Skip page header and navigation

Y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2025

  • Gwneir y datganiad hwn yn unol ag adran 54 o’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. Mae’n nodi’r camau a gymerwyd gan Grŵp PCYDDS i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl o fewn ei sefydliad a’i gadwyni cyflenwi.

    Mae’r Grŵp wedi ymrwymo i weithredu’n foesegol a gydag uniondeb ac i fodloni disgwyliadau Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

  • 2.1 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (y cyfeirir ati o hyn allan yn “PCYDDS”) yn un o wyth sefydliad Addysg Uwch (AU) yng Nghymru (heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru) ac mae ganddi gyfanswm poblogaeth o fyfyrwyr o oddeutu 25,000 (mewn addysg bellach ac uwch).

    Ffurfiwyd y Brifysgol ar 18 Tachwedd 2010 drwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llanbedr Pont. Ar 1 Awst 2013, daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS.

    Mae PCYDDS yn rhan o strwythur Grŵp sy’n cynnig addysg uwch ac addysg bellach ac yn cynnwys Coleg Sir Gâr (CSG) a Choleg Ceredigion. Daeth CSG yn is-gwmni i PCYDDS yn 2013, a daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni i CSG yn 2017. Mae’r Grŵp yn cynnig ystod o lwybrau integredig o flwyddyn 10 i fyny ac wedi cyflawni newid trawsnewidiol i’r rhanbarth.

    2.2 Coleg Sir Gâr 

    Mae Coleg Sir Gâr yn goleg addysg bellach aml-gampws mawr. Mae ganddo oddeutu 9,000 o ddysgwyr, a thua 2,500 o’r rhain yn amser llawn, a dros 6,000 yn rhan-amser. Mae’r Coleg wedi’i leoli yn ne-orllewin Cymru ac mae ganddo bum prif gampws yn Llanelli (y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (Gelli Aur). Mae’r campysau yn amrywio o ran maint a natur ac mae’r rhan fwyaf yn cynnig amrywiaeth o bynciau.

    Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o £52m ac mae’n cyflogi tua 640 o staff. O’r rhain, mae tua 313 yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu a 327 mewn swyddogaethau cymorth a gweinyddol.

    2.3 Coleg Ceredigion

    Fe’i hymgorfforwyd yn 1993 yn dilyn uno pedwar sefydliad addysg bellach ledled Ceredigion, Coleg Ceredigion yw’r darparwr mwyaf o addysg bellach (AB) yng Ngheredigion gyda sylfaen gwricwlwm eang. Wedi’i seilio ar ddau brif safle o 8,000m2, gyda thua 130 o staff, y mae tua 70 ohonyn nhw wedi eu cyflogi ar sail amser llawn.  Darpara’r Coleg yn darparu addysg a hyfforddiant i’r gymuned leol ac mae ganddo drosiant blynyddol o £6.9m. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 roedd 900 o ddysgwyr yn y coleg.

  • Gweithreda Grŵp PCYDDS ar draws addysg bellach ac uwch yng Nghymru. Caiff y mwyafrif o’n nwyddau a’n gwasanaethau eu caffael trwy gonsortia pwrcasu sector cyhoeddus ac addysg uwch sefydledig, gan gynnwys:

    • Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS),
    • Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW)
    • Consortiwm Pwrcasu Crescent (CPC)
    • Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS)

    Mae’r consortia hyn yn gyfrifol am ddewis cyflenwyr, dyledus ddiwydrwydd a rheoli contractau ar ran eu haelodau, gan gynnwys ystyried cyflogaeth foesegol a safonau llafur.

  • Rheolir caethwasiaeth fodern yn rhan o drefniadau caffael, diogelu a rheoli risg ehangach, yn hytrach na thrwy strwythur llywodraethu ar wahân. Nodir risgiau caethwasiaeth fodern a’u hystyried trwy bolisïau a rheolaethau sefydliadol presennol, gan gynnwys: 

    • Strategaeth Gaffael a Rheolau Gweithdrefnau Contract
    • Telerau ac amodau cyflenwyr
    • Trefniadau chwythu’r chwiban
    • Polisïau diogelu ac adnoddau dynol

    Trwy sicrhau bod pryderon ynghylch caethwasiaeth fodern yn bryder wedi eu cynnwys o fewn polisïau a gweithdrefnau presennol, cyflawnir goruchwyliaeth trwy lwybrau llywodraethu sefydledig.

  • Mae’r Grŵp yn mabwysiadu dull cymesur, sy’n seiliedig ar risg tuag at gaethwasiaeth fodern. Ystyrir bod amlygiad cyffredinol yn isel i ganolig, gan adlewyrchu goruchafiaeth cyflenwyr yn y DU a’r defnydd helaeth o fframweithiau caffael y sector cyhoeddus. 

    Mae risg wedi ei nodi a’i rheoli trwy brosesau caffael a rheoli contractau presennol, gan gynnwys dewis fframwaith, ymwybyddiaeth categori ar gyfer nwyddau a gwasanaethau risg uwch, a llwybrau cynyddu lle mae pryderon yn codi. Adlewyrcha’r dull hwn arferion sefydledig ar draws y sector addysg bellach ac uwch.

  • Cynhelir dyledus ddiwydrwydd yn bennaf ar lefel fframwaith a chontract trwy gonsortia pwrcasu. Mae hyn yn cynnwys:

    • Gwiriadau cyn-gymhwyso a gwahardd cyflenwyr
    • Gofynion o ran safonau cyflogaeth a llafur moesegol
    • Monitro categorïau risg uwch

    Pan osodir contractau’n uniongyrchol, defnyddir gwiriadau cymesur yn seiliedig ar risg, gwerth a natur y cyflenwad. 

    Mae’r Grŵp yn defnyddio ‘Net Positive’ yn rhan o’i broses dendro a chynefino cyflenwyr. Caiff pob cyflenwr waith trwy broses dendro ffurfiol ac mae gofyn iddyn nhw gofrestru gyda’r platfform Net Positive. Cefnoga hyn yr asesiad o arferion cyflenwyr, gan gynnwys cyflogaeth foesegol a risg caethwasiaeth fodern, a darpara haen ychwanegol o sicrwydd ochr yn ochr â’r defnydd o fframweithiau caffael y sector cyhoeddus.

  • Caiff effeithiolrwydd dull y Grŵp ei fonitro trwy ddangosyddion ansoddol a gweithredol yn hytrach na dangosyddion perfformiad allweddol ffurfiol. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio fframweithiau sector cyhoeddus cymeradwy, hyfforddiant caethwasiaeth fodern gorfodol ar gyfer staff caffael, gweithgarwch rheoli contractau ac uwchgyfeirio problemau, ac absenoldeb achosion o gaethwasiaeth fodern a adroddir o fewn cadwyni cyflenwi’r Grŵp. Caiff cyrff llywodraethu sicrwydd trwy ddulliau adrodd a llywodraethu presennol yn hytrach nag adroddiadau ar wahân ar gaethwasiaeth fodern.

  • Mae hyfforddiant caethwasiaeth fodern a chyflogaeth foesegol yn orfodol i staff caffael ac yn rhan o hyfforddiant cydymffurfio deddfwriaethol ehangach ar gyfer staff sy’n ymwneud â gweithgarwch pwrcasu.

  • Mae cyfrifoldeb am gyflogaeth foesegol a chaethwasiaeth fodern yn perthyn i rolau uwch reolwyr ac arweinwyr caffael presennol, gan adlewyrchu model cyfrifoldeb a rennir sy’n cyd-fynd â strwythurau sefydliadol cyfredol.

  • Mae’r Grŵp yn cydnabod mai proses barhaus yw mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern. Bydd yn parhau i weithio gyda chonsortia pwrcasu a phartneriaid sector, adolygu canllawiau ac arferion gorau’r sector, ac yn diweddaru’r datganiad hwn yn flynyddol i adlewyrchu cynnydd.

  • Cyhoeddir y datganiad hwn ar wefan y Brifysgol a’r Colegau a’i gyflwyno i Gofrestr Datganiad Caethwasiaeth Fodern y DU.