Skip page header and navigation

Sir Gâr 6

6ed Sir Gâr - Canolfan Chweched Dosbarth a Darpariaeth Safon Uwch

Gwybodaeth am 6ed Sir Gâr

Canolfan chweched dosbarth bwrpasol Coleg Sir Gâr yw 6ed Sir Gâr lle rydym yn cynnig cyrsiau Safon Uwch i fyfyrwyr 16–19 oed. Mae ein hethos yn cyfuno rhagoriaeth academaidd â chefnogaeth bersonol, gan eich helpu i symud ymlaen i’r prifysgolion gorau, prentisiaethau, a llwybrau gyrfa amrywiol. Wedi’i leoli yn Llanelli, mae gan 6ed Sir Gâr gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ar draws Sir Gaerfyrddin a’r ardaloedd cyfagos.

Ffeithiau Allweddol

  • Lleoliad: Campws y Graig, Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Cyrsiau: Mae 29 o bynciau Safon Uwch ar gael
  • Cefnogaeth: System tiwtor personol, rhaglen Seren, cefnogaeth lles, Rhaglen Maes Meddygol, Academïau yn cefnogi uchelgais chwaraeon
  • Nod: Prifysgolion Grŵp Russell gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, Princeton, Caerdydd, Efrog, Prentisiaethau KPMG
  • Gweithgareddau Cyfoethogi: Academïau chwaraeon, teithiau, cyfleoedd i wirfoddoli, cyfleoedd i arwain, rhaglenni uwchgwricwlaidd

Partneriaethau a Gwobrau

  • Gwobr Aur Alps - Mae tîm Safon Uwch 6ed Sir Gâr Coleg Sir Gâr wedi ennill Gwobr Aur System Perfformiad Safon Uwch (Alps) sy’n rhoi’r coleg ymhlith y 25% uchaf o ysgolion a cholegau sy’n perfformio orau ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru a Lloegr.
  • Rhaglen ‘Step-Up’ Coleg Newydd Rhydychen - Mae’r rhaglen yn cefnogi eich cynnydd academaidd gydag ymweliadau â Phrifysgol Rhydychen.
  • Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe - Mae’r rhaglen yn eich cefnogi wrth bontio i addysg uwch, mae’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar y cais a bywyd yn y brifysgol, yn ogystal â diwrnodau rhagflas, ac ysgol haf.
  • Rhaglen Maes Meddygol - Mae’r rhaglen arloesol hon, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn cynnig profiadau ymarferol, ymweliadau ysbrydoledig â phrifysgolion, a chefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu i archwilio amrywiaeth o yrfaoedd yn y sectorau meddygol a gofal iechyd.

“Llwyddais i ddod yn ffrindiau gyda grŵp da o bobl a diolch i fy nhiwtoriaid fe wnes i fwynhau’r cyrsiau Safon Uwch. Byddwn i’n bendant yn dewis 6ed Sir Gâr eto! Livi Williams – Prentisiaeth Cyllid gyda KPMG

Two students working in a lab
Myfyrwyr yn datblygu eu cymhwysedd digidol.
The group working on a large desk space with sewing machines
Safodd tri myfyriwr gyda'i gilydd yn gwenu ac yn dangos canlyniadau eu harholiadau.

Pynciau ar Gynnig

Straeon Myfyrwyr Llwyddiannus

  • Ysgol flaenorol: Ysgol Coedcae
  • Safon Uwch: Hanes, Astudiaethau Crefyddol, Cymdeithaseg, Bagloriaeth Cymru
  • Rheswm dros ddewis 6ed Sir Gâr: Canlyniadau cryf yn y pynciau dewisol a chludiant cyfleus
  • Cefnogaeth a gafwyd: Arweiniad personol ar gyfer gweithgareddau uwchgwricwlaidd, ffug gyfweliadau, datganiadau personol
  • Meddai Ela:

“Credwch ynoch chi’ch hun, byddwch yn hyderus, a gwnewch y gorau o’ch rhwydwaith cymorth.”

  • Ysgol flaenorol: Ysgol Gyfun Dyffryn Taf
  • Safon Uwch: Seicoleg, Cymdeithaseg, Cymraeg, Troseddeg, Bagloriaeth Cymru
  • Rheswm dros ddewis 6ed Sir Gâr: Amgylchedd cyfeillgar, croesawgar a chyfleoedd ychwanegol
  • Cefnogaeth a gafwyd: Cymorth wedi’i deilwra ar gyfer ceisiadau i’r Unol Daleithiau, arweiniad uwchgwricwlaidd, teithiau
  • Meddai Hannah:

“Anelwch yn uchel, ymrwymwch, a pheidiwch ag ofni bod yn uchelgeisiol”

  • Ysgol flaenorol: Ysgol Bro Dinefwr
  • Safon Uwch: Ffiseg, Mathemateg, Addysg Gorfforol, Bagloriaeth Cymru
  • Rheswm dros ddewis 6ed Sir Gâr: Cydbwysedd rhwng ymrwymiadau rygbi a chymwysterau Safon Uwch
  • Cefnogaeth a gafwyd: Arweiniad hyblyg gan diwtoriaid a darlithwyr
  • Meddai Sion: 

“Gwnaeth fy nhiwtoriaid hi’n hawdd i mi gydbwyso’r broses o ymgeisio i brifysgolion gyda fy ymrwymiadau rygbi. Chwaraeais i hefyd i academi rygbi Coleg Sir Gâr, tîm y Scarlets dan 18, tîm Cymru dan 19, a thîm Cymru dan 20.”

  • Ysgol flaenorol: Ysgol Coedcae
  • Safon Uwch: Mathemateg, Bioleg, Cemeg, Hanes, Mathemateg Bellach Lefel UG, Bagloriaeth Sgiliau Uwch
  • Rheswm dros ddewis 6ed Sir Gâr: Yn agos at adref, hanes academaidd cryf
  • Cefnogaeth a gafwyd: Arweiniad ar gyfer cwrs carlam Cemeg a datganiadau personol
  • Meddai Alisha: 

“Mae’r ymdeimlad o gymuned yn hyfryd iawn. Mae’r darlithwyr yn anhygoel ac yn gefnogol… Peidiwch â chynhyrfu os ydych chi’n ansicr – mae gwneud eich gorau yn sicrhau bod opsiynau gennych”

  • Ysgol Flaenorol: Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth
  • Safon Uwch: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Seicoleg, Cymdeithaseg, Bagloriaeth Cymru
  • Rheswm dros ddewis 6ed Sir Gâr: Annibyniaeth, dim gwisg ysgol a rheolaeth dros eich amser eich hun
  • Cefnogaeth a gafwyd: Arweiniad wrth wneud ceisiadau ar gyfer cyrsiau Meddygaeth a gweithgareddau uwchgwricwlaidd
  • Meddai Jack: 

“Peidiwch â gadael i bobl eraill ddweud wrthych chi beth na allwch chi ei gyflawni, os ydych chi eisiau cyflawni rhywbeth, ac yn barod i roi o’ch 
amser, i adolygu a gwneud ymdrech … gallwch chi ei gyflawni.” 

  • Ysgol Flaenorol: Ysgol Gyfun y Strade
  • Safon Uwch: Yn canolbwyntio ar lwybr prentisiaeth
  • Rheswm dros ddewis 6ed Sir Gâr: Annibyniaeth a chyfle i gwrdd â phobl newydd
  • Cefnogaeth a gafwyd: Anogaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud â phrentisiaethau, profiad Safon Uwch pleserus
  • Meddai Livi:

“Llwyddais i ddod yn ffrindiau gyda grŵp da o bobl a diolch i fy nhiwtoriaid fe wnes i fwynhau’r cyrsiau Safon Uwch. Byddwn i’n bendant yn dewis 6ed Sir Gâr eto!”

Mae tîm Safon Uwch 6ed Sir Gâr Coleg Sir Gâr wedi ennill Gwobr Aur System Perfformiad Safon Uwch (Alps) sy’n rhoi’r coleg ymhlith y 25% uchaf o ysgolion a cholegau sy’n perfformio orau ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru a Lloegr.

All the A-level tutors lined up on the stairs and balcony with the lighted up words Da Iawn at the bottom

Mae myfyrwyr Safon Uwch Coleg Sir Gâr unwaith eto yn dathlu eu llwyddiannau ar ddiwrnod canlyniadau, gan nodi blwyddyn arall o lwyddiant academaidd.  Mae canlyniadau 2024 wedi bod yn arbennig o drawiadol, gyda llawer o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagorol ac yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion ledled y wlad.  Mae gwaith caled ac ymroddiad y myfyrwyr a'r staff wedi talu ar ei ganfed, gyda nifer o straeon llwyddiant yn dod i'r amlwg mewn gwahanol bynciau.

girls looking overjoyed and overwhelmed

Bu myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch Coleg Sir Gâr yn gweithio gyda gweithwyr meddygol a deintyddol proffesiynol o'r GIG mewn gweithdai a drefnwyd gan Raglen Maes Meddygol y coleg.

A nurse in the foreground writing something on a clipboard with students working in the background