Skip page header and navigation

Cyfrifiadura a TG Lefel 1 - Pearson BTEC

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Mae’r cwrs cyfrifiadura rhagarweiniol Pearson BTEC hwn wedi’i gynllunio o gwmpas sgiliau ymarferol a thasgau sy’n rhoi pwyslais ar ddysgwyr yn dangos yr hyn y gallant ei wneud yn hytrach na’r hyn y maent yn ei wybod mewn theori.

Mae’r cymwysterau yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu sgiliau generig, trosglwyddadwy a sector-benodol er mwyn cwblhau tasgau a dangos lefel o gyflawniad sy’n eu galluogi i symud ymlaen i ddysgu pellach.

Bydd pob dysgwr sy’n dilyn y cymwysterau hyn yn astudio unedau craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy allweddol megis ymchwilio a chynllunio, rheoli amser a gweithio gydag eraill.  Mae’r unedau TG yn cynnwys gweithgareddau megis datrys problemau TG technegol, creu gwefan a datblygu cynnyrch digidol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ymdrin â Sgiliau Trosglwyddadwy

Cyfathrebu - ysgrifennu, siarad a gwrando ar eraill, defnyddio iaith y corff i helpu cyfathrebu, defnyddio cyfathrebu at wahanol ddibenion, cyfathrebu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys cyfryngau electronig a chymdeithasol.

Gweithio gydag eraill - gosod cyrchnodau cyffredin, dangos parch at eraill mewn tîm a gwerthfawrogi eu cyfraniadau, gwrando ar eraill yn y tîm a bod â meddwl agored.  Cymryd rolau a chyfrifoldebau.

Datrys Problemau - nodi materion trwy allu archwilio gwybodaeth, delio â newid, gwneud penderfyniadau i ddod o hyd i ddatrysiadau, aros gyda phroblem hyd nes y caiff ei datrys, a defnyddio TG i helpu datrys problemau.

Ymdrin â Sgiliau’r Sector

Mae’r unedau sector yn cyflwyno dysgwyr i rai sgiliau eang yn y sector ac i rywfaint o wybodaeth greiddiol am sector galwedigaethol.  Bydd hyn yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer dilyniant ac yn sicrhau bod yr ymagwedd at gyflwyno yn ymarferol, yn weithredol, yn gyd-destunol ac yn seiliedig ar sgiliau.

Ymdrin â Sgiliau Gweithredol

Mae’r unedau yn y fanyleb hon yn dangos cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau gweithredol mewn Saesneg a mathemateg.

Mae’r cwrs yn cynnwys pedair uned graidd a chwe uned sector, fel a ganlyn:-

Unedau Craidd

  • A1 - Bod yn Drefnus
  • A2 - Datblygu Cynllun Dilyniant Personol
  • A3 - Gweithio gydag Eraill
  • A4 - Ymchwilio Pwnc

Unedau Sector

  • IT5 - Datblygu Gwybodaeth Ddigidol gan Ddefnyddio TG
  • IT6 - Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol
  • 1T7 - Datrys Problemau TG Technegol
  • IT8 - Creu Taenlen i Ddatrys Problemau
  • IT9 - Creu Gwefan
  • IT10 - Creu Rhaglen Gyfrifiadurol
  • IT11 - Datblygu Cynnyrch Digidol
  • IT12 - Creu Graffigyn Digidol wedi’i Animeiddio

Mae’r cymwysterau hyn yn paratoi dysgwyr ar gyfer dysgu pellach ar lefel uwch mewn TG.  Er enghraifft, gallai’r cymwysterau hyn mewn TG arwain at gymwysterau Lefel 2 Pearson BTEC yn y sector hwn, neu at gymhwyster Lefel 2 mewn sectorau eraill.

Cynllunnir yr asesiad i gyd-fynd â diben ac amcan y cymhwyster ac asesir yr holl unedau’n fewnol - gan roi’r cyfle i ddysgwyr arddangos sgiliau a ddatblygwyd mewn senarios cymhwysol.  Mae yna ystod o arddulliau asesu sy’n addas i sgiliau a chymwysterau’r sector ar y lefel hon.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

2 TGAU gradd A-E gydag o leiaf 1 gradd C

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.