
Tystysgrif Genedlaethol Uwch Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu
- Campws Rhydaman
Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa gyda’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu. Mae’r cwrs rhan-amser 18 mis hwn, sydd wedi’i ddilysu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector rheoli adeiladu neu sy’n gobeithio ymuno â’r sector hwnnw.
Byddwch yn adeiladu ar eich profiad neu eich astudiaethau presennol, gan ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer rolau technegydd uwch neu ddatblygiad academaidd pellach.
Mae’r rhaglen yn cael ei chydnabod gan y diwydiant a chyrff proffesiynol fel y Sefydliad Adeiladu Siartredig, gan sicrhau bod eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi a’i barchu ar draws y diwydiant rheoli adeiladu.
P’un a ydych chi’n awyddus i symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu symud i faes newydd, mae’r cwrs hwn yn cynnig sylfaen ymarferol ac academaidd i’ch helpu i lwyddo mewn maes sy’n tyfu’n gyflym.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Dilysir gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Astudio rhan-amser.
- Cynllun modiwlaidd
- Cydnabyddir gan gyrff diwydiannol a phroffesiynol fel y Sefydliad Adeiladu Siartredig
- Cymhwyster annibynnol
Mae’r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys o leiaf chwe modiwl penodol (cyfanswm o 120 o gredydau lefel pedwar). Dyfernir y cymhwyster llawn pan fydd yr holl fodiwlau wedi’u cwblhau.
Modiwlau Penodol -
- Technoleg Adeiladu 1
- Egwyddorion Adnewyddu
- Goruchwylio Safle a Gweithrediadau
- Gofynion Cyfreithiol a Statudol ym maes Adeiladu
- Cymwysiadau Digidol ar gyfer Gwybodaeth Adeiladu
- Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Gall cwblhau’r HNC yn llwyddiannus wella rhagolygon gyrfa o fewn y diwydiant adeiladu a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig megis gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd, cyfleustodau wedi’u preifateiddio a diwydiannau eraill sy’n berchen ar eiddo. Gellir uwchraddio’r cymhwyster i radd sylfaen gydag astudiaeth bellach.
Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau, prosiectau, profion cyfnodol ac arholiadau.
- Cymhwyster technegol lefel 3 sy’n gysylltiedig ag adeiladu
- Dau gymhwyster Safon Uwch
- Myfyriwr hŷn gyda phrofiad, yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus
- NVQ Lefel 3 mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig ag adeiladu
Gweler ein polisi ffioedd am y costau cyfredol ar gyfer cyrsiau AU.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.