Skip page header and navigation

Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu

  • Campws Rhydaman
18 Mis

Ewch â’ch gyrfa i’r lefel nesaf gyda’r cwrs Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu —rhaglen ran-amser 18 mis sydd wedi’i chynllunio i gyd-fynd â’ch bywyd gwaith. 

Wedi’i ddilysu a’i achredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r cwrs hwn, a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sydd eisoes yn y diwydiant, yn adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch profiad presennol, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a symud ymlaen i rolau uwch neu radd anrhydedd.

Dyma lwybr hyblyg, sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, i’ch helpu i symud ymlaen—heb orfod camu yn ôl yn y gwaith.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Côd sefydliad:
C22
Hyd y cwrs:
18 Mis

Dilysir gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddiwallu gofynion datblygol yr amgylchedd adeiledig trwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant adeiladu sydd ohoni. Mae’n arwain at radd sylfaen gydnabyddedig sydd wedi’i theilwra i anghenion cyfredol y diwydiant ac yn y dyfodol. Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol os ydych chi eisoes yn gweithio mewn rôl sy’n gysylltiedig ag adeiladu a bod cyfrifoldeb yn rhan o’ch swydd, gan gynnig llwybr ymarferol i ddatblygiad pellach o ran eich gyrfa neu’n academaidd.

Mae’r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys pum modiwl (cyfanswm o 120 o gredydau lefel pump).  Dyfernir cymhwyster pan fydd yr holl fodiwlau wedi’u cwblhau’n llwyddiannus. 

  • Datblygu Cynaliadwy 
  • Technoleg Adeiladu 2
  • Ymarfer Proffesiynol
  • Ymchwil Beirniadol
  • Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfle i’r rheiny sy’n dymuno symud ymlaen, neu ddechrau, mewn ystod o yrfaoedd sy’n gysylltiedig ag adeiladu megis technoleg bensaernïol, rheolaeth prosiectau, rheoli adeiladu, tirfesur, rheolaeth safle, cynnal a chadw a gwasanaethau.   Mae yna gyfle i’r rheiny sy’n astudio ar y lefel hon i symud ymlaen i raglen astudio gradd anrhydedd yn amodol ar gwblhau’r modiwlau a chredydau gofynnol yn llwyddiannus.

Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau, ynghyd â dyddiadur profiad gwaith cymeradwy (ar gyfer y dyfarniad llawn). 

HNC Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu (120 credyd L4) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) sy’n gysylltiedig ag adeiladu neu gyfwerth gyda phroffil credyd priodol yn amodol ar gymeradwyaeth y brifysgol. 

Mae’r brifysgol yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Gellir cael manylion pellach gan diwtor y cwrs. 

Gweler ein polisi ffioedd am y costau cyfredol ar gyfer cyrsiau AU.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.