Hysbysiad Preifatrwydd I Ddysgwyr
2022 - 2025
Introduction
-
Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon yn ddibynnol ar i chi ddarparu data personol. Coleg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion (o hyn ymlaen, y Coleg) fydd y rheolydd data ar gyfer y wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu. Bydd y Coleg yn defnyddio’r wybodaeth hon i weinyddu a rheoli eich rhaglen.
Mae’n bosibl bod y rhaglen ddysgu rydych ar fin cofrestru arni yn cael ei hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
-
Bydd y Coleg yn defnyddio eich data ar gyfer gweinyddu eich rhaglen, hawlio cyllid gan Lywodraeth Cymru os yw’n briodol, casglu ffïoedd os yw’n briodol, cynhyrchu cyfrif rhwydwaith i roi mynediad i chi i wasanaethau TG megis Google a Microsoft, monitro eich cynnydd a’ch deilliannau (megis cyflawni cymwysterau), a chefnogi eich cyfnod pontio, eich dilyniant a’ch llwyddiant yn ystod eich cyfnod yn y coleg, a thu hwnt. Gall hefyd gael ei ddefnyddio mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn ddienw ac ni chewch eich adnabod. Rhoddir manylion llawn am sut yr ydym yn defnyddio eich data isod.
-
Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mae gennych yr hawl i:
- weld y data personol y mae’r Coleg yn eu cadw amdanoch chi;
- ei gwneud yn ofynnol i’r Coleg gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
- gwrthwynebu unrhyw achos o brosesu’r data, am resymau’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau);
- cyfyngu ar waith prosesu (mewn rhai amgylchiadau);
- gofyn i’ch data gael eu dileu (mewn amgylchiadau penodol);
- cyflwyno cwyn i swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
-
Disgrifiad Cadw Data craidd dysgwyr. 10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg Deilliannau dysgwyr - pasio, cymhwyster, rhestrau dyfarniadau. 10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg* Cofnodion yn ymwneud â’ch cynnydd academaidd. 10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg Cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a materion disgyblu. 10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg Cofnodion yn ymwneud â materion lles/ cefnogi dysgwyr. 10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg Gwasanaethau Cynghori Dysgwyr. 2 flynedd ar ôl i chi adael y Coleg Cyfrif(on), rhwydwaith a storfa cwmwl Dysgwr a ddarparwyd gan y coleg. Blwyddyn ar ôl i chi adael y Coleg *Gellir cysylltu â chyrff dyfarnu am ganlyniadau a thystysgrifau cyn ac ar ôl y cyfnod cadw hwn.
-
I gael manylion am y wybodaeth y mae’r Coleg yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau dan y GDPR, gweler y cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion
Campws y Graig
Heol Sandy
Llanelli
SA15 4DN
dataprotectionofficer@colegsirgar.ac.uk
I gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU)
-
Os yw’r Coleg yn bwriadu defnyddio eich data mewn ffordd wahanol i’r hyn a nodwyd adeg ei gasglu, fe gewch eich hysbysu. Bydd holl brosesu’r Coleg yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol. Bydd diweddariadau i’r hysbysiad preifatrwydd ar gael ar ein gwefan.
