Skip page header and navigation

Pam cyflogi prentis?

Cynllunnir prentisiaethau o gwmpas anghenion eich busnes a gallant helpu i drawsffurfio eich sefydliad trwy gynnig llwybr i fachu talent newydd ffres. Gall fod yn gyfle i uwchsgilio aelod presennol o’r staff neu gyflogi aelod newydd sbon o’r tîm i ymuno â’ch gweithlu.

Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth iddynt ddysgu.  Pan fyddwch chi’n cyflogi prentis, rydych yn cefnogi ei ddatblygiad trwy ganiatáu iddo hyd at 20% o’i oriau gwaith ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn y coleg.   Mae hyn yn sicrhau ei fod yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ei broffesiwn tra’n darparu gweithlu medrus i chi hefyd.

Os ydych chi’n dewis ailhyfforddi aelodau o’ch staff neu gyflogi prentis, gall helpu gyda:

  • Lleihau costau busnes
  • Datblygu gweithlu medrus proffesiynol
  • Darparu cyfleoedd i ehangu eich busnes
  • Gwella cynhyrchiant
  • Meithrin talent i wella eich gwasanaethau
  • Rhoi hwb creadigol i’ch busnes
  • Adeiladu sylfeini busnesau cryfach
  • Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol

If you choose to re-train members of your staff or hire an apprentice, it can help with:

  • Reducing business costs
  • Developing a professional skilled workforce
  • Providing opportunities to expand your business
  • Improving productivity
  • Nurturing talent to improve your services
  • Giving your business a creative boost
  • Constructing stronger businesses foundations
  • Inspiring the future generations

Cysylltu â ni

Wal blastro myfyrwyr

Angen help?

Gall ein tîm prentisiaethau ymroddedig helpu busnesau i wneud y canlynol:

  • nodi’r rhaglen brentisiaeth sy’n diwallu anghenion eu gweithlu orau;
  • recriwtio prentisiaid newydd neu ddatblygu gweithwyr presennol;
  • hyrwyddo swyddi gwag a chysylltu cyflogwyr ag ymgeiswyr addas;
  • deall gofynion cymhwysedd, cyllid a phrentisiaeth; a
  • neilltuo Ymgynghorydd Hyfforddi pwrpasol i gefnogi’r cyflogwr a’r prentis drwy gydol y rhaglen.

Ar gyfer anghenion gweithlu mwy o faint, gallwn hefyd ystyried trefniadau ar gyfer darpariaeth wedi’i deilwra neu garfannau pwrpasol lle bo hynny’n ymarferol.

Ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 01554 748000