Bethan yn cyflawni gwobr arian Dug Caeredin
Mae myfyrwraig peintio ac addurno yng Ngholeg Sir Gâr wedi cyflawni ei gwobr arian yn her Dug Caeredin (DofE).
Dewisodd Bethan Morgan ymgymryd â’r her er mwyn profi iddi hi ei hun y gallai ei wneud. Mae’n dweud ei bod yn teimlo’n falch iawn ei bod hi wedi gwneud hynny, er gwaethaf yr heriau corfforol a meddyliol a wynebodd hi.
Dwy eiliad gofiadwy y mae Bethan yn sôn amdanynt oedd cyrraedd safle gwirio’r alltaith cyn i’r bws gyrraedd a bod yn ansicr a oeddent yn y lle cywir ond mynd yn eu blaen nes iddynt gyrraedd y diwedd.
Yr ail oedd dod o hyd i lwybr gwahanol i lawr y mynydd oherwydd bod glaw trwm wedi gwneud y tir yn fwy heriol.
Meddai Bethan Morgan: “ “Y rhwystr mwyaf a wynebais oedd fy ngallu i siarad â phobl eraill ac fe wnes i orchfygu hyn”.
“Yn bendant gwnes i wella fy sgiliau cyfathrebu wrth wneud yr her DofE ac mae wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus wrth siarad â phobl yn yr ystafell ddosbarth a thu allan i’r coleg.
“Roedd fy ngwobr efydd gen i eisoes ond roedd cynllunio’r arian yn fwy anodd oherwydd doeddech chi ddim yn gallu cael gormod o help gan staff.
“Hefyd fe wnes i ddarganfod, pan fyddaf yn canolbwyntio, rwy’n dda iawn yn darllen map a dod o hyd i leoliad ar fap.
“Mae cyflawni gwobr Dug Caeredin wedi fy helpu i brofi i mi fy hun fy mod i’n gallu wynebu pa rwystr bynnag a ddaw i’m rhan mewn bywyd.”
Mae gwobr arian Dug Caeredin yn gofyn i gyfranogwyr gwblhau chwe mis o wirfoddoli, ymrwymo i gadw tystiolaeth o sgiliau a gwaith corfforol am hyd at dri a chwe mis a chymryd rhan mewn alltaith awyr agored dros ddwy noson a thri diwrnod.