-
Bydd rhywfaint o’r data a gasglwyd yn ddata personol a/neu yn ddata categori arbennig fel y’i diffinnir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sy’n cynnwys:
Data Personol:
- Dynodydd unigryw’r dysgwr (a grëwyd gan Lywodraeth Cymru)
- Rhif adnabod y dysgwr (a grëwyd gan y Coleg)
- Cyfenw ac Enw(au) Cyntaf
- Cyfeiriad (Cartref ac yn Ystod y Tymor) a Chodau Post
- Gwlad Breswyl
- Rhif ffôn (Cartref a Symudol)
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhywedd
- Cyfenw yn 16 oed
- Dyddiad geni
- Mewn Gofal / Ymadäwr Gofal
- Cofnod troseddol
- Hunaniaeth genedlaethol
- Siaradwr Cymraeg
- Cymhwyster Uchaf yn y Gymraeg
- Dewis o ran gohebiaeth - Cymraeg / Saesneg
- Rhif cofrestru cerbyd
- Statws cyflogaeth
- Manylion cyflogwr
- Yr ysgol ddiwethaf yr aethoch iddi
- Y flwyddyn y gadawsoch yr ysgol
- Rhif dysgwr unigryw (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
- Manylion cyswllt Perthynas Agosaf
At hynny, ceir data amdanoch sy’n cael ei ddiffinio fel data categori arbennig. Nid oes rhaid i chi ddarparu’r data hwn a bydd yn cynnwys:
- Ethnigrwydd
- Math o anabledd
- Cyflwr iechyd
Caiff y data personol/categori arbennig hwn ei ddefnyddio ar draws pob dysgu Ôl 16 yn y Coleg.
Hefyd, ar gyfer dysgwyr Addysg Uwch yn unig:
- Crefydd
- Cyfeiriadedd Rhywiol
- Hunaniaeth o ran rhywedd - yr un fath ag a neilltuwyd ar enedigaeth
- Gwlad eich Geni
- Math o lety yn ystod y tymor
- Yn derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
- Cymhwyster Uchaf ar fynediad
-
Mae’r Coleg yn casglu llawer iawn o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Caiff data ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, cyrff dyfarnu, asiantaethau ariannu, sefydliadau ymchwil, cyflenwyr meddalwedd, cyrff proffesiynol, ac ati, er mwyn rhedeg busnes y Coleg. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae casglu’r data hwn yn orfodol - rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud. Isod rydym wedi amlinellu’r sefydliadau rydym yn rhannu eich data â nhw a’r prif resymau dros i ni wneud hyn. Gallwn eich sicrhau ein bod yn storio eich data yn ddiogel ac yn defnyddio eich data yn unig at y dibenion a amlinellir. Nid ydym yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata neu werthu.
Categori’r Dysgwr
Sefydliad rydym yn rhannu ag ef
Pwrpas(au) rhannu data
Addysg
Bellach
Dysgu
Seiliedig ar Waith
Addysg
Uwch
Ysgol
14-19
Llywodraeth Cymru (gan gynnwys cyrff ymchwil a gomisiynir gan LlC i gynnal dadansoddiad / gwerthusiad o raglenni / prosiectau) Ariannu Addysg Bellach (AB); monitro cyfranogiad grwpiau gwahanol; Taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA); monitro perfformiad myfyrwyr a cholegau. ✓ Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr (LRS) Cofnodiad cenedlaethol o gyflawniadau a chyraeddiadau myfyrwyr o’r Ysgol i’r Coleg. ✓ ✓ ✓ ✓ Consortiwm B-WBL dan arweiniad Coleg Sir Benfro Ariannu ein gweithgaredd Prentisiaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL); monitro cyfranogiad grwpiau gwahanol; monitro perfformiad colegau; darparu data i Lywodraeth Cymru fel darparwr arweiniol ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith. ✓ Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Ariannu ein dysgu Addysg Uwch (AU); monitro cyfranogiad grwpiau gwahanol; monitro perfformiad myfyrwyr a cholegau; dyfarnu tystysgrifau; darparu data i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC). ✓ Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Cyflenwir trwy PCYDDS
