
Menter Greadigol Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn
- Campws Y Graig
Mae’r diploma proffesiynol hwn mewn menter greadigol yn rhaglen a gynlluniwyd i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd wedi’u hanelu’n benodol at y diwydiannau creadigol.
Mae’r cwrs hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) wedi’i gynllunio i ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i fyfyrwyr sydd eu hangen ar gyfer datblygu eu gyrfaoedd fel entrepreneuriaid.
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wella eu cyflogadwyedd trwy ddatblygu eu sgiliau menter greadigol, ehangu eu sylfaen o gysylltiadau’r diwydiant wrth ddatblygu eu prosiectau cychwyn busnes a’u hymarfer proffesiynol.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cychwyn eu prosiectau neu gwmni eu hunain ac sy’n dymuno archwilio ac ymestyn eu hymarfer creadigol trwy brofiad dysgu trochol llawn amser neu ran-amser. Gellir defnyddio’r cymhwyster fel man cychwyn i fyfyrwyr sydd wedi nodi prosiect penodol y maent yn dymuno gweithio arno neu i’w galluogi i archwilio sail gweithgaredd entrepreneuraidd drwy ddatblygu sgiliau busnes a rheoli hanfodol er mwyn nodi ac ymateb i gyfleoedd busnes yn eu diwydiant dewisol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymysg

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster hefyd yn briodol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno parhau â’u haddysg trwy ddysgu cymhwysol, trwy leoli’r dysgu hwnnw o fewn cyd-destun proffesiynol lle gallant weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y diwydiant i gael profiad uniongyrchol yn y diwydiant. Amcanion y cymhwyster hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr:
- Ddatblygu ac arddangos y sgiliau menter ac entrepreneuraidd sy’n angenrheidiol ar gyfer eu diwydiant dewisol
- Datblygu a diffinio eu huchelgeisiau menter a’u syniadau creadigol
- Datblygu eu hymarfer proffesiynol a chychwyn eu prosiect creadigol yn annibynnol
- Ennill cymhwyster lefel pedwar a gydnabyddir yn genedlaethol
Bydd y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddangos:
Menter, Ymchwilio annibynnol, Meddwl yn greadigol, Rheoli prosiectau, Dysgu myfyriol, Gweithio mewn tîm, Hunanreoli, Cyfranogiad effeithiol, Datrys problemau, Cyfathrebu a Rhifedd.
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r unedau ffurfiannol, Unedau 1 a 2, yn llwyddiannus cyn symud ymlaen i’r uned grynodol, Uned 3.
Mae’r radd gyffredinol yn cael ei phennu gan gyflawniad y myfyriwr yn Uned 3.
Uned 1 Yr Entrepreneur Creadigol
Uned 2 Yr Ymarferydd Creadigol
Uned 3 Y Fenter Greadigol
Bydd myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i gyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Gall y rheiny sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn sefydlu eu cwmni eu hunain, dod yn weithwyr llawrydd neu symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn eu diwydiant dewisol.
Bydd y cymhwyster yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu portffolio o waith, gan eu galluogi i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu gonservatoires i gwblhau cymwysterau lefel pump a lefel chwech.
Byddwch yn cael eich asesu ar eich gwaith cwrs a does dim arholiadau na phrofion.
Bydd y canlyniadau a asesir ar ffurf portffolio o waith sy’n cynnwys creu cynllun a model busnes gyda dadansoddiad ariannol cyflawn.
Byddwn yn derbyn Safon Uwch neu ddiplomâu lefel tri neu brentisiaeth berthnasol yn ogystal â phrofiad perthnasol yn y diwydiant.
Rydym hefyd yn argymell bod gan fyfyrwyr TGAU gradd pedwar neu radd C (neu gymhwyster lefel dau cyfwerth) mewn Saesneg a mathemateg.
Bydd eich lle ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad.
Mae’r ffioedd i’w cadarnhau. Cysylltwch ag admissions@colegsirgar.ac.uk neu 01554 748179 i gael rhagor o fanylion.