Skip page header and navigation
The rabbit from Alice in Wonderland on a teapot. The handle is red and is a flamingo head/neck.

Mae myfyrwyr yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr yn arddangos eu gwaith diwedd blwyddyn ar gampws Heol Ffynnon Job yr ysgol yng Nghaerfyrddin ac maen nhw’n croesawu ymwelwyr i gefnogi artistiaid newydd datblygol. 

Cynhelir yr arddangosfeydd rhwng 23 Mai a 4 Mehefin ac fe fyddant yn cynnwys gwaith gan fyfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod amrywiol o ddisgyblaethau creadigol, gan gynrychioli uchafbwynt blynyddoedd o astudio, arbrofi a datblygiad artistig.

Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld gwaith arloesol mewn celfyddyd gain, cerameg, ffotograffiaeth, celf gysyniadol a darlunio, tecstilau, gemwaith, dylunio 3D ac animeiddio, dylunio ffasiwn a gwaith amlddisgyblaethol. 

Bydd gwaith 46 o fyfyrwyr yn cael ei gynnwys yn yr arddangosfa. 

Ceramic pieces
two human hands/arms, one with a tattoo. It's all black and white and they are holding a ceramic piece shaped like a simplified human shape

“Mae ein myfyrwyr wedi cynhyrchu corff anhygoel o waith sy’n herio ffiniau ac yn tynnu sylw at y sgil a’r dychymyg eithriadol sy’n dod i’r amlwg yng Ngorllewin Cymru,” meddai llefarydd ar ran Ysgol Gelf Caerfyrddin. “Mae’r sioe hon yn ddathliad o’u gwytnwch a’u creadigrwydd, ac rydyn ni’n gwahodd y gymuned i ddod a’i phrofi drostyn nhw eu hunain.”

“Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn enwog am ei hamgylchedd anogol, sy’n arbenigo mewn sgiliau traddodiadol ynghyd â thechnegau cyfoes ac mae ganddi hanes balch a chyfoethog o gynhyrchu talent artistig ac ymarferwyr blaenllaw a hynny’n genedlaethol ac yn rhyngwladol hefyd.

Bydd y sioe radd flynyddol yn agor o ddydd Gwener, 22 Mai am 5.30pm. 

Ym mis Mai, mae’r arddangosfa ar agor ar ddydd Sadwrn, 23 Mai o 10am i 1pm a rhwng 27 a 29 Mai mae ar agor o 9.30am i 4pm. 

Ym mis Mehefin, mae ar agor rhwng 1 a 4 Mehefin o 9.30am i 4pm gyda dwy noson opsiynol ar 2 Mehefin a 4 Mehefin tan 7pm. 

I gysylltu ag Ysgol Gelf Caerfyrddin, e-bostiwch csofa@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch 01554 748201.

Dilinwch yr ysgol celf:

https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt/ 

https://www.instagram.com/carmarthenschoolofart/ 

A photographic image of a petrol garage forecourt at night

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau