Ymweliad â Chanada yn cynnig mewnwelediadau byd-eang ar ddatblygu diogelu mewn colegau addysg bellach
Mae un o gyfarwyddwr y coleg wedi dychwelyd o Ganada yn ddiweddar lle cymerodd ran, gydag uwch arweinwyr eraill o Gymru, mewn cynllun cydweithio rhyngwladol i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr mewn colegau addysg bellach.
Daeth yr ymweliad hwn ag aelodau o Gymuned Ymarfer drawswladol o Gymru a Chanada ynghyd, a sefydlwyd mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad Estyn ym mis Mehefin 2023, sef Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru.
Prif nod yr ymweliad, a drefnwyd gan ColegauCymru, oedd galluogi aelodau o Gymru a Chanada i gyfarfod wyneb yn wyneb, gan gryfhau’r berthynas a datblygu’r gwaith a wnaed gan y grŵp.
Gan ymweld â nifer o golegau yn ystod y daith, cafodd y grŵp gyfle i gymharu modelau cymorth a rhannu arferion da a ddefnyddir mewn colegau yng Nghanada a Chymru.
Aeth Tom Snelgrove, cyfarwyddwr profiad dysgwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ar y daith wythnos o hyd i Montreal a dywedodd: “Roeddwn i’n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu oddi wrth ein partneriaid ac arsylwi ymarfer cynhwysol mewn lleoliadau amrywiol, a chael mewnwelediadau ar fodelau ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a all lywio ac ysbrydoli ein gwaith yng Nghymru.
“Dysgais o’r profiad ein bod ni fel coleg ar y trywydd cywir i sicrhau bod ein dysgwyr i gyd yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma, a bod ein blaenoriaethau strategol yn gywir gyda charedigrwydd yn sylfaen gadarn i’n hethos.
“Roedd modelau Canada yn ddiddorol ac yn tueddu bod yn seiliedig ar ymchwil gydag ethos cryf o ‘beidio â chadw’n dawel’.
“Mae’r prosiect hwn yn edrych ar ddatblygu systemau ar gyfer myfyrwyr ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo, ond cadarnhaodd y daith i mi mor dda yw ein systemau cefnogi yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ac yng Nghymru drwyddi draw, yn enwedig o ran systemau diogelu ar gyfer Prevent, hiliaeth, cymorth i grwpiau lleiafrifol a’r gymuned LHDTC+.”
Bydd ColegauCymru a cholegau unigol yn croesawu’r garfan o Ganada i Gymru ym mis Hydref eleni.
Mae’r daith hon a’r prosiect Cymuned Ymarfer wedi’u hariannu gan Taith (Llwybr 2).