Skip page header and navigation

Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth

  • Campws Y Graig
2 flynedd

Os ydych yn frwdfrydig am gerddoriaeth dda, yna archwiliwch a datblygwch eich holl sgiliau sy’n gysylltiedig â chreu, cynhyrchu a pherfformio gyda’r tîm perfformio a thechnoleg cerdd.

Bydd y cwrs hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn darparu’r wybodaeth bynciol eang a helaeth i chi a fydd yn cwmpasu ystod eang o dechnegau cyfansoddi a chynhyrchu gan ddefnyddio meddalwedd o safon y diwydiant ac amrywiaeth o offerynnau a phrosesyddion caledwedd.

Bydd y profiadau ymarferol hyn yn caniatáu i chi adeiladu portffolio sy’n hybu eich hun ar gyfer addysg uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth. Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a fydd yn meithrin eich hyder yn eich archwiliad creadigol, gan roi’r sgiliau angenrheidiol i chi gael profiadau ymarferol o’r radd flaenaf. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs perfformio a chynhyrchu yn gyflwyniad â ffocws ar yrfa i’r diwydiant cerddoriaeth modern ar un o ddwy lefel.  Rydym yn darparu cyfleoedd i archwilio a datblygu sgiliau trwy brosiectau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i adlewyrchu arferion cyfredol ac i roi profiad o sefyllfaoedd y byd go iawn. 

Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad i’n switiau cynhyrchu ag adnoddau da; mae’r rhain yn cynnwys stiwdio recordio o ansawdd uchel gyda lleoedd recordio pwrpasol, swît gynhyrchu cerddoriaeth a’i dyluniad yn ffocysu ar sain, ystafell ffrydio darlledu byw, a stiwdio gyfryngau gydag oriel ategol. Mae gan bob ystafell ddosbarth raglenni golygu a recordio o safon y diwydiant yn ogystal â Mac ar gyfer pob myfyriwr.   Trwy’r flwyddyn cynhelir gweithdai amrywiol i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol gyfleusterau sydd ar gael.

Fel rhan o’n rhaglen astudio byddwch yn gallu dewis ac archwilio rolau swyddi mewn prosiectau penodol sy’n cynnwys y canlynol:

  •         Peiriannydd Sain Byw
  •         Rheolwr Digwyddiadau
  •         Recordydd Sain (Stiwdio Recordio a Byw)
  •         Peiriannydd Cymysgu (Stiwdio Recordio)
  •         Cynhyrchydd (Dilyniannu, Samplu, Cymysgu a Recordio)
  •         Dylunydd Sain (Sain i Ddelwedd, Synthesis)
  •         Cyfansoddwr (Sain i Ddelwedd, Cyfansoddi a threfnu)
  •         Peiriannydd Ffrydio

Mewn maes pwnc sy’n cwmpasu ystod anhygoel o bynciau a disgyblaethau, mae cyflogadwyedd yn ffactor allweddol sydd wedi’i integreiddio i’r cwrs.  Rydym yn ymroddedig i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch neu gyflogaeth.

Mae’r twf mewn technoleg ddigidol wedi arwain at gynnydd mewn swyddi ac mae’n amser hynod gyffrous i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau trosglwyddadwy i chi a allai eich arwain at hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau megis cerddor, peiriannydd sain, technegydd sain, therapydd cerdd neu athro. 

Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect mawr terfynol.

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith cerdd i’w cyfweliad ac os gallant ganu offeryn, ddangos lefel eu gallu. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.   

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs lefel tri feddu ar o leiaf 5 TGAU graddau A*-C, gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf.   

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs.  Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.