Skip page header and navigation

Animeiddio a Chynhyrchu Ffilmiau Lefel 2

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Mae animeiddio a chynhyrchu ffilm yn un o’r llwybrau gyrfaol mwyaf cyffrous o fewn y sector diwydiannau creadigol.

Byddwch yn dysgu sgiliau ac yn cael yr offer i weithio ym meysydd darlledu byw, animeiddio, cynhyrchu ffilm, special FX yn ogystal â digwyddiadau byw a chynhyrchu fideo perfformiad.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gennym switiau cyfrifiadurol â’r holl gyfarpar angenrheidiol, lle byddwch yn dod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf a thechnoleg o’r radd flaenaf.  Mae ein hystafelloedd recordio a’n stiwdio ffilm ar y safle yn cynnwys cyfarpar proffesiynol safon y diwydiant, y gallwch chi fenthyg, yn rhad ac am ddim. Hefyd cewch fynediad i’r swît Adobe gartref ac yn y coleg; Stiwdio Toon Boom a Meddalwedd Animeiddio Stiwdio Dragon. Mae ein switiau cyfrifiaduron Apple Macintosh yn rhedeg rhaglenni Adobe Premiere, Prelude, Photoshop, Illustrator, After Effects, Audition, Encore, InDesign, Dreamweaver, Logic X.

Mae gan ein hadran cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol gysylltiadau cryf ar draws y diwydiant, felly byddwch chi’n elwa o arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae’r cwrs yn dechrau gyda dau fis o gyflwyno sgiliau lle byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r cyfarpar a’r meddalwedd, ac yna byddwch yn dechrau gwneud cynnwys yn syth sy’n unol â’ch diddordebau.

Mae tri phrosiect yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn a byddwch yn dewis eich cynnwys - clywedol/sain, gweledol a rhyngweithiol. Yna rydych chi’n gorffen y flwyddyn gyda Phrosiect Mawr Terfynol 16-wythnos ble rydych chi’n dewis maes diddordeb ac yn creu eich prosiect eich hun.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys datblygu llythrennedd a rhifedd lle gallwch ail-sefyll TGAU Saesneg/mathemateg, cwblhau cymhwyster Agored neu fynychu dosbarthiadau sgiliau.

Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer ein cwrs Animeiddio a Chynhyrchu ffilm lefel tri lle byddwch chi’n datblygu eich sgiliau ymhellach. Gallech chi hefyd ddefnyddio’r cwrs hwn fel platfform i’r cwrs Celfyddydau Cynhyrchu lefel tri neu gyrsiau eraill. Mae hwn yn amser hynod gyffrous i’r diwydiant cyfryngau creadigol yng Nghymru sy’n arwain at gyfleoedd gwaith ar garreg ein drws gydag Yr Egin yng Nghaerfyrddin, Tinopolis yn Llanelli a stiwdios y BBC yng Nghaerdydd. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth.

Asesir unedau’n fewnol - mae eich holl farciau’n dod o’ch gwaith cwrs ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith Cyfryngau neu waith Celf a Dylunio i’w cyfweliad, lle caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu.     

Mae ymgeiswyr angen o leiaf pedwar TGAU graddau A* - D gyda dwy radd C, un yn fathemateg neu Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf). Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.  Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd disgwyl i chi eich hun ddarparu eich set o glustffonau, cerdyn SD a chof bach ar gost amcangyfrifedig o £60.00 ar y mwyaf.