Ysbrydoliaeth i Addysgu: Hanes TAR Val Morse

Mae Val Morse yn fyfyrwraig TAR yng Ngholeg Sir Gâr a ddychwelodd i addysg yn hwyrach mewn bywyd ar ôl ymroi ei bywyd yn llwyr i’w theulu.
Gyda dwy ferch a dau fab, gan gynnwys un mab gydag awtistiaeth, gwnaeth Val y penderfyniad i ohirio ei gyrfa a bod yn fam lawn amser.
Ychydig dros dair blynedd yn ôl, pan oedd ei phlant yn ddigon hen, cymerodd Val rôl yng Ngholeg Elidyr fel gweithiwr cymorth dysgu sy’n rôl debyg i gynorthwyydd addysgu.
Rhagorodd yn ei rôl ac yn fuan gweithiodd ei ffordd i fyny i ddarparu cymorth lefel uwch i ddysgwyr.
Gyda chydweithwyr cefnogol iawn, cafodd ei hannog i wneud cais am swydd tiwtor a ddaeth yn y coleg. Roedd hi’n llwyddiannus yn ei chyfweliad a dewisodd astudio ar gyfer tystysgrif addysg i raddedigion (TAR) i gefnogi ei datblygiad addysgu.
A hithau’n byw yn Llanymddyfri, cafodd Val fynediad o bell yn ogystal ag wyneb yn wyneb i’r cwrs TAR ac mae’n dweud bod y gefnogaeth a dderbyniodd gan gydweithwyr yng Ngholeg Elidyr a thiwtoriaid o Goleg Sir Gâr wedi bod yn amhrisiadwy i’w datblygiad
Meddai Val Morse: “Mae Coleg Elidyr yn annog datblygiad proffesiynol felly roedd yn gyfle defnyddiol i ddilyn cymhwyster addysgu gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr, sydd wedi bod yno i mi bob amser pan wyf wedi bod yn brin o hunan-gred.
“Roedd mynd nôl i amgylchedd academaidd ac ysgrifennu academaidd yn heriol, a hefyd bod yn un o’r myfyrwyr hŷn ar y cwrs, ond doedd dim ots, fe wnaeth pawb gyd-dynnu a dod â’n gwahanol brofiadau.
“Mae’r gefnogaeth a dderbyniais gan fy nhiwtoriaid a’m cymheiriaid wedi bod yn syfrdanol ac rwyf wedi teimlo’n gyfforddus iawn yn dysgu yn eu plith.
“Fy her fwyaf oedd pan gafodd fy ngŵr ddamwain a phryd hynny, roeddwn i wir ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu parhau gyda’r cwrs.
“Roedd tîm Coleg Sir Gâr mor gefnogol a gwnaethant yn siŵr fod fy lles yn hollbwysig gan gadw mewn cysylltiad â mi a chynnig cefnogaeth. Gwnaethon nhw bopeth y medrent i’m helpu a rhoddon nhw estyniadau wedi’u cymeradwyo gan y brifysgol ar fy ngwaith.
“Rwyf wedi gweithio’n galed iawn yn ystod y cwrs hwn ond heb y gefnogaeth yma, rwy’n gwybod y byddwn i wedi methu a phwy a ŵyr pe byddwn wedi dychwelyd i’r cwrs. Dydw i ddim hyd yn oed yn meddwl roedd hyn uwchlaw a thu hwnt i’r tîm hwn. Dim ond rhywbeth maen nhw’n ei wneud ydyw.”
Yn rôl Val fel tiwtor sgiliau, caiff staff eu hannog i ddod â rhywbeth newydd i’w hymarfer, sydd wedi arwain at Val yn cael y llys-enw Professor Morse gan ei myfyrwyr. Yn ei sesiynau gwyddoniaeth, sy’n cynnwys bioleg a ffiseg, mae hi’n gwisgo cot wen ac yn defnyddio dulliau addysgu diddorol fel llosgfynyddoedd yn ffrwydro gyda help Bob y sgerbwd.

Ychwanegodd Val Morse: “Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs rydych chi’n dysgu i ymgorffori llawer o theori yn eich ymarfer, yn yr ail flwyddyn ceir llawer o waith adfyfyriol ar eich ymarfer eich hun.
“O fewn ein grŵp, rydyn ni’n rhannu cynlluniau gwaith, sydd wedi bod yn fewnwelediad amhrisiadwy i mi gael cipolwg ar sut mae fy nghymheiriaid yn mynd i’r afael â’u rolau addysgu neu hyfforddi.
“Dydych chi fyth yn rhy hen i wneud rhywbeth fel hyn, ewch ati i’w groesawu a’r gefnogaeth sy’n dod gydag e. Roeddwn i’n amau fy hun, doeddwn i ddim yn hyderus ar y dechrau ond eleni rwy’n gobeithio byddaf yn mwynhau fy seremoni raddio.”
Fel rhan o brosiect y cwrs, mae Val yn ymchwilio i ARP ac effaith rhestr dasgau widget cyfathrebu cyflawn ar ymgysylltiad dysgwyr. O ganlyniad, mae hwn hefyd yn cael ei dreialu gan Goleg Sir Gâr.
Meddai Sue Hope-Bell, dirprwy bennaeth addysg ar gyfer Ymddiriedolaeth Cymunedau Elidyr: “Rydyn ni’n falch o fod wedi cefnogi Val ar ei thaith TAR drwy bartneriaeth gref gyda Choleg Sir Gâr.
“Trwy weithio gyda’n gilydd, roedden ni’n gallu sicrhau bod ganddi’r profiad ymarferol a’r arweiniad academaidd angenrheidiol i ennill ei chymhwyster.
“Mae’n enghraifft dda o sut y mae cydweithrediad ystyrlon rhwng colegau yn gallu cefnogi datblygiad staff ac yn y pen draw cyfoethogi profiadau dysgu ar gyfer myfyrwyr ar unrhyw gyfnod yn eu bywydau.”
Ychwanegodd Josh Fretwell, rheolwr hyfforddi ar gyfer Ymddiriedolaeth Cymunedau Elidyr: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gyda Choleg Sir Gâr ers 2015, yn rhoi ein staff addysg drwy’r cymhwyster TAR.
“Mae hwn yn gymhwyster amhrisiadwy ar gyfer unrhyw diwtor uchelgeisiol ac rydyn ni’n hapus bod Val wedi gallu ennill ei chymhwyster ar ôl dwy flwyddyn gyfan o waith caled. Da iawn Val!”