Y corff dyfarnu yw Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) a chynlluniwyd y cwrs hwn yn ddiweddar i roi’r holl sgiliau ac offer i chi sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau creadigol, yn amrywio o’r celfyddydau perfformio a chynhyrchu, technoleg cerdd a’r cyfryngau creadigol.
Bydd y sgiliau byddwch yn eu datblygu yn amrywio o olygu, animeiddio, cynhyrchu ffilm, Special FX yn ogystal â sgiliau actio a pherfformio, sgiliau dylunio a chynhyrchu cerddoriaeth.
Bydd y cwrs lefel un hwn yn y diwydiannau creadigol yn rhoi cam i fyny’r ysgol i chi i fyd cyffrous o greadigrwydd pur ac archwilio.
Dyfernir y cwrs hwn fel : Dyfarniad a Diploma Lefel 1 UAL mewn Celf, Dylunio a’r Cyfryngau
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Dull asesu
-
Gofynion Mynediad
-
Costau Ychwanegol
Mae gennym switiau cyfrifiadurol â’r holl gyfarpar angenrheidiol, lle byddwch yn dod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf a thechnoleg o’r radd flaenaf. Mae ein hystafelloedd recordio a’n stiwdio ffilm ar y safle yn cynnwys cyfarpar proffesiynol safon y diwydiant, y gallwch chi fenthyg, yn rhad ac am ddim. Hefyd cewch fynediad i’r swît Adobe gartref ac yn y coleg; Stiwdio Toon Boom a Meddalwedd Animeiddio Stiwdio Dragon.
Bydd myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd safon diwydiant megis Adobe Creative Cloud (yn cynnwys Premiere Pro, Adobe Animate, Adobe Rush, Photoshop a After Effects) a Logic Pro ar gyfer cynhyrchu sain.
Mae gan ein Hadran Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol gysylltiadau cryf ar draws y diwydiant, felly byddwch chi’n elwa o arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd rhwydweithio. Yn ogystal, mae gennym theatr newydd sbon, o’r radd flaenaf ar y safle, lle byddwch yn gallu datblygu sgiliau o fewn y celfyddydau perfformio a chynhyrchu.
Mae’r cwrs yn dechrau gyda dau fis o gyflwyno sgiliau lle byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r cyfarpar a’r meddalwedd, ac yna byddwch yn dechrau gwneud cynnwys yn syth sy’n unol â’ch diddordebau.
Mae tri phrosiect yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn a byddwch yn dewis eich cynnwys o amrywiaeth o sectorau o fewn celf, dylunio a’r cyfryngau.
Yna rydych chi’n gorffen y flwyddyn gyda Phrosiect Mawr Terfynol lle rydych chi’n dewis maes diddordeb ac yn creu eich prosiect eich hun.
Disgwylir i chi hefyd fynychu gwersi mathemateg a Saesneg er mwyn datblygu eich sgiliau yn y meysydd hyn - mae’r ddau yn elfen hollbwysig o’r cwrs.
Ar gwblhau’r cwrs Lefel 1, mae gennych amrywiaeth o opsiynau. Gallech ddewis mynd i fyd gwaith, gwneud cais am brentisiaeth, neu cewch y cyfle i fynd ymlaen i gwrs Lefel 2, o fewn y celfyddydau perfformio, technoleg cerdd neu’r cyfryngau creadigol gyda phas proffil teilyngdod.
Asesir yr holl unedau yn fewnol. Rhaid i chi basio’r holl unedau, a daw eich gradd derfynol o’ch Prosiect Mawr Terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith cyfryngau neu waith celf a dylunio i’w cyfweliad, lle caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu. Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar o leiaf tri TGAU graddau A* - G sy’n gorfod cynnwys Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf a mathemateg.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd disgwyl i chi eich hun ddarparu set o glustffonau, cerdyn SD a chof bach ar gost amcangyfrifedig o £60.00 ar y mwyaf.
Gellir trafod hyn yn y cyfweliad.