Astudiaethau Achos Prentisiaeth
Adeiladu
Jessica yn dod o hyd i waith fel prentis trydanol drwy Twf Swyddi Cymru
“Rwyf wedi dysgu sgiliau eraill o fod gyda JGW+ sydd wedi rhoi’r dechrau gorau i mi i’m prentisiaeth gan fy mod i’n berson swil. Roeddwn i’n cael trafferth cyfathrebu ond rwyf wedi dysgu gofyn am help, ni waeth pa mor swil ydw i’n teimlo, ac wedi dysgu nad oes y fath beth â chwestiwn gwirion yn bod.
“Mae gwneud yr hyn rwy’n dwlu arno yn anhygoel.”
Jessica Evans Prentisiaeth Drydanol Lefel 2
-
Jac Cullen - Prentis Uwch mewn Adeiladu
-
Chloe Bartlett - Prentis Gosod Brics
-
Jack Peters - Gwaith Saer ar Safle
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Ces i fy nghymell yn bennaf i ddilyn prentisiaeth oherwydd roeddwn i’n teimlo mai dyna fyddai’r ffordd orau i mi ddysgu a chael y cymwysterau perthnasol roedd eu hangen. Pan fydda i’n gwneud y gwaith fy hunan, rwy’n ei ddeall llawer gwell ac mae’r profiad ymarferol rwy’n ei gael yn wirioneddol fanteisiol. Rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych i weithio am bum mlynedd tra’n astudio ac ennill gradd mewn syrfeo meintiau achos mae’n rhoi’r gorau o’r ddau fyd i mi - profiad a gradd ar yr un pryd.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth fwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Fy ngallu i gyfathrebu a pherfformio ar y lefel uchaf yn unigol a hefyd fel tîm, yw un o’r sgiliau mwyaf defnyddiol rwyf wedi’u hennill ers ymuno â Sterling Construction. Mae gweithio wedi rhoi cryn dipyn o hyder i mi, sydd wedi gwella fy hunan yn y gweithle a thu hwnt iddo.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
Gallu rheoli fy amser mewn ffordd sy’n sicrhau fy mod yn cydbwyso popeth sydd wedi bod yr her fwyaf i mi. Mae ychydig yn anodd i weithio ar lefel uchel tra’n cynnal safon uchel yn y brifysgol ond mae hi’n bosibl.
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Pan oeddwn i yn yr ysgol, gweithiais i gyda fy mrawd ar y penwythnosau yn gwneud gwaith adeiladu cyffredinol. Roeddwn i’n mwynhau’r gwaith ac roeddwn i’n gwybod yn eithaf cynnar fy mod am gael gyrfa mewn adeiladu. I ddechrau des i i’r coleg fel dysgwr llawn amser ac fe wnes i gwblhau’r cymwysterau lefel un mewn adeiladu a lefel dau mewn sylfaen, ac yna penderfynais i symud ymlaen i’r llwybr prentisiaeth. Mae wedi bod y ffordd berffaith i gael profiad ymarferol tra’n cwblhau’r cymhwyster City & Guilds Lefel 3 mewn Gosod Brics.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth fwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Mae bod ar y brentisiaeth wedi rhoi’r cyfle unigryw i mi ddysgu crefft mewn amgylchedd byd go iawn. Rwyf wedi dysgu gwerth cyfathrebu da gyda chwsmeriaid, sy’n hanfodol ar unrhyw safle, a llawer o wybodaeth pan ddaw hi i osod allan a choncritio.
Codi tŷ hollol newydd yw ein prosiect cyfredol, ac rwyf wedi bod yn rhan o’r gwaith o’r sylfeini i fyny, sy’n brofiad anhygoel o werthfawr. Mae gweithio gyda Richard Smith yn wych, rwy’n defnyddio’r hyn rwy’n dysgu yn y coleg yn uniongyrchol ar y safle, yn gyson.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
Roedd yn ofynnol i mi gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Cymhwyso Rhif. Dewisais i wneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Doeddwn i ddim wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ers gadael yr ysgol, ond fe wnaeth y coleg fy annog i herio fy hun i’w wneud, ac rwy’n falch gwnes i. Hefyd ces i gymorth ychwanegol ar gyfer yr arholiad, a helpodd y coleg i hwyluso hyn.
Roedd staff Tîm Lles y coleg yn hynod o gymwynasgar yn ystod fy astudiaethau. Maen nhw’n cynnig llawer o gymorth sy’n gwneud llywio’r daith brentisiaeth dipyn yn fwy esmwyth.
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Pan ddechreuais i’r swydd, sylweddolais fod llawer mwy i adeiladu na labro’n unig. Felly penderfynais dreulio blwyddyn yn ennill profiad a dysgu am y gwahanol grefftau a rolau o fewn y diwydiant cyn gwneud penderfyniad.
