Skip page header and navigation

gofal24

gofal24

Sgiliau hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, cymorth cyntaf, a rhoi gofal

care24 logo

Beth yw gofal24?

Mae rhaglen Gofal24 Coleg Sir Gâr yn cefnogi unigolion sydd yn gweithio neu sydd ar fin gweithio yn sector gofal Sir Gaerfyrddin. Mae’r sector hwn yn cynnwys gofal plant, gofal yn y gymuned, cefnogaeth breswyl, a mwy.

Mae Gofal24 yn gwella sgiliau a gwybodaeth ar draws y sir, gan ddechrau gyda rhaglen Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin. Mae ein hyfforddiant yn symud ymlaen i gyrsiau arbenigol wedi’u teilwra i anghenion cyflogwyr a llwybrau datblygu ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r maes gofal neu sydd eisoes ynddo. 

Rydyn ni’n dathlu a hyrwyddo’r sector gofal trwy ymgysylltu â’r gymuned leol a chyflogwyr i amlygu cyfleoedd gyrfaol mewn iechyd a gofal cymdeithasol. P’un a ydych yn newydd i’r diwydiant neu mae gennych flynyddoedd o brofiad, gall Gofal24 eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a darparu gofal o ansawdd uchel.

Gofalwr, yn gwisgo ffedog feddygol las, yn rhoi rhwymyn ar bigwrn claf

Testimonial

"Mae'r cynllun cychwynnol yn cynnwys elfennau hyorddiant hanfodol sy'n hollbwysig i weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn ogystal, nodwyd bod hyorddi a mentora yn fodd i wella a sicrhau y darperir gwasanaethau o ansawdd uchel yn Sir Gaerfyrddin."
Carers Trust Crossroads West Wales

Cwrdd â'r Tîm

  • Tim Gill

    Tim yw cydlynydd prosiect gofal24, gyda blynyddoedd lawer o
    brofiad mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys
    addysgu, adsefydlu ymarfer cor, iechyd meddwl a thrawma, a
    rheoli straen.

    “Rwy’n odus iawn o fod yn gydlynydd prosiect gofal24 lle mae
    fy rôl yn cynnwys sicrhau bod gweithrediad llyfn yn cael ei
    gynnal o ran darparu hyorddiant a chydweithio ag ystod o’n
    partneriaid. Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio o dan
    ymbarél Iechyd a Gofal, ac rwyf wedi bod yn ddigon odus bod
    fy ngyrfa hefyd wedi fy ngalluogi i fwynhau fy nwydau personol
    mewn amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau. Rwy’n
    credu’n gryf y bydd y prosiect hwn nid yn unig yn helpu’r rhai
    sy’n chwilio am waith mewn gofal ond hefyd yn helpu’r rhai sy’n
    cael eu cyflogi yn y sector i ddatblygu yn eu rolau a derbyn DPP
    amhrisiadwy.”

  • Nadine Evans

    Mae gan Nadine dros ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gofal, yn amrywio o ofal yr henoed i iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae ganddi hefyd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a gwybodaeth am y sector gofal plant.

    “Roedd gweithio yn y sector gofal yn brofiad gwerth chweil iawn i mi gan fy mod wedi gallu gwneud gwahaniaeth a chael eaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Rwy’n angerddol am greu cyfleoedd i bawb ac o’r herwydd, rwyf am ddod â chymaint o bosibiliadau ar gyfer cyflogaeth, iechyd a lles, yn ogystal â chyfleoedd seiliedig ar sgiliau, i unigolion yn Sir Gaerfyrddin. Rwy’n credu fy mod i’n ysgogydd da ac mae gen i angerdd i rymuso eraill i gyflawni.”

Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin

A care24 male tutor teaching a first aid class wearing a black care24 polo shirt
Dysgwyr gofal24 yn ymarfer technegau cymorth cyntaf ar ei gilydd

Mae rhaglen hyorddi Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin Care 24 yn darparu sylfaen gref o wybodaeth sydd ei hangen i ddechrau gyrfa mewn gofal, neu i ddatblygu’r sgiliau sydd gennych eisoes. Mae’r rhaglen safon aur cymwysterau a hyorddiant gofal yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig cyfleoedd datblygu a hyorddiant, a ddarperir gan dîm o arbenigwyr cyfeillgar. Drwy’r rhaglen hon, gallwch ddisgwyl dysgu gwybodaeth sylfaenol, sgiliau technegol, a sgiliau lles a sgiliau meddal i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa mewn gofal.

Mae’r hyorddiant yn addas ar gyfer gofalwyr ifanc, pobl sy’n chwilio am waith ym maes gofal oedolion neu ofal plant, a’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal sydd am ddatblygu eu sgiliau – naill ai i fodloni gofynion eu rôl neu fel rhan o’u DPP.

Bydd cwblhau’r rhaglen hyorddi hon yn agor cyfleoedd ar gyfer datblygiad a hyorddiant pellach, y gall Care 24 eich cefnogi gyda nhw. Gall y rhain gynnwys prentisiaethau, astudiaethau coleg, hyorddiant rheoli ac arweinyddiaeth, cymwysterau TG a digidol, a mwy.

Cysylltwch â ni!

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau hyfforddi ychwanegol, cysylltwch â tim.gill@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch 01554 748167

Fel arall, edrychwch ar ein Ap gofal24 am y newyddion a’r diweddariadau diweddaraf am gyrsiau.