Skip page header and navigation

Gradd Sylfaen Gwyddor Anifeiliaid

  • Campws Pibwrlwyd
2 flynedd yn llawn amser / 3 blynedd yn rhan-amser

Mae’r radd sylfaen hon mewn gwyddor anifeiliaid yn cynnig ystod o gyfleoedd i symud ymlaen i’r rolau amrywiol sydd ar gael yn y sector anifeiliaid ac mae’n edrych ar wahanol agweddau ar astudio gan gynnwys lles anifeiliaid, anthroswoleg a bioleg forol.  

Caiff ei dilysu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin ac mae’n cael ei chyflwyno yng nghanolfan anifeiliaid a cheffylau’r coleg ar ei Gampws ym Mhibwrlwyd lle mae ystod o gyfleusterau anifeiliaid wedi eu lleoli. 

Yn ychwanegol i elfennau craidd, mae’r rhaglen yn annog myfyrwyr i ymchwilio ac i drafod materion cyfoes sy’n ymwneud â rheolaeth anifeiliaid, moeseg, deddfwriaeth a newid amgylcheddol.

Mae rhaglen y cwrs yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dadansoddol beirniadol ac mae’n defnyddio ystod eang o adnoddau deallusol, safbwyntiau damcaniaethol a disgyblaethau academaidd i hwyluso dealltwriaeth o wyddorau anifeiliaid ar draws ystod amrywiol o rywogaethau a meysydd astudio.

Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd ag interniaeth orfodol mewn busnes sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid/yr amgylchedd neu geffylau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
C22
Côd UCAS:
73B8
Hyd y cwrs:
2 flynedd yn llawn amser / 3 blynedd yn rhan-amser

Dilysir gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y coleg gyfleusterau anifeiliaid rhagorol, yn cynnwys arenâu ceffylau dan do ac awyr agored, acwaria, ystafell rhywogaethau egsotig, ystafell mamaliaid bychan ac adardai sy’n gartref i ystod amrywiol o rywogaethau er mwyn bodloni gofynion Cwricwlwm y Radd Sylfaen.

Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr fynediad i ystod o gyfleusterau bywyd gwyllt yn lleol: pwll bywyd gwyllt, safleoedd ar lan afon ac ar yr arfordir, perthi ffermdir a chynefinoedd coedwig er mwyn ymgymryd â’u hastudiaethau.

Mae israddedigion yn ymgymryd â modiwlau seiliedig ar waith ar lefelau pedwar a phump.

Mae myfyrwyr llawn amser yn astudio 120 credyd ar lefel 4 blwyddyn 1 a lefel 5 ar gyfer blwyddyn 2.

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn ymgymryd ag 80 credyd y flwyddyn.

Bydd myfyrwyr llawn amser yn astudio nifer o fodiwlau ar Lefel 4 ar gyfer blwyddyn 1 a lefel 5 ar gyfer blwyddyn 2  

Lefel 4

  • Gweithio yn y Diwydiant Anifeiliaid 1 (gorfodol)
  • Maetheg Anifeiliaid (gorfodol)
  • Sgiliau Astudio (gorfodol)
  • Ymddygiad Anifeiliaid (gorfodol)
  • Hwsmonaeth a Rheoli Iechyd Anifeiliaid (opsiwn)
  • Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid (gorfodol)
  • Bioleg Forol (opsiwn)

Lefel 5

  • Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid Cymharol (gorfodol)
  • Gweithio yn y Diwydiant Anifeiliaid 2 (gorfodol)
  • Lles Anifeiliaid (gorfodol)
  • Bridio Anifeiliaid (gorfodol)
  • Anthroswoleg (gorfodol)
  • Bioleg Cadwraeth (gorfodol)

Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau sy’n trosglwyddo’n rhwydd i fyd gwaith.     Gall llwybrau cyflogaeth gynnwys gofalwyr sŵau, cynorthwywyr nyrsio anifeiliaid, rheolwyr adwerthu anifeiliaid anwes, rheolwyr cadwraeth, technegwyr anifeiliaid, maethegydd anifeiliaid, bridwyr anifeiliaid, rheolaeth tyddyn, rheolaeth forol, gweithwyr achub anifeiliaid, gweithwyr ymchwil/ labordy, swyddogion lles DEFRA / llywodraeth leol, rheolwyr cyndai a chathdai, gweithwyr elusennol, addysgu.

Mae’r cwrs yn caniatáu dilyniant i gwrs BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid (ar Lefel 6) y coleg a cheisiadau yn ychwanegol i raglenni anrhydedd eraill a gyflwynir mewn sefydliadau eraill.

Caiff pob modiwl ei asesu’n unigol.  Defnyddia’r rhaglen ystod o ddulliau asesu fel bod yr holl fyfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddangos eu cryfderau ac er mwyn hybu eu sgiliau allweddol graddedig.  Mae’r dulliau asesu yn cynnwys adroddiadau ysgrifenedig, prosiectau ymchwil, asesiadau ymarferol, traethodau a chyflwyniadau.

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n dangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen.

Disgwylir i ddysgwyr feddu ar bedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd ag 16 o bwyntiau UCAS. Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hŷn nad ydynt efallai’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad, yn seiliedig ar eu profiad, asesiad cyfweliad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi’u hennill sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â’r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai’r rhain gynnwys y Diploma Technegol Uwch lefel 3 a’r Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau, Diploma Estynedig lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau, y Fagloriaeth lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau.

Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma.

Llwyddiant Myfyrwyr

Er gwaethaf heriau iechyd personol a theuluol anferth, gan gynnwys treulio pum wythnos yn yr ysbyty ar ôl clwstwr o ffitiau epileptig, mae’n gwrthod gadael i’r cyflwr ei diffinio. Y diwrnod ar ôl cael ei thynnu oddi ar beiriant anadlu ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty am y tro cyntaf, eisteddai yn yr uned gofal dwys yn cwblhau cyflwyniad at ei Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Lles ac Ymddygiad Anifeiliaid.

Mandy outside the animal studies centre (with sign) holding her white furred dog Daisy

Every year, animal behaviour and welfare degree students delve into the heart of real-life challenges within the industry, through their individual research projects.

The individual research project, focused on animal welfare issues is a pivotal component of the course which is taught at the end of the degree.

All the students involved in a row looking at the camera