn ei chyflwyno ar draws saith campws y coleg. “Roedd adborth y staff yn hollol hanfodol i’r rhaglen hyfforddiant hon, yn ogystal ag arweiniad allanol,” meddai. “Roedd hi’n llwyddiannus oherwydd y staff a’u parodrwydd i archwilio dysgu proffesiynol. Adborth y beirniaid oedd bod y rhaglen wedi’i hystyried yn ofalus iawn sef yr hyn roedden ni’n gobeithio cyflawni. Hefyd, roedd hi’n bwysig i ni gynnwys yr holl staff, nid timau addysgu yn unig gan ein bod am ddatblygu diwylliant o hyder o gwmpas defnyddio AI yn ein sefydliad. Felly cafodd ei ysgrifennu ar gyfer pobl waeth beth fo rolau eu swyddi a’u rhyngweithiadau blaenorol gydag AI.”
Wrth i gyflymder datblygiadau AI barhau, felly hefyd fydd y rhaglen hon. Gan ei bod wedi cael ei chreu yn fewnol, mae rheolaeth lawn gan y coleg i ddiweddaru cynnwys yn rheolaidd ac i ychwanegu a dileu cynnwys yn ôl yr angen. Caiff perthnasedd a hygrededd cynnwys y rhaglen eu hadolygu bob tymor er mwyn iddo adlewyrchu ‘Cyflwr Cenedl ’ cyfredol AI.
Mae’r broses hon bellach wedi caniatáu i’r coleg wneud cynnydd sylweddol wrth gyfarwyddo dysgwyr er mwyn sicrhau bod yna ddiwylliant tryloyw a chlir o gwmpas ei ddefnyddio gan ddysgwyr yn ogystal â staff.
Mae’r Fforwm Datblygu Staff (SDF), y sefydliad sy’n cyflwyno’r wobr, yn sefydliad elusennol nid-er-elw, sy’n cynrychioli a gweithio gyda staff a datblygwyr sefydliadol mewn addysg uwch.