
Sgiliau Digidol a TG - Diploma Lefel 2
- Campws Aberteifi
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector TG a chyfrifiadura ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Bydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i chi ddatblygu ac ehangu eich sgiliau digidol a TG i baratoi ar gyfer gwahanol rolau yn y diwydiannau digidol a chreadigol, megis rhaglennu meddalwedd a chyfrifiaduron, cefnogi rhwydwaith a dylunio digidol.
Os ydych chi’n chwilio am lwybr ymarferol, galwedigaethol i yrfa mewn TG, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Ar gael ar Lefel 2 a Lefel 3, bydd y cwrs yn gwella eich cyflogadwyedd trwy ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori mewn ystod eang o dechnolegau. Mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 yn llwyddiannus yn gyffredinol yn symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 ac i addysg uwch a chyflogaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Lefel 2 yn cynnwys uned orfodol ynghyd ag unedau opsiynol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau a ddisgwylir gan gyflogwyr ac yn cwmpasu ystod eang a defnydd o wahanol dechnolegau digidol, systemau a meddalwedd.
Mae TG wrth wraidd busnes; mae sector technoleg y DU yn tyfu 2.5 gwaith cyfradd gweddill yr economi gan greu swyddi newydd cyffrous. Hefyd mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rolau swyddi mewn diwydiannau eraill lle mae sgiliau digidol a TG penodol yn ofynnol, megis cyllid, marchnata, peiriannu a gweithgynhyrchu.
Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a enillir yn eich galluogi i symud ymlaen i gymwysterau uwch Lefel 3 neu gael gwaith yn y sector TG, naill ai’n uniongyrchol neu drwy brentisiaeth.
Unedau:
- Seiberddiogelwch,
- Dilyniant Gyrfa Sgiliau Digidol,
- Prosiect Sgiliau Digidol,
- Cyfryngau Rhyngweithiol - Datblygu Gemau / Animeiddio / Fideo,
- Rhwydweithio,
- Datblygu Apiau Symudol,
- Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol,
- Defnyddio Technolegau Digidol,
- Dylunio a Datblygu Gwefannau
Mae mwyafrif y dysgwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i’w paratoi i symud ymlaen i’r Diploma Estynedig L3 mewn TG ac yna ymlaen i Addysg Uwch neu brentisiaeth. Bydd eraill yn dewis llwybr amgen i lwybrau astudio pellach neu gyflogaeth lawn amser.
Y dull asesu ar gyfer y cymwysterau yw drwy bortffolio o dystiolaeth.
4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster Galwedigaethol L1 yn llwyddiannus mewn maes perthnasol gyda Theilyngdod neu uwch.
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg, a ddylai fod yn ddigonol i chi gwblhau eich rhaglen. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer argraffu neu ymweliadau sy’n gysylltiedig â’r cwrs.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.