Skip page header and navigation

gwyrdd24

Galluogi Gwybodaeth ym maes Cynaladwyedd

green24 logo

Beth yw Gwyrdd 24?

Cyrsiau byr wedi’u hariannu’n llawn i gefnogi taith Sir Gaerfyrddin i Sero Net

Yn 2019, cyhoeddodd Cyngor Sir Gâr Argyfwng Hinsawdd a Natur, gan alw am weithredu brys, ar y cyd i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu. Gyda thargedau Sero Net uchelgeisiol wedi’u gosod ar gyfer 2030, mae’n hanfodol bod gan unigolion, cymunedau a busnesau’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Menter Gwyrdd 24 yw ein hymateb ni i’r alwad honno — prosiect unigryw, sy’n cael ei yrru’n lleol ac sy’n cynnig hyfforddiant am ddim sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU fel rhan o’r Gronfa Bontio ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

green24 logo
P’un a ydych chi’n unigolyn sydd â diddordeb i feithrin eich gwybodaeth gwyrdd, yn gyflogwr sy’n awyddus i uwchsgilio’ch tîm, neu’n rhywun sy’n chwilio am gyfeiriad newydd sy’n cyd-fynd â nodau ar gyfer yr hinsawdd, mae Gwyrdd 24 yn addas ar eich cyfer chi.
green24 workshop

Pictures

People standing around a cardboard tree with their green24 pledges
Classroom full of students during a green24 workshop, surrounded by green24 branding

Beth mae Gwyrdd 24 yn ei gynnig?

01
Cyrsiau byr, wedi'u hariannu'n llawn sy'n canolbwyntio ar gynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, a gweithredu ar newid hinsawdd
02
Llwybrau sy'n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu ar Argyfwng Hinsawdd a Natur Sir Gaerfyrddin
03
Cyfleoedd i ennill cymwysterau achrededig ac ysbrydoli newid yn eich gweithle neu yn eich cymuned

Dysgu ymarferol, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol

Caiff Gwyrdd 24 ei gyflwyno gan yr Academi Sgiliau Gwyrdd yng Ngholeg Sir Gâr, gan ddod â hyfforddwyr arbenigol, adnoddau cyfoes, ac uchelgais a rennir ar gyfer Sir Gaerfyrddin gwyrddach, mwy gwydn ynghyd.

Classroom during a green24 workshop, tutor is presenting at the front of the room, with the backs of all students facing the camera

Ar gyfer pwy mae hwn?

Ar gyfer pwy mae hwn?

Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd y cam cyntaf ym maes cynaladwyedd—boed hynny er budd personol, y gweithle, datblygiad gyrfa, neu er mwyn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Beth sydd nesaf?

Beth sydd nesaf? Gallwch symud ymlaen i astudio ar gyfer cymwysterau cynaladwyedd IEMA lefel uwch neu ein Prentisiaeth mewn Rheoli Ynni—gan adeiladu llwybrau gyrfa go iawn yn yr economi werdd.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer bwciadau, dyddiadau cyrsiau sydd ar gael ac unrhyw gwestiynau eraill a all fod gennych, cysylltwch â ni ar 01554 748344 neu e-bostiwch greenskillsacademy@colegsirgar.ac.uk