Dewisais i ddilyn prentisiaeth gwaith saer gan ei bod yn cyd-fynd â’m nodau gyrfa hirdymor. Roedd yn apelio ataf oherwydd ei bod yn ymarferol, yn amrywiol, ac nid yn ailadroddus. Mae pob tasg yn wahanol, o osod drysau a chypyrddau i weithio ar drawstiau a gwaith toi, sy’n cadw’r gwaith yn ddiddorol a dymunol.
Roeddwn i am wneud penderfyniad gyrfaol fyddai’n darparu sefydlogrwydd a chynnal dyfodol fy nheulu. Mae fy nghyrchnodau gyrfa yn dal i ddatblygu a’r penderfyniad i ddechrau’r brentisiaeth oedd y cam cyntaf tuag at yrfa ddiogel a chynaliadwy yn y diwydiant adeiladu.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth fwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Un o’r sgiliau mwyaf gwerthfawr yw dysgu sut i ddefnyddio offer llaw yn iawn, yn arbennig cynion, doeddwn i ddim wedi’u defnyddio cyn dechrau yn y coleg. Rwyf yn benodol wedi datblygu sgiliau mewn naddu colfachau drysau, sydd wedi bod yn eithriadol o fanteisiol yn fy ngwaith bob dydd.
Rwy’n dysgu cryn dipyn oddi wrth y tiwtoriaid a fy nghyd-ddisgyblion hefyd, gan fod llawer o brofiad o fewn yr ystafell. Mae gallu dysgu o wybodaeth, technegau, a phrofiadau byd go iawn pobl eraill wedi fy helpu i gryfhau fy nealltwriaeth o waith saer.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
Un o’r heriau mwyaf yw dychwelyd i addysg yn hwyrach ym mywyd. Roedd addasu i ddysgu mewn ystafell ddosbarth, defnyddio cyfrifiaduron, ac eistedd mewn amgylchedd dysgu unwaith eto yn anodd ar y dechrau.
Er gwaetha’r ffaith fy mod yn hŷn, nid yw hyn wedi fy ngwahanu oddi wrth fyfyrwyr eraill. A dweud y gwir, mae rhai o’r dysgwyr iau a llai profiadol yn aml yn edrych ataf i am gyngor, ac rwyf wedi croesawu hyn.
Mae cydbwyso gwaith, coleg, a bywyd teuluol hefyd wedi bod yn her; fodd bynnag, rwyf wedi croesawu ymrwymiad hirdymor y brentisiaeth.
Balancing work, college, and family life has also been a challenge; however, I have embraced the long-term commitment of the apprenticeship.
Newidwyr Gyrfa
Newid gyrfa mewn lletygarwch am waith plymwr: Matthew yn mynd i’r afael â chyfeiriad newydd trwy brentisiaeth
Gadawodd Matthew Rees-Thomas incwm rheolaidd a gyrfa mewn lletygarwch i ymgymryd â phrentisiaeth mewn gwaith plymwr. Ei nod hirdymor yw dod yn gymwys a chofrestredig gyda Gas Safe, ond am y tro mae’n dysgu’r grefft gyda Geraint Williams Limited, gan gyfuno profiad yn y diwydiant ag astudio cymhwyster achrededig.
Ychwanegodd Wyn Thomas, ymgynghorydd hyfforddi Coleg Sir Gâr, sy’n mentora Matthew: “Mae newid llwybr gyrfa hefyd wedi helpu Matthew i ddod o hyd i gyfeiriad eto a synnwyr clir o bwrpas, rhywbeth yr oedd ar goll ganddo o’r blaen a gafodd effaith amlwg ar ei iechyd meddwl.”
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Roeddwn i’n gweithio yn yr adran gyllid yng Ngwasanaeth Cam-drin Domestig Thrive, elusen cymorth i fenywod, ac roeddwn i’n teimlo fy mod yn barod am her newydd. Llwyddais i gael cefnogaeth gan y cwmni i ddilyn prentisiaeth mewn Adnoddau Dynol, sy’n gwella fy nhwf personol ac sy’n rhoi’r cyfle i mi archwilio gyrfa mewn sector newydd.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth fwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Rwyf wedi dysgu pa mor helaeth yw rôl AD, sef cwmpasu pob agwedd ar reolaeth pobl mewn sefydliad, o recriwtio i ddiwylliant cwmni a lles. Trwy drafodaethau dosbarth rwyf wedi cael cipolwg ar y gwahanol lwybrau AD sydd ar gael, a sut gall y rhain amrywio o sector i sector.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
Rheoli amser yw fy mhrif her gan fod plant gen i ac rwy’n gweithio’n llawn amser. Gall fod yn anodd neilltuo amser i astudio gyda chymaint o ymrwymiadau eraill, ond rwyf wedi dysgu cynllunio fy amser ymlaen llaw a neilltuo amser dynodedig ar gyfer tasgau penodol.
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Ar y cychwyn, dechreuais fy mywyd gwaith mewn prentisiaeth fecaneg, ond wrth i mi symud ymlaen, sylweddolais fy mod am ddilyn gyrfa oedd yn cyd-fynd yn agosach â’m diddordebau a gwerthoedd personol.
Cafodd fy ngham i ofal iechyd ei ddylanwadu’n gryf gan fy nheulu. Roedd fy mam yn gweithio fel prif nyrs dialysis, fy mrawd mewn uned ganser, a lleoliad fy mhartner yw ward strôc. Fe wnaeth gweld yr effaith maen nhw’n ei chael bob dydd, fy ysbrydoli i ddilyn yn olion eu traed ac adeiladu gyrfa lle gallaf gefnogi eraill a gwneud gwahaniaeth arwyddocaol. Roedd y llwybr prentisiaeth hwn yn cynnig y cyfle delfrydol i mi gyda chefnogaeth strwythuredig, profiad ymarferol, a llwybr clir ar gyfer dilyniant yn y dyfodol.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth fwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Fel rhan o fy rôl gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, rwyf wedi datblygu sgiliau cyfathrebu cryf, ynghyd â chymwyseddau gofal iechyd allweddol megis empathi a gofal claf-ganolog, gwaith tîm, proffesiynoldeb, rhesymu clinigol, cadw cofnodion ac ymarfer diogel, pob un yn hanfodol ar gyfer cefnogi ymyriadau therapiwtig a darparu gofal cleifion o ansawdd uchel.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
Rydw i’n cwrdd â fy ymgynghorydd hyfforddi yn rheolaidd, naill ai ar-lein neu ar gampws y coleg, oherwydd gweithio yn y gymuned. Mae fy nhiwtoriaid yn cynnig adborth rheolaidd, yn monitro cynnydd, ac yn fy helpu i aros ar y trywydd iawn gydag aseiniadau.
Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Fe wnes i ddewis dilyn y brentisiaeth hon oherwydd fy mod eisiau datblygu sgiliau ymarferol, gweithredol wrth weithio yn y diwydiant ffermio. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn da byw a pheiriannau a rhedeg fferm fodern o ddydd i ddydd, ac roedd y brentisiaeth yn cynnig llwybr uniongyrchol i feithrin y sgiliau hynny mewn amgylchedd gwaith go iawn, yn hytrach na dysgu mewn ystafell ddosbarth yn unig.
Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â fy nodau gyrfa oherwydd fy mod eisiau meithrin gyrfa hirdymor mewn amaethyddiaeth, naill ai’n symud ymlaen i rôl stocmon neu’n rheoli fy uned fy hun yn y pen draw.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth mwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Rwyf wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a thechnegol sydd wedi gwella’n uniongyrchol y ffordd rwy’n gweithio ar y fferm. Un o’r meysydd mwyaf gwerthfawr fu hwsmonaeth da byw. Rwyf wedi dysgu sut i asesu iechyd anifeiliaid, adnabod arwyddion cynnar o salwch, a deall pwysigrwydd safonau lles fel y Pum Rhyddid. Rwyf hefyd wedi ennill sgiliau wrth ddefnyddio peiriannau a chyfarpar - o gwblhau gwiriadau diogelwch cyn cychwyn i weithredu tractorau, trinwyr telesgopig, ac offer fferm eraill yn gywir. Maes allweddol arall fu cadw cofnodion a chydymffurfiaeth fferm.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
Un o’r heriau mwyaf a wynebais yn ystod fy mhrentisiaeth oedd addasu i gyflymdra a gofynion corfforol gwaith fferm llawn amser. Fe wnes i oresgyn hyn drwy adeiladu trefn gyson, gwella fy ffitrwydd, a dysgu sut i weithio ar fy nghyflymdra fy hun wrth barhau i gadw safonau’n uchel.
Her arall oedd datblygu hyder gyda da byw a pheiriannau. Ond drwy ofyn cwestiynau, cysgodi staff profiadol, a manteisio ar bob cyfle i ymarfer dan oruchwyliaeth, dros amser daeth y sgiliau hynny’n ail natur.
Fe wnaeth cynllunio fy llwyth gwaith yn fwy effeithiol a neilltuo amser bob wythnos ar gyfer cadw ar ben tystiolaeth ac aseiniadau helpu yn fawr iawn.
Beth wnaeth eich cymell i ddilyn eich prentisiaeth, a sut wnaeth hyn gyd-fynd â’ch nodau gyrfaol?
Roeddwn i am ddilyn prentisiaeth fel ffordd i ennill fy nghymwysterau Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS). Gallaf ddweud yn awr gyda balchder fy mod yn astudio ar gyfer fy arholiadau BHS cam pedwar. I mi, mae wedi bod yn un o’r pethau gorau rwyf wedi’i wneud i mi ac i’r ceffylau. Rwyf wedi gallu gwella fy sgiliau rheoli, a’m hyder cyffredinol yn yr hyn rwy’n ei wneud o ddydd i ddydd. Rwyf wir yn methu credu fy mod yn ddigon lwcus i ddweud mai gweithio gyda cheffylau yw fy swydd.
Ydych chi’n gallu disgrifio rhai o’r sgiliau neu wybodaeth fwyaf gwerthfawr rydych chi wedi ennill yn ystod eich prentisiaeth a’r modd y maen nhw wedi effeithio ar eich gwaith?
Mae dysgu drwy’r brentisiaeth wedi bod yn bleser pur, mae’r tiwtoriaid yn hynod o gefnogol ac yn eich tywys drwy bopeth. Rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes, ac wedi cael profiadau yn y diwydiant feddyliais i erioed oedd yn bosibl.
Rwyf wedi ennill yr hyder i fy ngalluogi, yn gynharach eleni, i fynd i’r afael â cheffyl tair blwydd oed sydd heb gael ei farchogaeth a’i farchogaeth e fy hun, gyda help rhai marchogion proffesiynol anhygoel. Mae hyn wedi dysgu cymaint i mi, ac mae’n gwneud i mi eisiau mwy.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod eich prentisiaeth, a sut ydych chi wedi’u goresgyn?
I mi fy her fwyaf oedd yr adolygu wrth baratoi ar gyfer yr arholiad, amgyffred y swm enfawr o wybodaeth, er mwyn gallu ei chymhwyso yn yr arholiad. I oresgyn hyn, rwyf wedi gorfod dod o hyd i ddull adolygu sy’n gweithio i mi a chadw ato, sy’n golygu llawer o ddarllen
a llawer o ysgrifennu. Mae’n gweithio heb os, gan fy mod wedi pasio pob un o’m harholiadau BHS hyd yma ar fy nghynnig cyntaf.
Prentisiaeth Lefel Gradd
Dewisodd Richard Drummond raglen ddysgu seiliedig ar waith oherwydd ei fod eisiau cyfuno profiad ymarferol yn y byd go iawn â dysgu academaidd.
Mae’n astudio cymhwyster lefel pump yn CIPD, sef cymhwyster achrededig lefel prifysgol ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD.
Dywedodd Richard fod AD yn canolbwyntio ar bobl, ac iddo ef, mae bod mewn amgylchedd gwaith yn ddysgu hanfodol, sy’n gofyn am sgiliau technegol a rhyngbersonol hefyd.
Gyda nod gyrfa o ddod yn arbenigwr cysylltiadau gweithwyr, mae bod mewn amgylchedd seiliedig ar waith yn cynnig cipolwg iddo ar swyddogaethau AD craidd fel dehongli polisïau, rheoli achosion a chydymffurfiaeth â chyfraith cyflogaeth.
Mae Richard Drummond yn egluro sut mae’r theori y mae’n ei dysgu yn troi’n ymarfer yn ei sefydliad.
“Mae dysgu am gyfraith cyflogaeth a dehongli polisïau wedi cryfhau fy ngallu i gynghori rheolwyr yn hyderus a sicrhau cydymffurfiaeth.
“Mae’r elfennau datrys gwrthdaro a chyfathrebu yn hanfodol ar gyfer trin achosion cysylltiadau gweithwyr sensitif yn effeithiol.
“Mae archwilio dadansoddi data a systemau AD wedi gwella fy ngallu i olrhain tueddiadau, cynhyrchu adroddiadau, a chefnogi gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
“Mae dysgu mwy am reoli amser wedi fy helpu i gydbwyso astudio a gwaith a sut i flaenoriaethu tasgau a chwrdd â therfynau amser o dan bwysau.
“Mae’r sgiliau hyn wedi fy ngwneud yn fwy effeithiol wrth gefnogi rheolwyr, datrys problemau’n gyflym, a chyfrannu at ddiwylliant gweithle cadarnhaol.
“Un her oedd rheoli galwadau deublyg gwaith ac astudio. Fe wnes i oresgyn hyn trwy greu amserlen strwythuredig a chyfathrebu’n agored â fy rheolwr am derfynau amser.
“Her arall oedd magu hyder ar y dechrau mewn achosion cymhleth Adran Achosion Brys, ac fe wnes i fynd i’r afael â hyn trwy gysgodi cydweithwyr profiadol, gofyn cwestiynau, a defnyddio adborth i wella.”