Ariannu dysgu Addysg Uwch (AU); monitro cyfranogiad grwpiau gwahanol; monitro perfformiad colegau; darparu data i Lywodraeth Cymru. ✓ Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Cyflenwir trwy PCYDDS
Casglu data ystadegol ar gyfer y sector AU i gyfrifo mesurau perfformiad safonol. ✓ Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC)
Cyflenwir trwy PCYDDS
Gweinyddu a thalu ffïoedd, benthyciadau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy’n ymgymryd ag AU. ✓ Ede and Ravenscroft I wasanaethu seremonïau Graddio - gwasanaethau gynau a ffotograffiaeth. ✓ ✓ ✓ Cynghorau Sir Gaerfyrddin / Ceredigion Rhywfaint o ddarpariaeth a gefnogir; Rhwydwaith cludiant; tocynnau bws. ✓ ✓ ✓ Ysgolion Partner 14 -19 Er mwyn monitro perfformiad disgyblion ysgol sy’n mynychu rhaglenni yn y Coleg fel rhan o weithgareddau 14 - 19. ✓ Cyrff Dyfarnu, e.e., CBAC, BTEC, CGLI, CACHE, OCR ac ati Cofrestru dysgwyr ar gyfer dyfarniadau a rhoi tystysgrifau i’r rheiny sy’n llwyddo. ✓ ✓ Tribal (WEST) System a gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru a ddefnyddir i asesu a datblygu lefelau llythrennedd a rhifedd myfyrwyr. ✓ ✓ ALPS System gwerth ychwanegol a ddefnyddir i fonitro’r cynnydd addysgol mae myfyrwyr yn ei wneud rhwng dechrau a gadael y Coleg. ✓ Microsoft Er mwyn i fyfyrwyr gael defnyddio’r meddalwedd. ✓ ✓ ✓ ✓ Google Er mwyn i fyfyrwyr gael defnyddio’r meddalwedd. ✓ ✓ ✓ ✓ Txt connect Rhifau ffôn symudol i ganiatáu i ni anfon negeseuon testun at fyfyrwyr. ✓ ✓ ✓ ✓ Chwaraeon Cymru
Trwy UPSHOT
Cofnodi myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan Chwaraeon Cymru i fonitro lefelau cyfranogiad. ✓ ✓ ✓ My Concern Olrhain a monitro materion diogelu myfyrwyr. ✓ ✓ ✓ ✓ Purlos / Hubspot I wella ymgysylltiad myfyrwyr a gwella canlyniadau ar draws taith y myfyriwr. ✓ Cynnal Derbyn ac anfon Cynlluniau Datblygu Unigol mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr. ✓ ✓ ✓ ✓ Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Er mwyn gwirio hanes troseddol blaenorol myfyrwyr ar rai rhaglenni. ✓ ✓ ✓ Cyflogwyr Monitro cynnydd Gweithwyr ar raglenni a ariennir/a gefnogir. ✓ ✓ ✓ Rhieni / Gwarcheidwaid os dan 18 oed I’w galluogi i fonitro eich cynnydd yn y coleg. ✓ ✓ ✓ ✓ Yn ogystal â’r sefydliadau a restrir yn y tabl uchod, gall y Coleg rannu eich data gyda sefydliadau allanol eraill lle bo angen i gyflwyno eich rhaglen astudio, cefnogi eich dysgu, cydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol, amddiffyn diogelwch y cyhoedd, neu ar gyfer buddiannau dilys eraill y Coleg. Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, sefydliadau addysgol eraill, consortia cyrff dyfarnu, archwilwyr, darparwyr gwasanaethau TG, a chynghorwyr cyfreithiol. Ym mhob achos, bydd rhannu data yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol at y diben penodol, a bydd eich data yn cael ei drosglwyddo a’i brosesu’n ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
-
Mae’r coleg yn blaenoriaethu diogelwch eich data, gan weithredu polisïau a rheolaethau mewnol i atal colli, dinistrio damweiniol, camddefnyddio, neu ddatgeliad heb awdurdod. Mae mynediad wedi’i gyfyngu i weithwyr sy’n cyflawni eu dyletswyddau. Pan fydd trydydd partïon yn prosesu data personol ar ran y grŵp, maent yn dilyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig, yn cadw at rwymedigaethau cyfrinachedd, ac yn gweithredu mesurau technegol a threfniadol priodol i ddiogelu’r data.