Skip page header and navigation
Six students lined up in their red and blue rugby kits

Mae Academi Rygbi Coleg Sir Gâr yn dathlu nifer o anrhydeddau ym myd chwaraeon eleni.

Mae Kai Jones wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm Cymru dan 18 oed ac i dîm Cymru dan 19 oed ac enillodd Sion Jones, Jake Bowen, Osian Williams a Lewis Jones eu hanrhydeddau cenedlaethol.

Enillodd Abigail Richards gap dan 18 oed a hi yw’r chwaraewraig gyntaf dan 18 oed i wneud hynny yng Ngholeg Sir Gâr.

Meddai Osian Williams, cynrychiolydd tîm dan 19 oed Cymru: “Mae’n fraint cael chwarae dros fy ngwlad gan wybod bod y gwaith caled yn talu ar ei ganfed. 

“Aeth fy nhad â fi i Glwb Rygbi Hwlffordd a dw i heb edrych yn ôl ers hynny. 

“Rydw i’n mwynhau amgylchedd academi’r coleg gan ei fod yn fy ysbrydoli i ddatblygu ar y cae ac oddi arno.”

Mae Abigail Richards, sydd wedi cael ei dewis i dîm dan 18 oed Cymru, wedi bod yn chwarae rygbi ers pan oedd hi’n chwech oed a dewisodd astudio yng Ngholeg Sir Gâr oherwydd ei academi i ferched. 

Meddai Abigail Richards: “Roeddwn i’n chwarae i Glwb Rygbi Gorseinon a’r hybiau merched nes fy mod i’n 11 oed pan nad oeddwn i’n gallu chwarae gyda’r bechgyn mwyach. 

“Er fy mod i’n byw yn Abertawe, fe wnes i ddewis mynychu Coleg Sir Gâr oherwydd bod ganddyn nhw academi rygbi i ferched. Rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny oherwydd nid yn unig mae wedi rhoi’r cyfle i mi hyfforddi a chwarae i’r coleg ond rydw i hefyd wedi cwrdd â llawer o ferched sy’n dwlu ar rygbi cymaint â fi. 

“Roedd chwarae i’r coleg yn golygu bod gen i gyfleoedd i chwarae gemau cystadleuol na fyddwn i wedi’u cael pe bawn i wedi mynd i goleg heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rygbi merched. 

“Trwy gemau’r coleg y cefais fy adnabod fel rhywun â photensial i fynd ymhellach. 

“Rydw i wir wedi mwynhau fy mhrofiadau drwy rygbi’r coleg a’r ganolfan datblygu chwaraewyr ac rydw i’n ddiolchgar am gael y cyfle i gynrychioli fy ngwlad yng Ngŵyl y 6 Gwlad yng Ngholeg Wellington eleni.”

Mae’r myfyriwr Dom Kossuth yn chwaraewr sydd wedi cynrychioli Cymru yn y tîm dan 18. Mae e wedi dioddef anaf yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ond trwy academi’r coleg, rhoddwyd rôl oddi ar y cae iddo sy’n cefnogi’r academi rygbi. “Mae’n fraint cael chwarae dros fy ngwlad,” meddai.  Dechreuais yng Nghydweli lle gwnaeth fy athro yn yr ysgol gynradd a fy ffrind fy annog i chwarae ac rydw i wedi bod wrth fy modd ers hynny. Fy rôl i yn yr academi yw ysgogi a chadw’r safonau’n uchel gan ei fod yn ein helpu ni i gyd i ddatblygu.”

Abigail Richards looking at the camera with folded arms in kit

Er fy mod i’n byw yn Abertawe, fe wnes i ddewis mynychu Coleg Sir Gâr oherwydd bod ganddyn nhw academi rygbi i ferched. Rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny, oherwydd nid yn unig mae wedi rhoi’r cyfle i mi hyfforddi a chwarae i’r coleg, ond rydw i hefyd wedi cwrdd â llawer o ferched sy’n dwlu ar rygbi cymaint â fi. Roedd chwarae i’r coleg yn golygu bod gen i gyfleoedd i chwarae gemau cystadleuol na fyddwn i wedi’u cael pe bawn i wedi mynd i goleg heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rygbi merched.Trwy gemau’r coleg y cefais fy adnabod fel rhywun â photensial i fynd ymhellach.  Abigail Richards OD18s

Osian in his kit looking at the camera with folded arms

Rydw i’n mwynhau amgylchedd academi’r coleg gan ei fod yn fy ysbrydoli i ddatblygu ar y cae ac oddi arno.” Osian Williams OD19s

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau