Skip page header and navigation

FdA Astudiaethau Gofal Cymdeithasol

  • Campws Rhydaman
2 Flynedd

Mae’r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yn cynnig llwybr nodedig a hirsefydlog i chi i’r proffesiwn gofal cymdeithasol, a hi yw’r unig raglen o’i math yng Nghymru.  Gyda dros 30 mlynedd o gyflwyno a diweddariad cynhwysfawr yn 2021, mae’r cwrs yn adlewyrchu polisi cyfredol, arfer a datblygiadau newydd ar draws y sector.

A hithau wedi’i chynllunio mewn cydweithrediad agos â chyflogwyr lleol a sefydliadau partner, mae’r rhaglen yn rhoi llwybr clir i chi i gyflogaeth ystyrlon. Byddwch yn cael cipolwg ar ehangder y dirwedd gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth gydag anableddau dysgu, cyfiawnder ieuenctid a phrawf ieuenctid, a gofal cymunedol.  Mae’r cysylltiadau cryf hyn â’r diwydiant hefyd yn eich cefnogi wrth sicrhau profiad gwaith perthnasol a rolau yn y dyfodol.

Cyflwynir y radd llawn amser ddwy flynedd hon ar Gampws Rhydaman ar ddau ddiwrnod yr wythnos, a disgwylir astudiaeth annibynnol ar y tri diwrnod arall. Mae’r strwythur hwn yn cefnogi eich datblygiad academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch ar gyfer ymarfer proffesiynol.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn archwilio’r gwerthoedd, y ddeddfwriaeth a’r systemau sy’n sail i ofal cymdeithasol o ansawdd uchel.  Mae dysgu academaidd wedi’i integreiddio â gwirfoddoli neu brofiad seiliedig ar waith, gan eich galluogi i gymhwyso theori yn uniongyrchol i leoliadau byd go iawn.  Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych y wybodaeth, yr hyder a’r ddealltwriaeth ymarferol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol ar draws ystod eang o amgylcheddau gofal cymdeithasol.

Dyfernir y cymhwyster gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae’n rhoi sylfaen gref i chi ar gyfer cyflogaeth neu symud ymlaen i astudiaeth bellach yn y sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd.

Pam astudio’r cwrs hwn?
  • Unigryw yng Nghymru — Yr unig Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol o’i math yn y wlad, gyda dros 30 mlynedd o ddatblygu a mireinio.
  • Cwricwlwm sy’n seiliedig ar y diwydiant — Wedi’i ddiweddaru yn 2021 er mwyn adlewyrchu deddfwriaeth, polisi ac arfer gorau cyfredol ar draws y sector gofal cymdeithasol.
  • Partneriaethau cryf â chyflogwyr — Mae cysylltiadau agos â sefydliadau lleol yn cefnogi profiad gwaith o ansawdd uchel, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth yn y dyfodol.
  • Cwmpas eang yn y sector — Mae’n archwilio iechyd meddwl, anableddau dysgu, cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau prawf a gofal cymunedol, gan roi dealltwriaeth eang o’r maes i fyfyrwyr.
  • Dysgu seiliedig ar ymarfer — Mae gwirfoddoli neu brofiad gwaith gofynnol yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso theori yn uniongyrchol i leoliadau byd go iawn.
  • Dull sy’n cael ei arwain  gan werthoedd — Mae’n canolbwyntio ar yr egwyddorion, y foeseg a’r systemau sy’n sail i ymarfer gofal cymdeithasol o ansawdd uchel.
  • Cyfleoedd ar gyfer dilyniant — Mae graddedigion yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda llwybrau clir i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Côd sefydliad:
C22
Côd UCAS:
L500
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Dilysir gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Tîm bach o staff cyfeillgar a grwpiau bach o tua 15-25 o bobl
  • Tiwtoriaid profiadol sy’n gymwys yn academaidd a phroffesiynol hefyd
  • Llawer o gyfleoedd i ddatblygu menter, a sgiliau gweithio mewn grŵp
  • Mae cefnogaeth i fyfyrwyr ar gael ar y safle, sy’n amrywio o gymorth dysgu ar gyfer sgiliau astudio academaidd, i gyngor ariannol a chynghori personol
  • Cysylltiadau gyda gwasanaethau gofal a chymorth lleol y gall myfyrwyr eu defnyddio i gael profiad trwy leoliadau gwirfoddol.

Mae’r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yn darparu dealltwriaeth eang sy’n canolbwyntio ar ymarfer o’r sector gofal cymdeithasol.  Dros y ddwy flynedd, byddwch yn archwilio’r gwerthoedd, y ddeddfwriaeth, y damcaniaethau a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio’n hyderus ac yn broffesiynol mewn ystod eang o leoliadau gofal.  Mae dysgu wedi’i gynllunio i gysylltu theori ag ymarfer yn y byd go iawn trwy wirfoddoli neu brofiad seiliedig ar waith.

Themâu Allweddol y Byddwch chi’n eu Hastudio
  • Gwerthoedd, moeseg ac ymarfer proffesiynol — deall gofal sy’n canolbwyntio ar y person, diogelu, hawliau a chyfrifoldebau.
  • Polisi cymdeithasol a deddfwriaeth — archwilio sut mae deddfau, fframweithiau a blaenoriaethau cenedlaethol cyfredol yn llunio gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Datblygiad dynol ac ymddygiad — archwilio damcaniaethau seicolegol a chymdeithasegol sy’n egluro sut mae pobl yn tyfu, yn dysgu ac yn ymateb i brofiadau bywyd.
  • Iechyd meddwl a lles — deall cyflyrau iechyd meddwl, modelau cymorth, a dulliau cymunedol.
  • Anableddau dysgu ac ymarfer cynhwysol — archwilio strategaethau cymorth, dulliau cyfathrebu a grymuso.
  • Gweithio gyda theuluoedd a chymunedau — datblygu sgiliau ar gyfer ymyrraeth gynnar, cymorth teuluol, a chydweithio amlasiantaethol.
  • Ymchwil ac ymarfer myfyriol — meithrin sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, ymholi a dysgu myfyriol er mwyn cefnogi twf proffesiynol.
  • Dysgu seiliedig ar waith — cymhwyso theori mewn lleoliadau go iawn trwy wirfoddoli strwythuredig neu gyflogaeth yn y sector.
Yn y flwyddyn gyntaf (Lefel 4) byddwch yn astudio:
  • Cyflogadwyedd 1
  • Eiriolaeth a Grymuso
  • Ymarfer Cynhwysol
  • Prif Ddamcaniaethau
  • Sgiliau ar gyfer Dysgu
  • Personoli Gofal a Chymorth
Yn yr ail flwyddyn (Lefel 5), byddwch yn astudio chwech o’r modiwlau canlynol:
  • Cyflogadwyedd 2
  • Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion
  • Ymchwil mewn Gofal Cymdeithasol
  • Archwilio Iechyd Meddwl
  • Dilemâu Moesegol mewn Gofal Cymdeithasol
  • Cefnogi Gofalwyr
  • Cyflwyniad i Droseddeg
  • Deall Camddefnyddio Sylweddau

Gall graddedigion symud i ystod eang o feysydd proffesiynol ar draws y sector gofal cymdeithasol a chymunedol.  Mae meysydd dilyniant cyffredin yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Prawf a Chyfiawnder Ieuenctid — rolau o fewn gwasanaethau prawf, timau troseddwyr ieuenctid, cymorth ailsefydlu, ac adsefydlu cymunedol.
  • Eiriolaeth — cefnogi unigolion i ddeall eu hawliau, mynegi eu barn, a llywio gwasanaethau.
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl — timau iechyd meddwl cymunedol, cymorth mewn argyfwng, gwasanaethau adfer, a llety â chymorth.
  • Cymorth Anableddau Dysgu — rolau preswyl, cymunedol, a byw â chymorth sy’n canolbwyntio ar annibyniaeth a lles.
  • Gwasanaethau Plant a Theuluoedd — ymyrraeth gynnar, cymorth teuluol, diogelu, a gofal plant preswyl.
  • Gwaith Camddefnyddio Sylweddau ac Adfer — cefnogi unigolion yr effeithir arnynt gan gaethiwed trwy raglenni allgymorth, lleihau niwed, ac adfer.
  • Cefnogaeth Digartrefedd a Thai — gweithio gyda phobl sy’n profi digartrefedd, ansicrwydd tai, neu anghenion cymhleth.
  • Datblygu Cymunedol a Lles — rolau mewn prosiectau cymunedol, mentrau cynhwysiant cymdeithasol, a rhaglenni lles.
  • Cyfiawnder Troseddol ac Adsefydlu — cefnogi unigolion sy’n pontio o’r ddalfa yn ôl i’r gymuned.
  • Cydlynu Iechyd a Gofal Cymdeithasol — gweithiwr allweddol, cydlynydd gofal neu rolau cymorth amlasiantaethol.
  • Gofal Oedolion Hŷn a Dementia — rolau cymorth preswyl, gwasanaeth dydd, a chymunedol.
  • Rolau Addysg a Chymorth — rolau cynorthwyydd addysgu, mentor dysgu, neu gymorth bugeiliol mewn lleoliadau addysg.

    Anogir symud ymlaen i BA (Anrh) mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr a dyma’r dewis mwyaf poblogaidd i’n myfyrwyr.  
Sut i wneud cais:

Rhaid i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais trwy UCAS gan ddefnyddio’r cod cwrs L500 a’r cod sefydliad C22.

Mae gwybodaeth am ffioedd ar gael gan yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg a Chyllid Myfyrwyr Cymru.

Caiff y rhaglen hon ei hasesu’n gyfan gwbl drwy waith cwrs, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon. Yn lle arholiadau, byddwch yn cwblhau ystod o aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol sy’n adlewyrchu disgwyliadau gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos, dyddlyfrau myfyriol, adroddiadau, cyflwyniadau, tasgau ymchwil, a thystiolaeth seiliedig ar waith.

Mae’r dull hwn yn cefnogi gwahanol arddulliau dysgu, yn lleihau pwysau profion risg uchel, ac yn adlewyrchu’r math o sgiliau dadansoddol, myfyriol a chyfathrebu sydd eu hangen mewn ymarfer proffesiynol.  Mae hefyd yn caniatáu i chi gymhwyso theori yn uniongyrchol i senarios byd go iawn, gan gryfhau eich datblygiad academaidd a’ch parodrwydd ar gyfer y gwaith.

Efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol oherwydd gallai ymgeiswyr gael eu derbyn os oes ganddynt brofiad, proffesiynol neu bersonol, o’r sector. Fodd bynnag, caiff cymwysterau Mynediad neu gymwysterau cyfwerth ag un cymhwyster Safon Uwch eu hystyried ar gyfer y rheini sydd heb brofiad. Gwneir pob penderfyniad ar sail unigol yn dilyn cyfweliad anffurfiol. 

Mae Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma.

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddangos DBS boddhaol ac i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru. Y myfyriwr sy’n talu am gwblhau’r DBS. Ar hyn o bryd mae hyn yn £55.50.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau