Skip page header and navigation

Cyfrifiadura a TG Lefel 2

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

Mae cyfrifiadura yn faes hynod ddiddorol a deinamig. Mae’n fyd lle cewch archwilio grym technoleg a’i heffaith ar ein bywydau.

Cwrs ymarferol, galwedigaethol yw hwn, ble byddwch yn cwblhau prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle. Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o unedau, ble rydych yn astudio unedau craidd ac arbenigol. Mae’r unedau arbenigol yn eich galluogi i astudio maes penodol mewn mwy o ddyfnder. Caiff y cwrs ei gynnig yn llawn amser.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth â phedwar TGAU graddau A* - E.

Mae’n darparu llwybr dilyniant da i gymwysterau uwch megis cymwysterau cenedlaethol lefel tri BTEC.

Mae’r cwrs yn ysgogi dysgwyr trwy ddysgu cymhwysol ac asesu cymhwysol.

Caiff ei asesu’n fewnol trwy waith cwrs.

Mae’n darparu addysg a hyfforddiant ar gyfer cyflogeion sy’n gweithio mewn galwedigaethau sy’n ymwneud â TGCh.

Mae’r cwrs yn cynnwys y 6 uned ganlynol:

  • Uned 1 Y Byd Ar-lein,
  • Uned 2 Systemau Technoleg,
  • Uned 3 Portffolio Digidol,
  • Uned 4 Creu Animeiddiad Digidol,
  • Uned 6 Creu Graffeg Ddigidol,
  • Uned 9 Datblygu Taenlen,
  • Uned 10 Datblygu Cronfa Ddata,
  • Uned 11 Rhwydweithiau Cyfrifiadurol,
  • Uned 13 Datblygu Gwefannau,
  • Uned 17 Datblygu Cynhyrchion Amlgyfrwng
  • Uned 20 Adeiladu Cyfrifiadur Personol
  • Mae myfyrwyr hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol.

Gyda hyfforddiant neu astudio pellach, gall myfyrwyr ddilyn gyrfaoedd fel technegydd cymorth i ddefnyddwyr a swyddog / technegydd cymorth TG dan hyfforddiant.

Mae’r cwrs hefyd yn gosod sylfaen dda ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau uwch megis Diploma lefel 3 BTEC mewn TG neu debyg.

Caiff Uned 1 ac Uned 2 eu harholi’n allanol yn electronig.   Asesir yr holl unedau eraill trwy waith cwrs a dyfernir gradd gyffredinol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

4 TGAU gradd A-D gydag o leiaf 2 C

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.