
Cyfrifiadura a TG Lefel 3
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer ymarferwyr Cyfrifiadura a TG a gyflgogir ym meysydd cymorth systemau, dadansoddi a dylunio, profi meddalwedd, gweinyddu rhwydweithiau a llawer o feysydd eraill sy’n gysylltiedig â TG.
Mae’n darparu llwybr dilyniant cydnabyddedig i addysg uwch fel astudio HNC/D neu radd mewn cyfrifiadura neu bynciau cysylltiedig. Byddwch yn derbyn gwybodaeth greiddiol gadarn o theori gyfrifiadurol gyda chymhwysiad ymarferol a sgiliau TG.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen eang o wybodaeth a chymwysiadau cyfrifiadura cyfredol sy’n ofynnol yn y diwydiant.
Gallwch astudio 60 i 180 credyd, o lefel tystysgrif i’r diploma estynedig llawn dros un i ddwy flynedd.
Caiff ei asesu trwy arholiadau, asesiadau dan reolaeth a gwaith cwrs; ac mae’n addas ar gyfer myfyrwyr 16 i 19 oed sy’n dymuno gweithio ym maes cyfrifiadura a TG neu symud ymlaen i lefel prifysgol.
Mae cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus yn arwain at Ddiploma Sylfaen mewn Cyfrifiadura ynghyd â Bagloriaeth Cymru. Yna gallwch symud ymlaen i flwyddyn dau i gymhwyso ar gyfer Diploma Estynedig mewn Cyfrifiadura ynghyd â Diploma mewn TG
Bydd modiwlau’n cynnwys gwybodaeth am:
- Egwyddorion cyfrifiadureg
- Hanfodion systemau cyfrifiadurol
- Cynllunio a rheoli prosiectau cyfrifiadurol
- Prosiect dylunio a datblygu meddalwedd
- Systemau TG, diogelwch ac amgryptio
- Datblygu gwefannau
- A mwy o bynciau’n ymwneud â TG
Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen eang o wybodaeth a chymwysiadau cyfrifiadura i ddysgwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa fel ymarferydd neu dechnegydd Cyfrifiadura/TG ym maes systemau cyfrifiadurol, datblygu meddalwedd, rhwydweithio, modelu taenlenni, systemau gwybodaeth, cynhyrchu gwefannau a graffeg ddigidol.
Mae’r cymhwyster hefyd yn darparu cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau addysg uwch.
- Dau arholiad ysgrifenedig (unedau 1 a 2)
- Dau asesiad dan reolaeth (unedau 3 a 4)
- Aseiniadau
- Tasgau dan reolaeth ar gyfer y Diploma TG
5 TGAU gradd A-C, gan gynnwys graddau C mewn Saesneg a Mathemateg.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.